Gwneud cais i gofrestru fel asiant awdurdodedig Tŷ'r Cwmnïau
Sut i ddefnyddio ein gwasanaeth i gofrestru fel Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA), a elwir hefyd yn asiant awdurdodedig Tŷ'r Cwmnïau.
I wirio hunaniaeth cleientiaid Tŷ’r Cwmnïau, rhaid i asiantau gofrestru fel Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA). Gelwir hyn hefyd yn asiant awdurdodedig.
Rhaid i’r asiant eisoes fod wedi cofrestru gyda chorff goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian (AML).
1. Gwiriwch os gallwch wneud cais
Os ydych yn unig fasnachwr, gallwch gofrestru eich hun fel asiant awdurdodedig.
I gofrestru busnes fel asiant awdurdodedig Tŷ’r Cwmnïau, rhaid bod gennych rôl uwch. Rhaid i chi fod yn un o’r canlynol:
- cyfarwyddwr
- partner cyffredinol
- partner
- aelod
Byddwch yn gallu ychwanegu pobl eraill sy’n gweithio i’r busnes i’r cyfrif asiant unwaith y bydd wedi’i gofrestru.
Os ydych chi’n cofrestru corff corfforedig
Os yw’r corff yn cael ei reoli gan eu haelodau, rhaid i chi fod yn aelod o’r corff. Fel arall, rhaid i chi fod yn gyfatebol i gyfarwyddwr.
Os ydych chi’n cofrestru endid anghorfforedig
Os yw’r corff yn cael ei reoli gan eu haelodau, rhaid i chi fod yn aelod o’r corff. Fel arall, mae’n rhaid i chi fod yn aelod o’r corff llywodraethu.
2. Gwiriwch eich hunaniaeth
Bydd angen i chi gwirio eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau cyn y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i gofrestru asiant awdurdodedig.
Os nad ydych wedi gwirio cyn i chi ddechrau eich cais, byddwn yn gofyn i chi ei wneud pan fyddwch yn dechrau.
Gallwch wirio eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau o’r 25 Chwefror 2025.
3. Dywedwch wrthym am y busnes
Bydd y manylion y mae angen i chi eu rhoi yn dibynnu ar y math o fusnes rydych yn ei gofrestru.
Cwmnïau cyfyngedig a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig (PAC)
Bydd angen i chi ddweud wrthym:
- rhif y cwmni
- cod dilysu’r cwmni
- cyfeiriad gohebiaeth
- cyfeiriad e-bost ar gyfer gohebiaeth
Byddwn hefyd yn gofyn i ba sector busnes rydych chi’n gweithio ynddo. Mae hyn yn opsiynol.
Byddwn yn gwirio bod eich corff goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian yn dal enw’r cwmni a ddangosir ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau. Os yw’r cofrestriad Atal Gwyngalchu Arian mewn enw gwahanol, bydd angen i chi ddiweddaru hyn cyn i chi wneud cais.
Unig fasnachwyr
Gallai hyn olygu eich bod yn hunangyflogedig ac wedi cofrestru gyda CThEF ar gyfer Hunanasesiad.
Bydd angen i chi ddweud wrthym:
- eich enw
- eich enw busnes os oes gennych un
- eich dyddiad geni
- eich cenedligrwydd
- y wlad rydych chi’n byw ynddi (os ydych chi’n byw yn y Deyrnas Unedig, bydd angen i chi ddweud wrthym ba ran)
- eich cyfeiriad gohebiaeth (rhaid i hyn fod yn y Deyrnas Unedig)
- eich cyfeiriad e-bost ar gyfer gohebiaeth
- os yw’ch corff goruchwylio’n dal eich enw, eich enw busnes, neu’r ddau
Byddwn hefyd yn gofyn i ba sector busnes rydych chi’n gweithio ynddo. Mae hyn yn opsiynol.
Mathau eraill o fusnes
Os ydych yn cofrestru:
- partneriaeth gyfyngedig (LP)
- partneriaeth
- corff corfforedig( heb gynnwys cwmnïau cyfyngedig neu bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig)
- endid anghorfforedig (heb gynnwys unig fasnachwyr)
Bydd angen i chi ddweud wrthym:
- enw’r busnes
- cyfeiriad busnes (rhaid i hyn fod yn y Deyrnas Unedig)
- cyfeiriad gohebiaeth
- cyfeiriad e-bost ar gyfer gohebiaeth
Os ydych wedi cofrestru gyda’r corff goruchwylio Atal gwyngalchu arian gyda’ch enw eich hun, bydd angen i chi roi eich enw. Fel arall, byddwn yn gwirio bod corff goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian yn dal enw’r busnes.
Byddwn hefyd yn gofyn i ba sector busnes rydych chi’n gweithio ynddo. Mae hyn yn opsiynol.
4. Dywedwch wrthym y manylion cofrestru Atal Gwyngalchu Arian (AML)
Rhaid i’r busnes fod wedi cofrestru gyda chorff goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian y Deyrnas Unedig.
Bydd angen i chi ddweud wrthym:
- enwau’r cyrff goruchwylio y mae’r busnes wedi’u cofrestru gyda
- Rhifau aelodaeth Atal Gwyngalchu Arian neu ID
Byddwn yn cadarnhau bod gan y corff goruchwylio’r un enw a rhif aelodaeth ar gyfer eich busnes. Os nad yw’r manylion yn cyd-fynd, byddwn yn gwrthod eich cais.
Efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i ni gadarnhau’r manylion hyn os mai dim ond yn ddiweddar rydych wedi cofrestru gyda’r corff goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian.
Sut i ddod o hyd i’ch rhif aelodaeth
Yn dibynnu ar eich corff goruchwylio, efallai y gallwch ddod o hyd i hyn ar:
- eich tystysgrif ymarfer
- cyfathrebu gan y corff goruchwylio
- cofrestr ar-lein y corff goruchwylio
Efallai y bydd gan eich corff goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian enw gwahanol ar ei gyfer, fel:
- rhif neu ID cwmni
- ID rheoliad
- ID Atal Gwyngalchu Arian
Dylech gysylltu â’r corff goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian os oes angen i chi wirio’ch manylion.
5. Cadarnhewch eich cyfrifoldebau cyfreithiol
Bydd angen i chi gadarnhau eich bod yn derbyn eich cyfrifoldebau cyfreithiol fel asiant awdurdodedig.
Ar ôl cofrestru, rhaid i asiantau awdurdodedig:
- bob amser fod wedi cofrestru gydag o leiaf un corff goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian yn y Deyrnas Unedig
- rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i fanylion yr Asiant Awdurdodedig
- cadw cofnodion a darparu mwy o wybodaeth am ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau os gofynnir
I gael rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau’r asiant awdurdodedig a sut i gydymffurfio, darllenwch y cyfarwyddyd ar gyfer asiantau awdurdodedig.
Gallwch wneud cais i gofrestru fel asiant awdurdodedig Tŷ’r Cwmnïau o’r 25 Chwefror 2025.
6. Ar ôl i chi gofrestru
Os derbynnir eich cais, byddwn yn cofrestru’ch busnes fel asiant awdurdodedig.
Byddwn yn creu cyfrif asiant awdurdodedig ar gyfer y busnes. Gallwch gael mynediad at hyn a gwasanaethau ar gyfer asiantau awdurdodedig pan fyddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif Tŷ’r Cwmnïau.
Darllenwch y cyfarwyddyd ar gyfer asiantau awdurdodedig i ddarganfod sut i reoli eich cyfrif asiant, gan gynnwys sut i ychwanegu defnyddwyr eraill.
Pa wybodaeth y byddwn yn ei chyhoeddi ar-lein
Ni fyddwn yn cyhoeddi gwybodaeth i ddangos bod busnes wedi cofrestru fel asiant awdurdodedig.
Fodd bynnag, os oes angen i ni atal busnes rhag gweithredu fel asiant awdurdodedig, neu os yw busnes yn stopio bod yn asiant awdurdodedig, byddwn yn cyhoeddi:
- enw’r busnes neu’r unig fasnachwr
- statws - i ddangos a yw wedi’i atal, neu os yw wedi stopio fod yn asiant awdurdodedig
- dyddiad y newidiwyd y statws
Os bydd person yn defnyddio asiant awdurdodedig i wirio pwy ydyw, byddwn yn dangos rhywfaint o wybodaeth am yr asiant sydd wedi’u gwirio.
Pan fydd y person yn cysylltu ei gwiriad hunaniaeth â’n cofnodion, byddwn yn dangos:
- enw’r asiant awdurdodedig
- enwau cyrff goruchwylio Atal-Gwyngalchu Arian (AML) mae’r asiant wedi’i gofrestru â nhw