Awdurdodi ymgynghorydd elusen i anfon cyfrifon
Dweud wrth y Comisiwn Elusennau rydych chi am i gyfrifydd eich elusen neu ymgynghorydd arall anfon cyfrifon ar ran yr ymddiriedolwyr.
Yn berthnasol i England and Gymru
Pryd i anfon cyfrifon
Mae’n rhaid i chi anfon cyfrifon eich elusen i’r comisiwn bob blwyddyn os yw’n:
- sefydliad corfforedig elusennol (SCE) - waeth beth fo’i incwm
- elusen gofrestredig ac mae ei hincwm gros dros £25,000
Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr elusen sicrhau bod eu cyfrifon yn cael eu paratoi a’u hanfon o fewn 10 mis o ddiwedd y flwyddyn ariannol. Gallwch chi:
- eu hanfon nhw eich hunain - mewngofnodi neu gael cyfrinair
- dirprwyo’r dasg i ymgynghorydd - gweler isod
Ymddiriedolwyr elusen: sut i roi awdurdod i’ch cynghorwr gyflwyno eich cyfrifon.
O leiaf diwrnod cyn rydych am i’r cynghorwr gyflwyno’r cyfrifon:
-
rhowch gyfeiriad e-bost y trydydd parti dibynadwy a byddwn yn diweddaru eich cyfrif ar-lein
Pan fydd hyn wedi cael ei gwblhau bydd y cynghorwr yn gallu dilyn y camau nesaf i gyflwyno’r cyfrifon.
Ymgynghorwyr elusen: sut i anfon cyfrifon ar gyfer cleient sy’n elusen
Pan fydd cyfrifon yr elusen wedi’u paratoi a’u cytuno gan yr ymddiriedolwyr:
- cofrestrwch i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn - cewch e-bost gyda manylion mewngofnodi a chyfrinair 8 nod
- mewngofnodwch - fe welwch restr o elusennau sydd wedi’ch awdurdodi i anfon eu cyfrifon
- cliciwch ar enw’r elusen i lanlwytho ei chyfrifon fel ffeil PDF.
Os nad ydych yn gweld elusen rydych yn disgwyl ei gweld, gofynnwch i’r elusen wirio ei bod wedi awdurdodi’r cyfeiriad e-bost cywir (yr un a ddefnyddioch chi i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth) o leiaf 1 diwrnod yn ôl.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 October 2017 + show all updates
-
How to let us know if you want your charity’s accountant or other adviser submit accounts on trustees’ behalf.
-
Added translation