Awdurdodi asiant i ddelio â’ch materion treth
Gwiriwch be all asiant sy’n cael ei dalu yn gallu gwneud ar eich rhan. Mae sut yr ydych yn awdurdodi’r asiant yn dibynnu ar y dreth, ac efallai bydd yn rhaid i chi ddefnyddio ffurflen bapur 64-8 neu wasanaeth ar-lein.
Mae’r canllaw yn delio ag awdurdodi asiant sy’n cael ei dalu, megis cyfrifydd proffesiynol neu ymgynghorydd treth. Mae ffordd wahanol i benodi ffrind neu berthynas (yn agor tudalen Saesneg) delio â CThEF ar eich rhan.
Sut i awdurdodi asiant
Bydd eich asiant yn rhoi gwybod i chi sut y mae o eisiau i chi ei awdurdodi.
Yn dibynnu ar ba wasanaethau treth rydych chi a’ch asiant yn eu defnyddio, mae yna wahanol ffyrdd i roi awdurdod i’ch asiant, gan gynnwys:
-
ysgwyd llaw’n ddigidol — mae’ch asiant yn anfon e-bost atoch gyda chysylltiad
-
awdurdodi asiant ar-lein — mae’ch asiant yn cyflwyno cais i CThEF, byddwn wedyn yn anfon llythyr atoch gyda chod awdurdodi ac rydych yn rhoi’r cod i’ch asiant
-
drwy’ch cyfrif treth busnes ar gyfer treth penodol — ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y dreth a’i hychwanegu i’ch cyfrif treth busnes
-
ffurflenni papur — ffurflen ‘Awdurdodi eich asiant 64-8’
Gwiriwch restr o’r holl ffyrdd sydd eu hangen arnoch i awdurdodi asiant ar gyfer y gwasanaethau treth (yn agor tudalen Saesneg).
Byddwch yn dal i fod yn gyfrifol yn ôl y gyfraith am eich treth eich hunan
Os yw’ch asiant yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth, mae’n rhaid i chi wirio’r wybodaeth a rhoi gwybod iddo ei fod yn gywir cyn iddo’i chyflwyno hi i ni.
Os ydych yn asiant
Gofynnir i chi roi’ch cod asiant 6 digid ar gyfer Hunanasesiad, TWE neu Dreth Gorfforaeth.
Os nad oes un gennych, cewch gyfeirnod neu god asiant (yn agor tudalen Saesneg) pan ydych yn cofrestru ac yn cael eich awdurdodi fel asiant treth i ddelio â CThEF.
Yr hyn all asiant awdurdodedig ei wneud ar eich rhan
Hunanasesiad
Os ydych yn awdurdodi’ch asiant at ddibenion Hunanasesiad, bydd eich asiant yn gallu gwneud y canlynol:
-
cyflwyno Ffurflenni Treth ar eich rhan
-
gwneud hawliadau am ryddhad treth yr eich Ffurflenni Treth
-
trafod eich Ffurflenni Treth cyfredol a blaenorol â ni
-
bwrw golwg dros eich manylion, megis ffynonellau incwm, a’u newid
-
rhoi manylion banc i ni, pan fo ad-daliad yn ddyledus
-
bwrw golwg dros eich diweddariadau (incwm a threuliau), a’u cyflwyno
-
cwblhau’ch sefyllfa dreth gyffredinol
-
bwrw golwg dros eich cyfrifiadau a’r symiau dyledus a’r symiau sydd wedi’u talu
-
canslo’ch cofrestriad Hunanasesiad
Bydd eich asiant hefyd â mynediad at eich manylion Hunanasesiad, megis eich:
-
enw
-
cyfeiriad
-
eich rhif Yswiriant Gwladol
-
Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr
Cyn i chi awdurdodi asiant rhaid i chi’n gyntaf cofrestru ar gyfer Hunanasesiad. Os oes gennych gyfrif Hunanasesiad eisoes gallwch ddefnyddio’r ffurflen 64-8 i awdurdodi asiant.
Ymddiriedolaethau
Drwy awdurdodi’ch asiant yn y gwasanaeth ar-lein ar gyfer cofrestru ymddiriedolaeth a’i chynnal bydd eich asiant yn cael mynediad at yr wybodaeth bersonol a’r wybodaeth ariannol ar gyfer eich ymddiriedolaeth.
Ni fydd yr awdurdod ‘Awdurdodi eich asiant (64-8)’ yn rhoi i’ch asiant fynediad at y gwasanaeth ar-lein. Dysgwch ragor ynghylch awdurdodi asiant i gael mynediad at yr ymddiriedolaeth.
TWE Unigolyn
Drwy gyflwyno’r ffurflen ‘Awdurdodi eich asiant 64-8’ at ddibenion TWE Unigolyn, bydd eich asiant yn gallu cael mynediad at y canlynol:
-
i bwy rydych wedi gweithio yn y gorffennol
-
gwybodaeth am fuddiannau trethadwy, megis yswiriant meddygol a char cwmni
-
pensiynau
-
dyddiadau dechrau a dod i ben eich rhan yn y broses TWE
Treth Gorfforaeth
Drwy gyflwyno’r ffurflen ‘Awdurdodi eich asiant 64-8’ hon at ddibenion Treth Gorfforaeth, bydd eich asiant yn:
-
cael mynediad at wybodaeth am eich cwmni a’ch gwybodaeth ariannol
-
gallu diweddaru manylion cyfathrebu a chyswllt y cwmni
Dysgwch ragor ynghylch Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg).
Credydau treth
Drwy gyflwyno’r ffurflen ‘Awdurdodi eich asiant 64-8’ at ddibenion credydau treth, bydd eich asiant yn cael mynediad at eich gwybodaeth bersonol ac ariannol sy’n ymwneud â’ch hawliad am Gredyd Treth. Gall weithredu ar eich rhan ond ni all gael taliadau. Bydd gohebiaeth yn dal i gael ei hanfon atoch.
Ar gyfer hawliadau ar y cyd am gredydau treth, mae angen i’r ddau hawliwr lofnodi’r ffurflen hon er mwyn awdurdodi’ch asiant.
TAW
Drwy gyflwyno’r ffurflen ‘Awdurdodi eich asiant 64-8’ at ddibenion TAW, bydd eich asiant yn gallu gwneud y canlynol (ar bapur neu dros y ffôn yn unig):
-
trafod eich TAW â ni
-
llofnodi dogfennau papur ar eich rhan
-
bwrw golwg dros eich manylion TAW, eu newid a’u cyflwyno
-
bwrw golwg dros eich taliadau a’ch rhwymedigaethau TAW
-
canslo’ch cofrestriad TAW
-
apelio yn erbyn cosb am gyflwyno neu am dalu’n hwyr
Gall eich asiant hefyd cael mynediad at y canlynol:
-
manylion eich cofrestriad TAW, megis manylion eich busnes a’ch manylion cyswllt
-
eich Ffurflenni TAW sydd wedi’u cyflwyno
-
eich cyfrifiadau Ffurflenni TAW
-
eich symiau sy’n ddyledus neu sydd wedi’u talu
Cynllun y Diwydiant Adeiladu
Drwy gyflwyno’r ffurflen ‘Awdurdodi eich asiant 64-8’ at ddibenion Cynllun y Diwydiant Adeiladu, bydd eich asiant yn gallu cael mynediad at eich datganiadau, ac at incwm a didyniadau’ch isgontractwyr.
Dysgwch ragor ynghylch Cynllun y Diwydiant Adeiladu (yn agor tudalen Saesneg).
TWE Cyflogwyr
Drwy gyflwyno’r ffurflen ‘Awdurdodi eich asiant 64-8’ at ddibenion TWE Cyflogwyr, bydd eich asiant yn cael mynediad at wybodaeth bersonol ac ariannol eich cyflogeion.
Dysgwch ragor ynghylch TWE y Cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg).
Llenwch ffurflen 64-8, Awdurdodi eich asiant
Oni bai eich bod yn gallu awdurdodi asiant ar gyfer treth benodol drwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein neu’r Cyfrif treth busnes, defnyddiwch ffurflen 64-8.
Os nad ydych yn defnyddio’r cyfarwyddiadau canlynol, gall achosi gwallau ac oedi ein hymateb.
Dilynwch y camau canlynol er mwyn osgoi oedi
Gwnewch yn siŵr eich bod y canlynol yn cael eu dilyn:
-
Defnyddiwch y fersiwn mwyaf diweddar o’r ffurflen ‘Awdurdodi eich asiant (64-8)’.
-
Peidiwch â chynnwys llythyr eglurhaol.
-
Peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth y tu allan i’r blychau penodedig ar y ffurflen.
-
Teipiwch neu ysgrifennwch a llaw yn glir ar y ffurflen.
-
Rhowch yr wybodaeth y gofynnwyd amdani yn unig yn y meysydd ffurflen — peidiwch ag ychwanegu unrhyw fanylion ychwanegol, er enghraifft, yn y maes ‘Cod asiant (SA)’ dylech ond cynnwys y cod asiant Hunanasesiad (SA) cywir, sy’n cynnwys 6 cymeriad 1111XX.
-
Rhowch y codau asiant cywir ar gyfer y cyfundrefnau treth perthnasol, er enghraifft ‘PAYE XX1111’.
Lawrlwytho’r ffurflen
.
Mae angen i chi wneud y canlynol:
-
Lawrlwytho’r ffurflen a’i chadw ar eich cyfrifiadur.
-
Agor y ffurflen gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader (yn agor tudalen Saesneg) sy’n rhad ac am ddim.
-
Llenwi’r ffurflen ar y sgrin.
-
Argraffu ac yna llofnodi’r ffurflen.
-
Anfonwch y ffurflen drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.
Newid neu ddileu awdurdodiad
Newid neu ddileu awdurdodiad eich asiant treth (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych bellach am iddo reoli’ch materion.