Bod yn Ddarparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA)
Deall eich rôl fel Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA), a elwir hefyd yn asiant awdurdodedig Tŷ'r Cwmnïau.
Mae cofrestru fel Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA) yn ofyniad newydd a fydd yn ein helpu i wybod pwy sy’n ffeilio gwybodaeth ar y gofrestr gyhoeddus.
Gelwir DGCA hefyd yn asiantau awdurdodedig Tŷ’r Cwmnïau.
Gall asiant awdurdodedig fod yn fusnes (er enghraifft, cwmni neu bartneriaeth gyfyngedig), neu’n berson sy’n ffeilio ar ran eraill (unig fasnachwr).
I gofrestru, rhaid i asiantau gael eu goruchwylio gan gorff goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian (AML) y Deyrnas Unedig. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys:
- asiantau ffurfio cwmnïau
- cyfreithwyr
- cyfrifwyr
Pwy sydd angen cofrestru fel asiant awdurdodedig
Am y tro, dim ond asiantau sy’n bwriadu gwirio hunaniaeth cleientiaid ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau sydd angen cofrestru.
Yn y dyfodol, bydd angen i bob asiant sy’n ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau ar ran cleientiaid gofrestru.
I wneud cais, mae’n rhaid bod gennych rôl uwch yn y busnes. Er enghraifft, rhaid i chi fod yn gyfarwyddwr os ydych yn cofrestru cwmni cyfyngedig.
Gall unig fasnachwyr gofrestru eu hunain fel asiant awdurdodedig.
Unwaith y bydd busnes wedi’i gofrestru, byddwn yn creu cyfrif ar-lein ar gyfer yr asiant awdurdodedig. Byddwch yn gallu ychwanegu pobl eraill sy’n gweithio i’r asiant i’r cyfrif.
Darllenwch y cyfarwyddyd ar wneud cais i gofrestru fel asiant awdurdodedig i ddarganfod sut i wneud cais.
Gofynion cyfreithiol ar gyfer asiantau awdurdodedig
Rhaid i asiantau awdurdodedig Tŷ’r Cwmnïau gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol canlynol.
- Rhaid i’r asiant bob amser fod wedi cofrestru gydag o leiaf un corff goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian (AML).
- Rhaid i’r asiant ddweud wrthym os oes newid i unrhyw ran o’r wybodaeth sydd gennym am yr asiant. Rhaid gwneud hyn o fewn 14 diwrnod.
- Os byddwn yn gofyn amdano, rhaid i’r asiant ddarparu mwy o wybodaeth:
- am ffeilio’r asiant gyda Thŷ’r Cwmnïau
- am wiriadau hunaniaeth, os yw’r asiant yn gwirio hunaniaeth rhywun ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau
- i brofi bod yr asiant yn cydymffurfio â’i gyfrifoldebau cyfreithiol
- Rhaid i’r asiant gadw cofnodion o unrhyw wiriadau hunaniaeth am 7 mlynedd, os yw wedi gwirio hunaniaeth rhywun ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau.
Pwy sy’n gyfrifol am gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol
Os ydych chi’n unig fasnachwr ac wedi cofrestru’ch hun fel asiant awdurdodedig, chi sy’n gyfrifol am sicrhau eich bod yn cydymffurfio.
Ar gyfer busnesau eraill, mae pob swyddog yn gyfrifol. Mae hyn yn golygu’r holl gyfarwyddwyr, neu unrhyw un y mae ei rolau a’i gyfrifoldebau yn cyfateb i rôl cyfarwyddwr cwmni.
Beth sy’n digwydd os nad yw asiant yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol
Bydd yr asiant yn cyflawni trosedd os nad yw’n cydymffurfio â gofynion cyfreithiol. Mae hyn yn golygu y gallai’r unig fasnachwr, neu holl gyfarwyddwyr y cwmni (neu gyfwerth) dderbyn dirwy neu wynebu erlyniad troseddol.
Efallai y byddwn hefyd yn atal neu’n stopio statws yr asiant awdurdodedig. Byddai hyn yn atal yr asiant rhag gallu ffeilio neu wirio hunaniaeth pobl ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau.
Os oes angen i ni atal asiant awdurdodedig
Byddwn yn anfon e-bost at gyfeiriad e-bost gohebiaeth yr asiant gyda gwybodaeth am beth i’w wneud nesaf.
Efallai y bydd angen i ni ofyn i’r asiant ddarparu mwy o wybodaeth neu gofnodion am eu ffeilio. Bydd gan yr asiant 28 diwrnod i wneud hyn.
Ni fydd defnyddwyr sydd wedi’u hychwanegu at y cyfrif asiant awdurdodedig yn gallu cael mynediad at wasanaethau i’r asiant awdurdodedig tra caiff ei atal. Mae hyn yn golygu na fyddant yn gallu:
- ffeilio fel asiant awdurdodedig
- gwirio hunaniaeth pobl ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau
Efallai y bydd angen i bobl sydd wedi gwirio eu hunaniaeth gan asiant Tŷ’r Cwmnïau wirio eu hunaniaeth eto. Byddwn yn cysylltu ag unrhyw un sydd angen gwneud hyn.
Byddwn hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth i ddangos bod yr asiant awdurdodedig wedi’i atal. Byddwn yn cyhoeddi enw, statws yr asiant a’r dyddiad y cafodd ei atal.
Os oes angen i ni stopio statws yr asiant awdurdodedig
Byddwn yn anfon e-bost at gyfeiriad e-bost gohebiaeth yr asiant i roi gwybod iddo ein bod wedi stopio eu statws. Bydd hyn yn golygu nad ydynt bellach wedi’u cofrestru fel asiant awdurdodedig gyda Thŷ’r Cwmnïau.
Ni fydd yr asiant yn gallu ffeilio ar ran cleientiaid, na gwirio hunaniaeth pobl ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau.
Byddwn ni’n:
- cau cyfrif ar-lein yr asiant – ni fydd gan unrhyw ddefnyddwyr sydd wedi’u hychwanegu mynediad mwyach
- cyhoeddi enw’r asiant a’r dyddiad y gwnaethom ddod â’i statws i ben
- cysylltu ag unrhyw un y mae’r asiant wedi gwirio eu hunaniaeth, os oes angen iddynt wirio eto
Sut i ddefnyddio’ch cyfrif asiant awdurdodedig
Gallwch gael mynediad i’r cyfrif asiant awdurdodedig pan fyddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif Tŷ’r Cwmnïau.
Ychwanegu a dileu defnyddwyr
Pan fyddwch yn ychwanegu pobl sy’n gweithio i’r asiant i’r cyfrif, ni fydd angen iddynt wirio eu hunaniaeth.
Bydd yr holl ddefnyddwyr rydych chi’n eu hychwanegu at y cyfrif yn gallu:
- ffeilio ar ran cleientiaid
- gwirio hunaniaeth pobl ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau
Gallwch reoli’r hyn y gall defnyddwyr ei wneud trwy ddewis eu rôl pan fyddwch yn eu hychwanegu at y cyfrif. Mae 3 rôl y gall defnyddwyr eu cael ar gyfer asiant awdurdodedig:
- perchnogion cyfrifon – yn gallu diweddaru manylion yr asiant awdurdodedig, ac ychwanegu a dileu pob defnyddiwr
- gweinyddwyr – yn gallu ychwanegu a dileu gweinyddwyr a defnyddwyr safonol
- defnyddwyr safonol - ni all ychwanegu a dileu defnyddwyr eraill
Gallwch ddileu defnyddwyr o’r cyfrif ar unrhyw adeg. Ar ôl i chi dileu defnyddiwr, ni fyddant bellach yn gallu cyrchu’r cyfrif na’r gwasanaethau ar gyfer yr asiant awdurdodedig.
Diweddaru manylion yr asiant awdurdodedig
Rhaid i berchennog cyfrif ddweud wrthym os oes unrhyw newidiadau i’r wybodaeth sydd gennym am yr asiant awdurdodedig. Mae hyn yn cynnwys os nad yw’r asiant bellach wedi’i gofrestru gyda chorff goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian.
Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol. Rhaid iddynt wneud hyn o fewn 14 diwrnod neu bydd yr asiant yn cyflawni trosedd.
I ddweud wrthym am newidiadau, rhaid i berchennog cyfrif e-bostio enquiries@companieshouse.gov.uk gan ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost ag y maent yn ei ddefnyddio i fewngofnodi. Bydd angen iddynt ddefnyddio’r llinell pwnc ‘Diweddaru manylion DGCA’.
Yn yr e-bost, bydd angen iddynt gynnwys y canlynol:
- rhif ac enw’r asiant awdurdodedig
- manylion sydd angen eu diweddaru - bydd angen iddyn nhw gadarnhau’r manylion presennol a dweud wrthym beth yw’r rhai newydd
- dyddiad y newidiwyd y manylion
Yn y dyfodol, bydd perchnogion cyfrif yn gallu dweud wrthym am newidiadau trwy ddiweddaru’r manylion ar gyfrif ar-lein yr asiant awdurdodedig.
Cau’r asiant awdurdodedig
I gau’r asiant awdurdodedig, bydd angen i berchennog cyfrif anfon e-bost gan ddefnyddio’r llinell pwnc ‘Cau DGCA’. Bydd angen iddynt gadarnhau:
- rhif ac enw’r asiant awdurdodedig
- eu rôl i’r asiant, er enghraifft os yw’n gyfarwyddwr, yn bartner neu’n unig fasnachwr
- os ydynt am gau’r asiant awdurdodedig
Gwasanaethau i asiantau awdurdodedig
Bydd pob defnyddiwr sydd wedi’i ychwanegu at gyfrif asiant awdurdodedig yn gallu cael mynediad at wasanaethau ar gyfer asiantau awdurdodedig pan fyddant yn mewngofnodi i’w cyfrif Tŷ’r Cwmnïau.
Dywedwch wrth Dŷ’r Cwmnïau eich bod wedi gwirio hunaniaeth rhywun
O’r 25 Mawrth 2025, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i ddweud wrthym pryd rydych wedi gwirio hunaniaeth rhywun ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau.
Os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth hwn, rhaid i chi gadw cofnodion o’r gwiriadau hunaniaeth rydych chi’n eu gwneud am 7 mlynedd.
Ffeilio fel asiant awdurdodedig
O’r Gwanwyn 2026, gallwch ffeilio ar ran cleientiaid fel asiant awdurdodedig.