Canllawiau

Carchar Birmingham

Mae Carchar Birmingham yn garchar i ddynion yn ardal Winson Green yn Birmingham.

Yn berthnasol i England and Gymru

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Bwcio a chynllunio eich ymweliad â charchar Birmingham

Efallai y bydd cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall carcharor eu cael. Gallwch wirio hyn gyda Charchar Birmingham wrth archebu.

Cysylltwch â Charchar Birmingham os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:

  • teithio i’r carchar
  • rhywle i aros dros nos
  • prydau bwyd

Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau

Gallwch drefnu eich ymweliad dros y ffôn. Ymholiadau archebu: 0121 598 8050
Mae’r llinell archebu ar agor o ddydd Llun i ddydd Sul: 8:30am i 4:30pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Yr uchafswm o bobl ar gyfer ymweliad yw 3 oedolyn a 3 phlentyn.

Mae plentyn 13 oed yn cael ei ystyried yn oedolyn o ran trefniadau eistedd.

Mae 26 o fyrddau ar gael ym mhob sesiwn ac uchafswm o £30 i’w wario fesul bwrdd, nid fesul person sy’n ymweld.

Amseroedd ymweld

  • Dydd Llun i ddydd Sul: Sesiynau bore rhwng 9:30am ac 11:30am, sesiynau prynhawn 2pm a 4pm.

Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol

I drefnu ymweliad cyfreithiol, gallwch ffonio’r llinell archebu: 0121 5988170

Gallwch hefyd anfon e-bost at: legalvisitsbirmingham@justice.gov.uk

E-bost: probationlegalvisits@justice.gov.uk ar gyfer ymweliadau cyfreithiol â’r gwasanaeth prawf yn unig.

E-bost: VCCBirmingham@justice.gov.uk ar gyfer archebion cynhadledd fideo gyfreithiol yn unig.

Amseroedd ymweliadau cyfreithiol

  • O ddydd Llun i ddydd Gwener 8:30am a 4:30pm Os bydd angen yr apwyntiad arnoch chi ar gyfer y diwrnod canlynol, yr hwyraf y gellir ei drefnu yw 2pm.

Rhaid i bob ymwelydd cyfreithiol ddod ag ID cywir sy’n cynnwys ID â llun arno, neu fel arall ni chaniateir mynediad i’r sefydliad.

Cyrraedd Carchar Birmingham

Dod o hyd i Garchar Birmingham ar fap

Mae Carchar Birmingham tua 2 filltir o Orsaf Birmingham New Street, lle gallwch chi gymryd tacsi neu newid i fysiau a thramiau lleol. Yr orsaf tram agosaf yw Winson Green Outer Circle.

I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:

Mae maes parcio rhad ac am ddim i ymwelwyr, gyda mynediad i bobl anabl.

Mynd i Garchar Birmingham

Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o ddulliau adnabod derbyniol ar gyfer pob ymwelydd.

Bydd angen i bob ymwelydd gael chwiliad ‘patio i lawr’, gan gynnwys plant. Efallai y cewch eich arogli gan gŵn diogelwch hefyd.

Rhaid i ymwelwyr gadw at god gwisg y carchar sy’n berthnasol: ni chaniateir cotiau/ cardiganau hir ar ymweliadau, hwdis, na chwfl ar unrhyw ddillad, ni chaniateir gwisgo hetiau ar ymweliadau ac eithrio penwisgoedd crefyddol. Bydd penwisgoedd yn cael eu chwilio yn unol â pholisi chwilio CEF Birmingham. Ni chaniateir i unrhyw ymwelydd wisgo menig, sgarffiau, siolau neu deis, ni chaniateir esgidiau uchel at y pen-gliniau, rhaid i sgertiau o leiaf gyrraedd y pen-glin wrth sefyll, ac mae hyn yn wir p’un a oes teits neu legins o danynt. Rhaid i drowsusau bach gyrraedd y pen-glin wrth sefyll, rhaid i ffrogiau orchuddio’r bronnau yn gyfan gwbl ac yn briodol gan gynnwys rhigol y bronnau a chanol y corff. Rhaid i dopiau orchuddio’r bronnau yn gyfan gwbl ac yn briodol gan gynnwys rhigol y bronnau a chanol y corff. Ni chaniateir pocedi ar unrhyw dop, ni chaniateir trowsusau / jîns wedi’u rhwygo, ni chaniateir trowsusau steil milwrol gyda phocedi i lawr y coesau, ni chaniateir dillad sydd â phatrymau neu logos sarhaus arnynt e.e. Logos canabis, logos hiliol neu iaith dramgwyddus.

Os na fyddwch yn cydymffurfio â’r uchod, efallai na fyddwch yn cael mynediad ar gyfer eich ymweliad. Gellir gofyn am ragor o fanylion drwy ffonio 0121 598 8178.

Bydd lluniaeth ar gael yn ystod eich ymweliad.

Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i’r carchar. Bydd yn rhaid i chi adael y rhan fwyaf o’r pethau sydd gennych gyda chi mewn locer neu gyda swyddogion diogelwch. Gellir dod â phramiau a seddi car mor bell â’r man aros i ymwelwyr.

Caniateir pramiau i fyny’r grisiau ond rhaid eu gadael y tu allan i’r neuadd ymweliadau yn y man aros i ymwelwyr. Gellir dod ag 1 sedd car/cot cario syml i mewn i’r ystafell, a rhaid i’r rhain aros ar y llawr.

Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.

Ffoniwch y llinell archebu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld 01215 988 178.

Cyfleusterau ymweld

Bydd lluniaeth ar gael yn ystod eich ymweliad ac mae man chwarae i blant ar gael i’w ddefnyddio.

Diwrnodau teulu

Ceir 6 diwrnod i’r teulu bob blwyddyn. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01215 988 178.

Cadw mewn cysylltiad â rhywun yng Ngharchar Birmingham

Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yng Ngharchar Birmingham.

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho ap Prison Video
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Dim ond carcharorion all wneud cais am alwadau fideo diogel yn y carchar hwn.

Byddwch yn cael hysbysiad os bydd carcharor wedi gofyn am alwad fideo gyda chi.

Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio

Galwadau ffôn

Mae gan garcharorion ffonau yn eu celloedd ac maent yn gallu gwneud galwadau bob dydd rhwng 7am a 11pm.

Nid yw ffonau’n derbyn galwadau sy’n dod i mewn, felly bydd yn rhaid iddynt eich ffonio chi bob amser. Rhaid iddynt brynu credydau ffôn i wneud hyn.

Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Caiff y rhestr hon ei gwirio gan y staff diogelwch pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yng Ngharchar Birmingham drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a derbyn ymatebion, yn dibynnu ar y rheolau yng Ngharchar Birmingham.

Llythyrau

Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.

Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.

Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â Charchar Birmingham.

Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’i gwirio gan swyddogion.

Anfon arian a rhoddion

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.

Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:

  • os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
  • os nad oes gennych chi gerdyn debyd

Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.

Rhoddion a pharseli

Mae gan garcharorion yng Ngharchar Birmingham restr o eitemau cymeradwy y gall teulu a ffrindiau eu rhoi iddynt.

Rhaid i garcharorion wneud cais am ganiatâd i dderbyn eitemau. Mae Carchar Birmingham wedyn yn anfon stamp cymeradwy at aelod o’r teulu neu ffrind i’w roi ar ei barsel.

Gall teulu a ffrindiau wedyn roi’r parsel i mewn cyn ymweld.

Dylid rhoi eitemau i’r ddesg eiddo yn y ganolfan ymwelwyr.

Rhaid i chi fod wedi trefnu ymweliad ar gyfer rhoi unrhyw beth i mewn, neu fel arall ni fydd yn cael ei dderbyn.

Fel arfer, ni dderbynnir eitemau drwy’r post. Fodd bynnag, gall carcharor sy’n wladolyn tramor neu nad yw’n cael ymweliadau wneud cais am ganiatâd i aelod o’r teulu neu ffrind anfon eitemau i mewn. Rhaid i’r parseli hyn gael eu marcio â stamp cymeradwy hefyd. Nid yw Carchar Birmingham yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb dros eitemau sy’n cael eu hanfon drwy’r post.

Cofiwch gynnwys enw a rhif y carcharor ar y parsel. Bydd pob eitem yn cael ei hagor a’i gwirio gan swyddogion.

Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.

I weld y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy, gallwch ddarllen Polisi Cymhellion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Atodiad F.

Cysylltwch â Charchar Birmingham os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Bywyd yng Ngharchar Birmingham

Mae Carchar Birmingham wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall carcharorion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob carcharor yng Ngharchar Birmingham hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan llinell gymorth Teuluoedd Carcharorion.

Cyrraedd a’r noson gyntaf

Pan fydd rhywun yn cyrraedd Carchar Birmingham am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.

Byddan nhw’n cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny.

Cynefino

Bydd pawb sy’n cyrraedd Carchar Birmingham yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua 3 diwrnod. Byddant yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:

  • iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd

Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.

Llety

Mae tua 1000 o garcharorion yng Ngharchar Birmingham mewn cymysgedd o gelloedd unigol a rhai a rennir. Mae 11 adain, gan gynnwys uned garcharorion hŷn, uned adfer cyffuriau a chanolfan noson gyntaf.

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys llyfrgell a champfa.

Mae gan Garchar Birmingham dîm caplaniaeth aml-ffydd amrywiol sy’n darparu cymorth i garcharorion.

Addysg a gwaith

Mae gan garcharorion fynediad at ystod eang o hyfforddiant galwedigaethol, gan gynnwys gosod brics, plymio, peintio ac addurno, gwaith coed, gyrru wagenni fforch godi, glanhau diwydiannol ac arlwyo.

Gallant hefyd ddilyn cyrsiau mewn sgiliau sylfaenol, TG, sgiliau cymdeithasol a bywyd, sgiliau busnes, celfyddydau creadigol a pherfformio, torri gwallt a mwy. Mae myfyrwyr yn cael cyfle i ennill cymwysterau cydnabyddedig ar bob cwrs. Darperir yr addysg gan Novus

Mae gan Garchar Birmingham uned ailsefydlu weithredol sy’n helpu carcharorion sydd â phroblemau tai, budd-daliadau a chyflogaeth, gyda chymorth staff o’r Ganolfan Byd Gwaith a Chyngor ar Bopeth.

Rhyddhau dros dro

Efallai y bydd rhai carcharorion yn gymwys i gael eu rhyddhau ar drwydded dros dro. Gellir defnyddio hyn i gael profiad gwaith yn y gymuned leol a pharatoi ar gyfer rhyddhau. Gall carcharorion wneud cais am hyn yn y carchar.

Cefnogaeth i deulu a ffrindiau

Cael gwybod am gyngor a llinellau cymorth ar gyfer teulu a ffrindiau.

Cefnogaeth yng Ngharchar Birmingham

Darperir gwasanaethau teulu yn Birmingham gan PACT.

Ffôn: 0121 598 8050
Dyddiol, 8am i 4:15pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Mae gwybodaeth am wasanaethau a chefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau ar gael hefyd gan y ganolfan ymwelwyr.

Pryderon, problemau a chwynion

Mewn argyfwng

Ffoniwch 0121 598 8000 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Dydd ac egluro bod eich pryder yn un brys.

Categori cyswllt Rhif ffôn Gwybodaeth ychwanegol
Dim brys 0121 598 8364 Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu gallwch lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff 0800 917 6877
(peiriant ateb 24 awr)
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw.
Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion 0808 808 2003 Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol.
Cyswllt Digroeso gan Garcharor 0300 060 6699 Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor.

Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn.

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi broblem arall, cysylltwch â Birmingham.

Adroddiadau arolygu

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Birmingham mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.

Cysylltu â Charchar Birmingham

Llywodraethwr: Paul Newton

Ffôn (24 awr): 0121 598 8000
Ffacs: 0121 345 2501
Gwybodaeth am gost galwadau

Cyfeiriad

HMP Birmingham
Winson Green Road
Birmingham
B18 4AS

Gweler y map

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 November 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 August 2024 + show all updates
  1. Added translation

  2. Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes

  3. Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.

  4. Updated visiting information: Reduced visit schedule and testing for visitors aged 12 and over.

  5. Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.

  6. Added link to information about testing for physical contact at visits.

  7. New visiting times and booking information added.

  8. Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.

  9. Covid update

  10. Updated prison info

  11. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  12. Updated visiting information in line with new local restriction tiers

  13. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  14. Updated visiting information in line with new national restrictions in England.

  15. Updated visiting times and visiting procedure changes in line with coronavirus restrictions.

  16. Added confirmation of secure video calls made available at Birmingham prison.

  17. updated legal visits email

  18. Updated link

  19. Visit information update

  20. Coronavirus update

  21. First published.

Sign up for emails or print this page