Cyrff rheolaeth adeiladu: tramgwyddau (torri'r rheolau) a throseddau
Yr hyn sy'n digwydd pan fydd y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau (RhDA) yn ymchwilio i gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu (CCRhA) yng Nghymru neu Loegr, neu'n ymchwilio i awdurdod lleol yn Lloegr.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Ymchwiliadau
Ymchwiliadau: cymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu (CCRhAau)
Caiff y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau (RhDA) ymchwilio i CCRhAau:
-
yn Lloegr, os yw’n ymddangos eu bod wedi torri’r rheolau ymddygiad proffesiynol neu’r rheolau safonau gweithredu neu wedi methu â chydymffurfio â threfniadau monitro
-
yng Nghymru, os yw’n ymddangos eu bod wedi torri’r rheolau ymddygiad proffesiynol (ar LLYW.CYMRU) neu’r rheolau safonau gweithredu (ar LLYW.CYMRU) neu wedi methu â chydymffurfio â threfniadau monitro (ar LLYW.CYMRU)
-
yng Nghymru neu Loegr os yw’n ymddangos eu bod wedi cyflawni trosedd o dan Ddeddf Adeiladau 1984 neu Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022
Ymchwiliadau: awdurdodau lleol yn Lloegr
Mae’r RhDA yn gallu ymchwilio i awdurdodau lleol yn Lloegr os yw’n ymddangos bod wedi:
-
torri’r rheolau safonau gweithredu
-
cyflawni trosedd o dan Ddeddf Adeiladu 1984
Dechrau ymchwiliad
Gellir dechrau ar ymchwiliad os bydd pryderon yn cael eu codi gan:
- y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau (RhDA)
- yr awdurdodau lleol
- arolygwyr cofrestredig adeiladu
- cymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu (CCRhA)
- y diwydiant
- aelodau o’r cyhoedd
- cyrff neu reoleiddwyr eraill
Os bydd y RhDA yn penderfynu dechrau ar ymchwiliad:
- bydd yn dweud wrthych ei fod wedi dechrau ar ymchwiliad, a pham mae’n cael ei gynnal
- efallai y bydd yn dweud wrthych i ddarparu gwybodaeth sy’n berthnasol i’r ymchwiliad
Gallwch ddarllen canllawiau am ymchwilio i weithwyr proffesiynol rheolaeth adeiladu. Maen nhw’n dweud wrthych sut mae’r RhDA yn mynd ati i gynllunio, i gynnal ac i gwblhau ymchwiliadau.
Yn ystod ymchwiliad: ataliad dros dro interim
Yn ystod ymchwiliad, caiff y RhDA atal CCRhA dros dro am gyfnod o hyd at 3 mis os bydd yn penderfynu, ar ôl ystyried y pryderon a godwyd am ymddygiad proffesiynol y CCRhA:
- y gallai’r pryderon hynny fod yn wir
- y gallent arwain at ganslo ei gofrestriad os profir eu bod yn wir
Rhaid i’r CCRhA beidio â chyflawni swyddogaethau cyfyngedig ar ôl iddo gael ei atal dros dro.
Gallwch apelio os cewch eich atal dros dro. Bydd gwybodaeth am sut i apelio yn cael ei darparu gyda’r llythyr neu’r e-bost a fydd yn rhoi gwybod ichi am y penderfyniad.
Ar ôl i ymchwiliad gael ei gynnal
Bydd y RhDA yn dweud wrthych beth yw canlyniad yr ymchwiliad, sef:
- nad oes angen cymryd unrhyw gamau eraill
- y bydd yn rhoi cyngor i’r CCRhA
- y bydd yn dweud wrth y CCRhA i gymryd camau i ddatrys y problemau
- y bydd yr achos yn cael ei gyfeirio er mwyn penderfynu ar sancsiwn os gwelir bod y CCRhA wedi torri’r rheolau ymddygiad proffesiynol
- y bydd yr achos yn cael ei gyfeirio er mwyn penderfynu ar gamau gorfodi os gwelir bod CCRhA yng Nghymru neu Loegr, neu awdurdod lleol yn Lloegr, wedi torri’r rheolau safonau ymddygiad
- y bydd yr achos yn cael ei gyfeirio er mwyn penderfynu a ddylid erlyn y CCRhA neu’r awdurdod lleol
Bydd gwybodaeth am sut i ymateb i ganfyddiadau ymchwiliad yn cael ei darparu yn y llythyr neu’r e-bost a fydd yn rhoi canlyniad yr ymchwiliad.
Sancsiynau am gamymddwyn proffesiynol
Os caiff yr achos ei gyfeirio er mwyn penderfynu ar sancsiwn, bydd y RhDA yn anfon copi atoch o’r weithdrefn ddisgyblu a sancsiynau y mae’n ei dilyn wrth fynd ati i benderfynu:
-
a yw’r CCRhA wedi torri’r rheolau ymddygiad proffesiynol
-
pa sancsiynau fydd yn cael eu rhoi
Os yw’r RhDA yn penderfynu bod y CCRhA wedi torri’r rheolau ymddygiad proffesiynol, gall:
- benderfynu peidio â rhoi unrhyw sancsiynau
- rhoi cosb ariannol
- amrywio’r cofrestriad
- atal y cofrestriad dros dro
- canslo’r cofrestriad
Caiff y RhDA roi un neu fwy o sancsiynau yn syth. Os nad yw’r CCRhA yn cydymffurfio â sancsiwn, mae’n bosibl y bydd rhagor o gamau gorfodi’n cael eu cymryd.
Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad i roi sancsiwn ichi. Bydd gwybodaeth am sut i apelio yn cael ei darparu gyda’r llythyr neu’r e-bost a fydd yn rhoi gwybod am y penderfyniad.
Cosbau ariannol
Gall y RhDA benderfynu rhoi cosb ariannol a fydd yn amrywio rhwng 0.1% a 5% o drosiant blynyddol gros y CCRhA. Mewn rhai achosion difrifol, mae’n bosibl y bydd y gosb ariannol yn fwy na 5%.
Gall methu â thalu cosb ariannol arwain at:
- ragor o camau gorfodi
- achos llys i adennill unrhyw symiau sy’n ddyledus
Amrywio cofrestriad
Caiff y RhDA osod cyfyngiadau neu amodau ar y gwaith y caniateir i CCRhA ei wneud. Y term sy’n cael ei ddefnyddio yw amrywio’r cofrestriad. Bydd y RhDA yn:
- ei gofnodi ar gofrestr y CCRhA
- cysylltu â’r holl awdurdodau lleol yn y wlad lle mae’r CCRhA wedi’i gofrestru i weithio ynddi er mwyn rhoi gwybod iddynt fod y cofrestriad wedi cael ei amrywio
Atal cofrestriad dros dro
Caiff y RhDA atal cofrestriad CCRhA dros dro am hyd at 2 flynedd. Bydd y RhDA yn:
- ei gofnodi ar gofrestr y CCRhA
- cysylltu â’r holl awdurdodau lleol yn y wlad lle mae’r CCRhA wedi’i gofrestru i weithio ynddi er mwyn rhoi gwybod iddynt fod y cofrestriad wedi cael ei atal dros dro
Rhaid i’r CCRhA beidio â chyflawni unrhyw swyddogaethau rheolaeth adeiladu unwaith y bydd wedi’i atal dros dro.
Canslo cofrestriad oherwydd camymddwyn proffesiynol
Caiff y RhDA ganslo cofrestriad CCRhA a’i dynnu oddi ar y gofrestr CCRhA.
Ar ôl i gofrestriad y CCRhA gael ei ganslo, bydd y RhDA yn cysylltu â’r holl awdurdodau lleol yn y wlad lle mae’r CCRhA wedi’i gofrestru i weithio ynddi er mwyn rhoi gwybod iddynt fod y cofrestriad wedi cael ei ganslo.
Rhaid i’r CCRhA beidio â chyflawni unrhyw swyddogaethau rheolaeth adeiladu unwaith y bydd ei gofrestriad wedi cael ei ganslo.
Gorfodi’r Rheolau Safonau Gweithredu
Caiff y RhDA gymryd camau gorfodi yn erbyn:
- CCRhA yng Nghymru a Lloegr pan fyddant wedi torri’r rheolau safonau gweithredu neu wedi methu â chydymffurfio â threfniadau monitro
- awdurdodau lleol yn Lloegr pan fyddant wedi torri’r rheolau safonau gweithredu
Dyma rai o’r camau gorfodi y caiff y RhDA eu cymryd:
- anfon llythyr tramgwydd
- anfon hysbysiad gwella
- anfon hysbysiad tramgwydd difrifol
- canslo cofrestriad y CCRhA
- yn Lloegr, argymell bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn trosglwyddo swyddogaethau rheolaeth adeiladu’r awdurdod lleol dan sylw
Gellir apelio yn erbyn pob cam gorfodi, ar wahân i lythyrau tramgwydd. Bydd gwybodaeth am sut i apelio yn cael ei darparu gyda’r llythyr neu’r e-bost a fydd yn rhoi gwybod am y penderfyniad.
Llythyr tramgwydd
Mae’r llythyr yn nodi’r camau y mae angen eu cymryd er mwyn datrys y materion a nodwyd. Bydd y RhDA yn darparu datganiad am y rhesymau dros anfon y llythyr.
Hysbysiad gwella
Mae’r hysbysiad:
- yn nodi’r camau y mae angen eu cymryd er mwyn datrys y materion a nodwyd
- yn gallu dweud wrth y CCRhA neu’r awdurdod lleol i roi’r gorau i wneud rhywbeth tra bydd yr hysbysiad mewn grym
Bydd y RhDA yn darparu datganiad am y rhesymau dros anfon yr hysbysiad gwella.
Bydd yr hysbysiad gwella mewn grym tan:
- i’r RhDA benderfynu bod y CCRhA neu’r awdurdod lleol wedi cydymffurfio â’r hysbysiad
- i’r RhDA ddirymu’r hysbysiad
- i’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad ddod i ben
Hysbysiad tramgwydd difrifol
Caiff y RhDA roi hysbysiad tramgwydd difrifol os yw’r CCRhA neu’r awdurdod lleol:
- wedi torri’r Rheolau Safonau Gweithredu mewn ffordd a allai fod wedi peryglu diogelwch pobl yn yr adeilad neu o’i amgylch
- wedi cael hysbysiad gwella eisoes a heb gydymffurfio ag ef
Bydd y RhDA yn darparu datganiad am y rhesymau dros roi’r hysbysiad tramgwydd difrifol.
Bydd yr hysbysiad tramgwydd difrifol mewn grym tan:
- i’r RhDA benderfynu bod y CCRhA neu’r awdurdod lleol wedi cydymffurfio â’r hysbysiad
- i’r RhDA ddirymu’r hysbysiad
- i’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad ddod i ben
Canslo cofrestriad am dorri’r rheolau safonau gweithredu
Ceir canslo cofrestriad CCRhA pan fydd y RhDA wedi:
- rhoi un neu fwy o hysbysiadau tramgwydd difrifol i’r CCRhA
- dod i’r casgliad bod y CCRhA yn debygol o barhau i fethu â chyrraedd y safonau gofynnol
- dod i’r casgliad bod y CCRhA yn debygol o barhau i beryglu diogelwch pobl yn yr adeilad ac o’i amgylch.
- rhoi hysbysiad, ynghyd â rhesymau ysgrifenedig, i ddweud ei fod yn ystyried canslo’r cofrestriad
- wedi gwahodd y CCRhA i ymateb
Ar ôl i gofrestriad y CCRhA gael ei ganslo, bydd y RhDA yn cysylltu â’r holl awdurdodau lleol yn y wlad lle mae’r CCRhA wedi’i gofrestru i weithio ynddi er mwyn rhoi gwybod iddynt fod y cofrestriad wedi cael ei ganslo.
Rhaid i’r CCRhA beidio â chyflawni unrhyw swyddogaethau rheolaeth adeiladu unwaith y bydd ei gofrestriad wedi cael ei ganslo.
Trosglwyddo swyddogaethau rheolaeth adeiladu awdurdodau lleol
Ar gyfer awdurdodau lleol yn Lloegr, gall RhDA argymell i’r Ysgrifennydd Gwladol drosglwyddo swyddogaethau rheolaeth adeiladu o un awdurdod lleol i’r llall. Gall RhDA wneud hyn pan fyddant wedi gwneud y canlynol:
- rhoi un neu fwy o hysbysiadau tramgwydd difrifol i’r awdurdod lleol
- dod i’r casgliad bod yr awdurdod lleol yn debygol o barhau i fethu â chyrraedd y safonau gofynnol
- dod i’r casgliad bod yr awdurdod lleol yn debygol o barhau i beryglu diogelwch pobl yn yr adeilad ac o’i gwmpas
- rhoi rhybudd, gyda rhesymau ysgrifenedig, bod RhDA yn ystyried gofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol drosglwyddo swyddogaethau rheoleth adeiladu
- gwahodd yr awdurdod lleol i ymateb
Os bydd RhDA yn gwneud yr argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol, bydd RhDA yn rhoi gwybod i’r awdurdod lleol ac yn rhoi rhesymau dros y penderfyniad.
Troseddau
Troseddau gan CCRhA
Dyma rai o’r troseddau sy’n berthnasol i CCRhA yng Nghymru a Lloegr:
- bod y CCRhA yn gweithredu y tu allan i gwmpas ei gofrestriad
- bod sefydliad yn gweithredu fel CCRhA, neu’n awgrymu ei fod yn CCRhA, pan nad yw wedi’i gofrestru
- methu â darparu gwybodaeth benodedig ar adrodd am y rheolau safonau gweithredu pan gaiff gyfarwyddyd i wneud hynny
- gweithredu’n groes i hysbysiad tramgwydd difrifol a roddwyd am dorri’r rheolau safonau gweithredu
- rhwystro, twyllo neu ddynwared un o swyddogion awdurdodedig y RhDA
- rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i’r RhDA
- methu â darparu gwybodaeth y mae swyddog awdurdodedig yn gofyn amdani
Os yw CCRhA wedi’i atal dros dro, mae’n drosedd iddo:
- gyflawni swyddogaethau rheolaeth adeiladu
- gwneud unrhyw beth yn fwriadol i awgrymu nad yw’r cofrestriad wedi’i atal dros dro
Os oes tystiolaeth bod y CCRhA wedi cyflawni trosedd, mae’n bosibl y bydd yn cael ei erlyn.
Troseddau awdurdodau lleol
Mae troseddau sy’n berthnasol i awdurdodau lleol yn Lloegr yn cynnwys:
- gweithredu’n groes i hysbysiad tramgwydd difrifol a roddwyd am dorri’r rheolau safonau gweithredu
- rhwystro, twyllo neu ddynwared swyddog awdurdodedig y RhDA
- rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol I’r RhDA
Os oes tystiolaeth bod awdurdod lleol yn Lloegr wedi cyflawni trosedd, mae’n bosibl y bydd yn cael ei erlyn.
Costau ymchwiliadau a chamau gorfodi
Mae yna daliadau y mae angen i CCRh yng Nghymru neu Loegr, neu awdurdodau lleol yn Lloegr, eu talu os yw’r RhDA yn:
- ymchwilio iddynt neu’n cymryd camau gorfodi yn eu herbyn
- ymchwilio i arolygydd cofrestredig adeiladu, neu’n cymryd camau gorfodi yn ei erbyn oherwydd camau a gymerodd pan oedd yn cael ei gyflogi gan y RhDA neu gan awdurdod lleol
Mae rhagor o wybodaeth am y taliadau i’w gweld yma: