Canllawiau

Cyfrifo’ch addasiad i bensiwn gwasanaeth cyhoeddus

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gywiro’ch sefyllfa dreth os yw’r gwaith o unioni’r pensiynau gwasanaeth cyhoeddus (a elwir hefyd yn McCloud) wedi effeithio arnoch.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wirio a oes rhywbeth y dylech roi gwybod i CThEF amdano. Bydd y gwasanaeth hwn yn eich helpu i wneud y canlynol:

  • cyfrifo unrhyw ad-daliadau sy’n ddyledus i chi am dâl Lwfans Oes neu lwfans blynyddol rydych wedi’i dalu o’r blaen

  • cyfrifo unrhyw daliadau Lwfans Oes neu lwfans blynyddol newydd, gostyngol neu ychwanegol a allai fod angen i chi ei dalu

  • cyflwyno gwybodaeth er mwyn i CThEF ei hadolygu

Nid yw’r gwasanaeth hwn yn effeithio ar eich dewis o ran sut byddwch yn cymryd buddiannau’ch pensiwn pan fyddwch yn ymddeol. Mae’r dewis hwnnw’n cael ei wneud yn uniongyrchol gyda darparwr eich pensiwn, ac nid yw’n gysylltiedig â’r gwasanaeth hwn gan CThEF. Ni fydd y gwasanaeth hwn yn cyfrifo’ch buddiannau.

Cyn i chi ddechrau

I gwblhau’ch cyfrifiad, bydd angen dogfennau a gwybodaeth wrth law.

Mae’n bwysig darllen yr  arweiniad manwl ar yr hyn y bydd arnoch ei angen a’r cwestiynau y gofynnir i chi (ODT, 34.8 KB)

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd hefyd angen y canlynol arnoch:

  • eich Datganiadau Cynilion Pensiwn ‘Unioni’, neu ‘Wedi’i Unioni’ (RPSS), gan gynnwys unrhyw ddatganiadau diwygiedig sydd wedi’u hanfon atoch

  • manylion cyfanswm eich incwm trethadwy, incwm wedi’i addasu ac incwm trothwy — os nad ydych yn gwybod hyn, gofynnir i chi roi’r wybodaeth sydd ei hangen i’w cyfrifo (dysgwch am allowances lwfansau a rhyddhadau o fewn y blynyddoedd treth pontio (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer y gwasanaeth)

  • manylion eich lwfans personol ar gyfer blwyddyn dreth 2015 i 2016 hyd at flwyddyn dreth 2022 i 2023 — bydd y manylion hyn i’w gweld ar eich P60 neu’ch cyfrif treth personol

  • Ffurflenni Treth Hunanasesiad, os gwnaethoch eu llenwi, gan gynnwys manylion unrhyw daliadau o ran Lwfans Oes neu lwfans blynyddol

  • datganiad ymddeoliad neu ddatganiad digwyddiad crisialu buddiannau, os yw’n berthnasol

Bydd angen manylion unrhyw gynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus roeddech yn aelod ohonynt rhwng 6 Ebrill 2015 a 5 Ebrill 2022 (y cyfnod pontio) a blwyddyn dreth 2022 i 2023.

Cyfrifo’ch sefyllfa dreth

Os nad yw canlyniadau’r cyfrifiad yn dangos unrhyw newidiadau i’ch sefyllfa dreth o ran lwfans blynyddol, ac nid oes angen i chi gyflwyno unrhyw newidiadau i’ch sefyllfa dreth o ran Lwfans Oes, ni fydd modd i chi gyflwyno unrhyw beth i CThEF.

Os yw canlyniadau’r cyfrifiad yn dangos newidiadau y mae angen i chi roi gwybod i CThEF amdanynt, gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

Dechrau nawr

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).

Ar ôl i chi wneud cais

Os yw’ch taliadau treth wedi gostwng, efallai y bydd iawndal yn ddyledus gan eich cynllun pensiwn ar gyfer blwyddyn dreth 2015 i 2016 hyd at flwyddyn dreth 2018 i 2019. Bydd CThEF yn adolygu’r wybodaeth a roddir a’i throsglwyddo i’ch cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus. Ar ôl i’ch cynllun pensiwn ystyried a chytuno ar y gwerthoedd hyn, efallai y bydd y cynllun pensiwn yn gwneud y canlynol:

  • talu iawndal i chi am eich taliadau treth sydd wedi’u gordalu

  • cynyddu buddiannau’ch pensiwn am y taliadau treth sydd wedi’u gordalu ar eich rhan

Os oes ad-daliad o daliadau treth yn ddyledus i chi ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020 hyd at flwyddyn dreth 2022 i 2023, bydd CThEF yn adolygu’r wybodaeth a roddir. Os gwnaethoch dalu’r dreth i CThEF yn uniongyrchol, byddwn yn talu hyn yn ôl i chi gan ddefnyddio’r manylion banc a roddwyd gennych.

Os gwnaeth eich cynllun dalu’r taliadau treth ar eich rhan, bydd CThEF yn anfon y manylion at eich cynllun pensiwn er mwyn iddo gynyddu buddiannau’ch pensiwn am y taliadau treth sydd wedi’u gordalu ar eich rhan.

Os oes gennych daliadau treth ychwanegol i’w talu ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020 hyd at flwyddyn dreth 2022 i 2023 a’ch bod yn dewis talu’r taliadau hyn eich hunan, byddwch yn cael hysbysiad drwy’r post ynghylch hyn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Mawrth 2025 show all updates
  1. The guidance has been updated to explain that this service does not impact your decision on how to take your pension benefits at retirement, and the service will not calculate your benefits. Information added to make clear that the 9 month window to save progress and return to the service does not impact statutory deadlines for submitting any tax changes to HMRC. Information about allowances and reliefs within the remedy tax years for the service has been added.

  2. Welsh translation added.

  3. Embedded a video explaining how to calculate your public service pension adjustment and updated the 'before you start' section to include your ‘Remedy’ or ‘Remediable’ Pension Savings Statements (RPSS), including any revised statements you have been sent.

  4. The guidance has been updated to make it clear what to do after you calculate your tax position if it hasn’t changed.

  5. Information on saving the progress of a submission and additional guidance on answering questions has been added.

  6. A file has been added that has information about what you will need and guidance on the questions you will be asked.

  7. Guidance has been updated to tell members about the information they will need in order to use the service.

  8. The information to check what you need before you use the service has been updated.

  9. First published.

Argraffu'r dudalen hon