Canllawiau

Herio penderfyniad ynghylch cais i’r Gwasanaeth Gofal Plant

Gofynnwch i CThEF adolygu’ch cais am Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth neu’ch cais am ofal plant sy’n rhad ac am ddim i rieni sy’n gweithio, os ydych yn anghytuno â phenderfyniad sy’n nodi nad ydych yn gymwys.

Pryd i ofyn am adolygiad

Os ydych o’r farn bod ein penderfyniad ynghylch cais i’r Gwasanaeth Gofal Plant yn anghywir, gallwch wneud cais i herio penderfyniad o ran gofal plant. Yr enw ar hyn yw ‘adolygiad gorfodol’. Gallwch ddefnyddio’r adolygiad i wneud y canlynol:

  • gofyn ein bod ni’n edrych ar benderfyniad ar gais i’r Gwasanaeth Gofal Plant eto
  • rhoi gwybod i ni pam mae’r penderfyniad rydym wedi dod iddo’n anghywir
  • rhoi unrhyw dystiolaeth i ategu’r rheswm dros eich her

Ni ddylech gyflwyno’r cais yn hwyrach na 30 diwrnod ar ôl y dyddiad y cawsoch chi’r llythyr neu neges o benderfyniad gennym yn wreiddiol. Os byddwch yn anfon y cais atom yn hwyrach na 30 diwrnod, bydd angen i chi roi gwybod i ni pam mae’n hwyr. Yna, byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydyn ni wedi derbyn eich cais.

Pwy all ofyn am adolygiad

Gall y person a wnaeth gais i fod yn ddeiliad cyfrif y Gwasanaeth Gofal Plant ofyn am adolygiad gorfodol.

Pwy na ddylai ofyn am adolygiad

Ni allwch ddefnyddio’r ffurflen hon os gwnaethon ni roi gwybod i chi nad ydych yn gymwys oherwydd:

  • ni allwn ddod o hyd i fanylion eich partner ― dylech gysylltu â llinell gymorth y Gwasanaeth Gofal Plant
  • rydych yn credu eich bod chi wedi defnyddio’r wybodaeth anghywir wrth wneud cais yn wreiddiol ― gallwch wneud cais eto gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

I ddefnyddio’r ffurflen ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • dyddiad y penderfyniad gwreiddiol
  • y llythyr neu’r neges a anfonon ni atoch
  • y rheswm pam rydych o’r farn bod y penderfyniad yn anghywir

Gallwch uwchlwytho dogfennau fel tystiolaeth ategol sy’n dangos eich bod chi’n gymwys i hawlio. Efallai y byddwn yn gofyn i chi anfon dogfennau gwreiddiol ar ddyddiad hwyrach.

Os oes gennych bartner, ac rydych yn ei gynnwys yn eich cais gwreiddiol, bydd angen i chi roi ei enw a’i rif Yswiriant Gwladol hefyd.

Sut i ofyn am adolygiad

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i ofyn am adolygiad gorfodol.

Dechrau nawr

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Os ydych yn gymwys

Byddwn yn ysgrifennu atoch er mwyn rhoi gwybod i chi eich bod yn gymwys o fewn 30 diwrnod.

Os nad ydych yn gymwys

Byddwn yn ysgrifennu atoch er mwyn rhoi gwybod i chi nad ydych yn gymwys cyn pen 30 diwrnod, ac yn rhoi gwybod i chi sut i apelio os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnom

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn gofyn am yr hyn sydd ei angen arnom. Gallai gymryd hyd at 45 diwrnod i ni benderfynu os bydd hyn yn digwydd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 Mawrth 2025 show all updates
  1. Welsh translation has been added.

  2. References to '30 hours free childcare' have been changed to 'free childcare for working parents'.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon