Gwirio faint o dreth rydych yn ei thalu ar ddifidendau a llog o gynilion
Dysgwch sut y mae CThEF yn cyfrifo’r dreth a godir ar incwm o ddifidendau a llog o gynilion.
Gall y rhan fwyaf o bobl ennill rhywfaint o incwm o ddifidendau a llog o’u cynilion heb dalu treth.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y canlynol:
Defnyddiwch yr offeryn hwn os ydych am wirio a oes angen i chi dalu treth ar eich incwm o ddifidendau neu log o gynilon, a dysgwch sut y mae’r dreth yn cael ei chyfrifo.
Cyn i chi ddechrau
Ni allwch ddefnyddio’r offeryn hwn os ydych yn gwneud y canlynol:
- cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad
- cael unrhyw incwm tramor
- cael Lwfans Priodasol
- cael Lwfans Person Dall
I wirio’ch treth gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen cod treth 1257L arnoch.
Bydd hefyd angen i chi wybod y manylion am unrhyw incwm o gyflogaeth neu bensiwn ar gyfer y flwyddyn dreth dan sylw, yn ogystal â’r manylion am unrhyw fuddiannau trethadwy’r Wladwriaeth yr ydych yn eu cael, os o gwbl.