Gwiriwch a yw neges neu alwad a gawsoch gan yr OPG yn ddilys
Dysgwch sut mae’r OPG yn cysylltu â chwsmeriaid a beth i'w wneud os ydych chi'n poeni nad yw galwad, e-bost neu neges yn ddilys.
Yn berthnasol i England and Gymru
Negeseuon testun
Mae’r OPG yn anfon negeseuon testun at gwsmeriaid sy’n cofrestru LPA i ofyn am daliad.
Mae’n cynnwys dolen i dudalen dalu GOV.UK a chyfeirnod.
Ni fydd yr OPG byth yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth bersonol nac ariannol trwy neges destun.
Os ydych chi’n derbyn neges destun gan yr OPG yn gofyn am wybodaeth bersonol neu ariannol, peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolen nac ymateb iddo.
Negeseuon a galwadau WhatsApp
Nid yw’r OPG yn defnyddio WhatsApp i anfon negeseuon na ffonio cwsmeriaid. Nid yw unrhyw gyfathrebu trwy WhatsApp sy’n honni ei fod gan yr OPG yn ddilys.
Gwneud taliadau
Gallwch dalu i’r OPG mewn un o dair ffordd.
Gellir talu drwy gerdyn credyd neu ddebyd. Byddwn yn anfon neges destun yn gofyn am daliad. Bydd hyn yn cynnwys dolen i’r dudalen dalu GOV.UK a chyfeirnod.
Gellir talu dros y ffôn neu drwy siec hefyd. Bydd ein e-byst a’n llythyrau yn dweud wrthych sut i wneud hyn ac yn cynnwys rhif cyswllt ar gyfer y tîm taliadau cardiau a’ch cyfeirnod.
Rhoi gwybod am bryderon
Os ydych yn pryderu nad yw cyswllt gan yr OPG yn ddilys, ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 0300 456 0300 neu e-bostiwch customerservices@publicguardian.gov.uk
Os ydych wedi derbyn neges sgam, cysylltwch â’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.
Anfonwch e-byst amheus ymlaen at yr NCSC report@phishing.gov.uk.
Anfonwch negeseuon testun amheus i 7726. Mae hyn yn rhad ac am ddim a bydd yn riportio’r neges i’ch darparwr ffôn symudol.
Am fwy o wybodaeth, gweler ‘Osgoi ac adrodd ar sgamiau rhyngrwyd a gwe-rwydo: Rhowch wybod am sgamiau rhyngrwyd a gwe-rwydo - GOV.UK (www.gov.uk)’.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 August 2023 + show all updates
-
Welsh added.
-
First published.