Gwirio a ydy’r dreth ar eich slip cyflog yn gywir
Sut i wirio’ch treth os nad yw’ch cyflog yn cyfateb i’r hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl, a diweddaru’ch manylion os ydych o’r farn bod eich cod treth yn anghywir.
Rhowch adborth i ni.
Mae angen eich help arnom i wella ac i wneud yn siŵr bod GOV.UK ar ei orau i chi. Gallwch roi adborth i ni am yr arweiniad hwn er mwyn helpu i wella GOV.UK.
Bydd eich cyflogwr yn tynnu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol o’ch cyflog a’ch pensiwn cyn i chi gael eich talu. Yr enw a roddir ar hyn yw Talu Wrth Ennill (TWE).
Rydyn ni’n defnyddio cod treth i roi gwybod i’ch cyflogwr neu ddarparwr eich pensiwn faint o’ch incwm blynyddol ddylai fod yn rhydd o dreth. Mae’r cod treth hwn yn seiliedig ar eich Lwfans Personol (y swm gallwch ei ennill heb dalu treth).
Mae’ch swm rhydd o dreth:
- yn cynyddu os ydych yn gymwys ar gyfer rhai lwfansau neu ryddhadau treth penodol
- yn lleihau i gasglu treth sy’n ddyledus ar gyfer buddiannau cwmni ac incwm o ffynonellau eraill neu os yw cyfanswm eich incwm yn fwy na £100,000 mewn blwyddyn dreth
Mae’ch cyflogwr neu ddarparwr eich pensiwn yn rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau mewn incwm neu fuddiannau sy’n berthnasol i chi a allai effeithio ar eich treth. Mae newid cod treth yn eich helpu i dalu’r swm cywir o dreth drwy gydol y flwyddyn. Mae’n ei gwneud yn llai tebygol y byddwch yn talu gormod neu ddim digon o dreth ar ddiwedd y flwyddyn.
Gall faint o gyflog clir a gewch newid os bydd eich cod treth yn newid.
Dysgwch pam y mae’ch cod treth wedi newid
Gallwch weld eich cofnodion treth personol ar-lein i wirio:
- eich cod treth
- y rheswm mae’ch cod treth wedi newid
Bydd angen i chi fewngofnodi neu sefydlu cyfrif ar-lein CThEF neu ddefnyddio’r ap CThEF.
Defnyddio cyfrif ar-lein CThEF
- Mewngofnodwch i wasanaethau ar-lein CThEF.
- Ewch i’r adran ‘Talu Wrth Ennill (TWE)’.
- Os yw’ch cod treth wedi newid, bydd gennych faner neges bwysig ar eich trosolwg Treth Incwm TWE.
- Dewiswch ‘bwrw golwg dros y newid diweddaraf i’ch cod treth’. Bydd hyn yn egluro’r rheswm dros y newid.
- Os nad yw’ch cod treth wedi newid, gallwch ddewis ‘gwirio’r flwyddyn dreth bresennol’ a bwrw golwg dros eich Crynodeb Treth Incwm TWE ar gyfer 6 Ebrill i 5 Ebrill.
- Yna, dewiswch eich cod treth (er enghraifft, ‘Cod treth: S1257L’) i wirio eich lwfans personol.
Defnyddio ap CThEF
- Lawrlwythwch ap CThEF.
- Ewch i’r adran ‘Talu Wrth Ennill (TWE)’.
- Dewiswch ‘deall eich cod treth’. Os bydd eich cod treth yn newid, bydd yr adran hon yn egluro’r rheswm dros y newid.
Os byddwch yn penderfynu peidio â defnyddio ein gwasanaethau ar-lein, gallwch wirio beth mae’ch cod treth yn ei olygu.
Diweddaru’ch manylion os ydych chi’n meddwl eu bod yn anghywir neu ar goll
Os ydych chi’n meddwl bod eich cod treth yn anghywir, gallwch ddiweddaru’ch manylion i roi gwybod i CThEF am y canlynol:
- dechrau swydd newydd
- cael mwy nag un swydd
- newid yn eich incwm o gyflogaeth
- newid yn eich buddiannau cwmni fel car cwmni neu yswiriant meddygol
- newid yn eich incwm pensiwn
Mynd yn ddi-bapur i gael diweddariadau am eich cod treth
Gallwch ddewis cael diweddariadau am unrhyw newidiadau i’ch cod treth drwy e-bost neu fel neges ar-lein yn eich cyfrif ar-lein CThEF neu’r ap CThEF. Dysgwch sut i fynd yn ddi-bapur i gael diweddariadau am eich cod treth.
Os oes angen help ychwanegol arnoch i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF
Gallwch ddysgu sut i:
- gael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch os na allwch ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein
- gofrestru ffrind neu aelod o’r teulu i’ch helpu chi gyda’ch treth