Canllawiau

Gwirio a allwch hawlio lwfans uwch-ddidyniad neu lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig

Os ydych yn gwmni, gallwch gael gwybod a allwch hawlio’r lwfans uwch-ddidyniad neu’r lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig ar gyfer costau offer neu beiriannau.

Mae’r lwfans uwch-ddidyniad a’r lwfans cyfalaf blwyddyn gyntaf yn lwfansau dros dro y gallwch eu hawlio ar gostau offer a pheiriannau cymhwysol.

Yr enw arall ar lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig yw’r lwfans SR.

Dim ond os ydych chi’n gwmni y gallwch hawlio’r lwfansau hyn. Gwiriwch pa lwfansau y gallwch eu hawlio fel unig fasnachwr neu ymddiriedolaeth.

Gallwch hawlio’r lwfansau hyn os yw’r canlynol i gyd yn gymwys:

  • mae’ch cwmni’n agored i Dreth Gorfforaeth
  • gwnaethoch y gwariant ar neu ar ôl 1 Ebrill 2021, ond cyn 1 Ebrill 2023
  • ni wnaethoch brynu’r offer a’r peiriannau oherwydd contract yr ymrwymoch iddo cyn 3 Mawrth 2021

Cael help i weld a allwch hawlio a faint y gallwch hawlio

Gallwch gael help i ddeall:

  • os yw’ch gwariant yn gymwys am y lwfans uwch-ddidyniad neu’r lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig
  • faint o ryddhad y gallai fod gennych hawl iddo

Nid yw hyn yn berthnasol i bob sefyllfa bosib. Cyn i chi hawlio, mae’n rhaid i chi wirio:

  • eich bod yn cydymffurfio â’r holl reolau ar gyfer y rhyddhadau hyn
  • bod eich hawliad wedi ei gyfrifo’n gywir

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, mae’n bosibl yr hoffech geisio cyngor proffesiynol cyn hawlio.

Dechrau nawr

Gwirio a fydd eich offer a’ch peiriannau yn gymwys

Mae offer a pheiriannau yn eitemau sy’n hanfodol i’r fasnach, ac maen nhw’n cael eu cadw yn barhaol at ddefnydd y busnes. Bydd yr hyn sy’n cyfrif fel offer a pheiriannau yn dibynnu ar natur eich busnes.

Dysgwch ragor am yr hyn sy’n cyfrif fel offer a pheiriannau.

I wneud cais am y lwfans uwch-ddidyniad neu’r lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig, mae’r offer a’r peiriannau yn gorfod:

  • bod yn newydd a heb gael eu defnyddio
  • peidio:
    • bod wedi’u rhoi i chi fel rhodd
    • bod yn gar (mae’n bosibl y gall cerbydau eraill fod yn gymwys ar gyfer yr uwch-ddidyniad) — dysgwch sut i hawlio lwfansau cyfalaf ar geir
    • bod wedi’u prynu er mwyn cael eu prydlesu i rywun arall (oni bai mai offer neu beiriannau cefndirol o fewn adeilad sydd dan sylw)
    • bod wedi’u prynu yn ystod y cyfnod cyfrifyddu pan ddaeth y gweithgareddau busnes i ben

Os defnyddir eich offer a’ch peiriannau mewn masnachau a ddiogelir

Ni allwch hawlio uwch-ddidyniad ar gyfer offer a pheiriannau a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn masnach a ddiogelir.

Dysgwch ragor am lwfansau cyfalaf y gallwch eu hawlio ar gyfer masnach a ddiogelir (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn prydlesu offer a pheiriannau cefndirol

Os ydych yn prydlesu eiddo, mae’n bosibl y gallwch hawlio ar gyfer offer neu beiriannau cefndirol yn yr adeiladau sy’n cael eu prydlesu. Mae’r asedion hyn yn cael eu gosod mewn adeiladau amrywiol er mwyn gallu eu defnyddio. Mae hyn yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol):

  • golau
  • gwifrau
  • gwres canolog

Fel arfer, ni allwch hawlio am offer a pheiriannau o fewn cartrefi rydych yn eu rhoi ar osod.

Os yw’ch offer a’ch peiriannau drwy gytundeb hurbwrcasu

Gallwch ond hawlio am wariant cyfalaf a wneir ar eich cytundeb hurbwrcasu.

Fel arfer, gallwch hawlio os:

  • rydych yn llogi’r offer a’r peiriannau i’w defnyddio yn eich busnes, heb drosglwyddo perchnogaeth, yn gyfnewid am daliadau rheolaidd
  • oes gennych hawl i gymryd perchnogaeth o’r offer a’r peiriannau os dilynir telerau’r contract

Os nad yw’r ased wedi’i ddefnyddio eto ar gyfer y busnes (ond mae disgwyl iddo fod), fel arfer gallwch hawlio lwfansau ar elfen gyfalaf y rhandaliadau rydych wedi eu talu.

Pan fyddwch yn defnyddio’r ased, fel arfer gallwch hawlio lwfansau ar elfen gyfalaf pob rhandaliad yn y dyfodol ar unwaith.

Gwirio beth allai fod yn gymwys ar gyfer yr uwch-ddidyniad

Gallwch ond hawlio’r uwch-ddidyniad ar gyfer yr offer a’r peiriannau prif gyfradd.

Offer a pheiriannau prif gyfradd yw offer a pheiriannau sydd ddim ar gyfradd arbennig. Dysgwch ragor am gyfraddau lwfansau cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg).

Mae offer a pheiriannau a allai fod yn gymwys ar gyfer yr uwch-ddidyniad yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol):

  • peiriannau fel cyfrifiaduron, argraffwyr, turnau a phlaenwyr
  • offer swyddfa fel desgiau a chadeiriau
  • cerbydau fel faniau, lorïau a thractorau (ond nid ceir)
  • offer warysau fel tryciau fforch godi, tryciau paled a staceri
  • offerynau fel ysgolion a driliau
  • offer adeiladu fel cloddwyr, cywasgwyr, a theirw dur
  • rhai gosodiadau fel ffitiadau cegin ac ystafell ymolchi a systemau larwm tân

Nid yw nodweddion annatod yn gymwys ar gyfer yr uwch-ddidyniad ond gallent fod yn gymwys i gael y lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig.

Dewch o hyd i enghraifft o pryd y gall busnes hawlio’r uwch-ddidyniad (yn agor tudalen Saesneg).

Gwirio beth allai fod yn gymwys ar gyfer y lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig

Gallwch ond hawlio’r lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig ar gyfer offer a pheiriannau cyfradd arbennig. Dysgwch ragor am gyfraddau lwfansau cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg).

Mae offer a pheiriannau a allai fod yn gymwys ar gyfer y lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol):

Dewch o hyd i enghraifft o bryd y gall busnes hawlio’r lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig (yn agor tudalen Saesneg).

Cyfrifo beth y gallwch ei hawlio

Dylech wirio faint y gallwch ei hawlio (yn agor tudalen Saesneg) cyn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 May 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 August 2024 + show all updates
  1. Added translation

  2. The planned downtime for the online service that started at 2pm on Friday 6 October 2023 will now end at 3pm on Friday 13 October 2023. We apologise for any inconvenience this may cause.

  3. Due to planned downtime, the online service will be unavailable from 2pm on Friday 6 October 2023 to 10am on Tuesday 10 October 2023.

  4. The section 'Get help to check if you can claim and how much you can claim' has been added.

  5. Information about examples of when a business can claim the super-deduction and special rate first year allowance has been added.

  6. First published.

Sign up for emails or print this page