Gwirio a oes angen cymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA) arnoch
Bydd angen gymeradwyaeth arnoch gan CThEF i gynhyrchu cwrw, seidr, gwirodydd, gwin, neu gynhyrchion eplesedig eraill yn y DU.
Dim ond er eich gwybodaeth y mae’r arweiniad hwn. Mae wedi’i gyhoeddi’n gynnar. Bydd yn berthnasol o 1 Chwefror 2025 ymlaen.
Tan hynny, mae’n rhaid i chi ddilyn yr arweiniad presennol ar gynhyrchu alcohol, sydd wedi’i amlinellu yn hysbysiadau ecséis 39, 162, 163 a 226 (yn agor tudalen Saesneg).
Darllenwch ragor am y newidiadau sydd i ddod i gymeradwyo, datganiadau a thaliadau o ran alcohol (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych eisoes wedi cofrestru neu â thrwydded i gynhyrchu cynhyrchion alcoholaidd erbyn 1 Chwefror 2025, byddwn yn mudo eich cofrestriadau neu drwyddedau ar wahân yn awtomatig i un gymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchydd cynhyrchion alcoholaidd (APPA) sengl.
Byddwn yn anfon llythyr atoch i gadarnhau manylion eich cymeradwyaeth newydd. Os nad yw’r llythyr wedi eich cyrraedd erbyn 25 Chwefror 2025, dylech gysylltu â nru.alcohol@hmrc.gov.uk.
Pwy sy’n gorfod gwneud cais
Mae’n rhaid i chi fod â chymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA) gan CThEF cyn i chi ddechrau cynhyrchu cynhyrchion alcohol yn y DU.
Mae cynhyrchu cynhyrchion alcoholaidd yn cynnwys cynnal gweithgareddau ar gynhyrchion alcohol, sy’n arwain at y canlynol:
-
newid eu halcohol yn ôl cyfaint (ABV)
-
newid eu dosbarthiad cynnyrch
-
yn cynhyrchu cynnyrch gwahanol
Mae hyn yn cynnwys cymysgu neu goethi gwirodydd, gan ddefnyddio cynhyrchion alcohol sydd â tholl wedi’i ohirio.
Nid yw mewnforio cynhyrchion alcohol gorffenedig a photelu cynnyrch swmp heb ei newid yn cael ei dynodi i fod yn cynhyrchu.
O 1 Chwefror 2025 ymlaen bydd rhaid i chi gael cymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA) i gynhyrchu seidr, hyd yn oed os oeddech wedi eich esemptio rhag ceisio cymeradwyaeth yn flaenorol.
Esemptiau
Ni fydd angen cymeradwyaeth arnoch i gynhyrchu cynhyrchion alcohol ar gyfer y canlynol:
-
defnydd domestig (nid yw hyn yn cynnwys gwirodydd)
-
at ddibenion ymchwil neu ddibenion arbrofol
Sut y mae’r cymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA) yn gweithio
Bydd gennych un cymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA) sengl. Bydd hyn yn cynnwys pob un o’r canlynol:
-
categorïau o gynhyrchion alcoholig y gallwch eu cynhyrchu
-
mathau o weithgareddau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu y gallwch eu cyflawni, megis dal cynhyrchion alcoholaidd mewn gohiriad tollau
-
safleoedd lle gallwch gynhyrchu cynhyrchion alcoholaidd a’u dal mewn gohiriad tollau
Gallwch wneud cais i gymeradwyo mwy nag un safle, neu gategori o gynhyrchion alcoholaidd, ar yr un pryd. Gallwch hefyd ddiweddaru eich cymeradwyaeth bresennol, i ychwanegu eiddo newydd, neu gategorïau o gynhyrchion alcoholaidd. Dim ond cynhyrchion alcoholaidd yr ydym wedi’u cymeradwyo y gallwch eu cynhyrchu, ar safleoedd yr ydym wedi’u cymeradwyo.
Mae’n drosedd cynhyrchu cynhyrchion alcoholaidd heb y gymeradwyaeth briodol, neu ar safleoedd nad ydym wedi’u cymeradwyo. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os byddwch yn gwneud hynny. Gallwn hefyd atafaelu unrhyw gynhyrchion alcoholaidd, pecynnu, offer neu sylweddau a ddefnyddir wrth gynhyrchu cynhyrchion alcoholaidd.
Sut i wneud cais
Gwnewch gais am gymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd gan CThEF, drwy ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein.
Rhagor o wybodaeth
I gael gwybodaeth fanwl am gymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd, darllenwch y canllaw technegol ar gyfer cynhyrchion alcoholaidd (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 11 Rhagfyr 2024Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 Rhagfyr 2024 + show all updates
-
Updated to say that users should only contact HMRC about their alcoholic products producer approval (APPA) ID if they have not received it by 25 February 2025.
-
Added translation
-
Added translation