Gwirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am eich incwm o blatfformau ar-lein
Gwirio a oes angen i chi ddatgan incwm o werthu meddiannau personol, nwyddau neu wasanaethau ar-lein, creu cynnwys ar-lein neu roi eiddo ar osod gan ddefnyddio platfformau digidol.
Efallai y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF os ydych yn cael incwm drwy farchnad ar-lein neu’r cyfryngau cymdeithasol. Gallai hyn fod yn wir p’un a yw’n brif ffynhonnell eich incwm neu’n ffynhonnell ychwanegol — a elwir weithiau’n ‘prosiect pres poced’.
Gallai incwm fod yn arian, rhoddion neu wasanaethau rydych yn eu cael o wneud y canlynol:
- gwerthu meddiannau personol
- gwerthu nwyddau
- darparu gwasanaeth
- creu cynnwys ar-lein
- rhoi tir neu eiddo ar osod
Gwerthu meddiannau personol
‘Meddiannau personol’ yw’r eitemau hynny sy’n perthyn i chi at eich defnydd eich hun. Efallai eich bod chi wedi’u prynu neu eu cael yn rhodd.
Gall meddiannau personol gynnwys pethau fel y canlynol:
- eich dillad
- eich addurnau
- offer eich cegin
- eich bwrdd a’ch cadeiriau
- eich gemwaith
- eich cyfrifiaduron a’ch ffonau
Os ydych yn gwerthu meddiannau personol yn unig, ni fyddwch yn debygol o orfod talu Treth Incwm. Fodd bynnag, yn dibynnu ar yr eitemau rydych yn eu gwerthu ac am faint rydych yn eu gwerthu, efallai y bydd angen i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf. Mae hyn yn berthnasol i werthu meddiannau personol pan fo’r eitem werth dros £6,000.
Bydd yr offeryn hwn yn eich helpu gyda phenderfynu a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn ai peidio.
Mae’r terfyn o £6,000 ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf yn berthnasol i feddiant personol unigol yn ogystal â bod yn berthnasol i gyfanswm gwerth casgliad o eitemau, er enghraifft:
- darnau gêm gwyddbwyll
- llyfrau gan yr un awdur neu ar yr un pwnc
- addurnau sy’n mynd gyda’i gilydd, fel fasys neu gerfluniau bach
Enghraifft — arian yn yr atig
Rydych yn clirio’ch atig ac yn penderfynu gwerthu’ch eitemau diangen gan ddefnyddio marchnad ar-lein. Mae’n annhebygol y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn na thalu unrhyw dreth, cyhyd â bo dim un o’r eitemau’n werth dros £6,000.
Enghraifft — gwerthu meddiant personol am elw
Rydych yn adnewyddu’ch tŷ ac yn penderfynu gwerthu llun rydych yn berchen arno gan ddefnyddio marchnad ar-lein. Gwnaethoch brynu’r llun 5 mlynedd yn ôl am £1,600 ac rydych yn ei werthu am ei werth marchnadol presennol o £8,000. Efallai y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn, gan eich bod wedi ennill £6,400.
Gwerthu nwyddau
Mae’n debyg eich bod yn masnachu os byddwch yn gwerthu nwyddau:
- rydych wedi’u prynu gyda’r bwriad o’u gwerthu am elw
- rydych wedi’u gwneud, gan gynnwys eitemau rydych yn eu gwneud fel rhan o hobi
Enghraifft — uwchgylchu a gwerthu
Rydych yn uwchgylchu dodrefn ail law fel hobi gyda’r bwriad o’u hailwerthu. Rydych yn eu gwerthu drwy farchnad ar-lein.
Rydych wedi cael incwm drwy blatfform ar-lein o werthu nwyddau, ac efallai y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn.
Enghraifft — mewnforio eitemau i’w gwerthu
Rydych yn mewnforio camerâu ac ategolion ar-lein o’r dwyrain pell ac yn eu gwerthu ar farchnad ar-lein, gan wneud elw.
Rydych wedi cael incwm drwy blatfform ar-lein o werthu nwyddau, ac efallai y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn.
Enghraifft — ailwerthu dillad ac eitemau eraill
Ar ôl ennill rhywfaint o arian o werthu dillad diangen, rydych yn dechrau prynu eitemau o arwerthiannau cist car a siopau elusen. Rydych yn gwerthu’r eitemau hyn drwy farchnadoedd ar-lein, gyda’r bwriad o’u gwerthu am fwy o arian na wnaethoch chi dalu amdanynt. Dyma rywbeth rydych yn ei wneud yn rheolaidd.
Rydych wedi cael incwm drwy blatfform ar-lein o werthu nwyddau, ac efallai y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn.
Darparu gwasanaeth
Gwasanaethau yw’r pethau rydych yn eu gwneud i bobl eraill, er enghraifft:
- garddio a gwaith atgyweirio
- cerdded cŵn
- gyrru tacsi
- danfon bwyd
- rhoi gwersi
- gwarchod plant neu fod yn nani
- llogi offer
Enghraifft — gwarchod plant neu fod yn nani
Rydych yn darparu gwasanaethau fel gwarchodwr plant neu nani. Rydych yn defnyddio platfform ar-lein i greu proffil, hysbysebu a gwerthu eich gwasanaethau.
Rydych wedi cael incwm drwy blatfform ar-lein o ddarparu gwasanaeth, ac efallai y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn.
Creu cynnwys ar-lein
Gallai cynnwys ar-lein fod yn un o’r canlynol:
- creu fideos ar-lein
- cynhyrchu podlediadau
- gwaith dylanwadu ar y cyfryngau cymdeithasol
Mae incwm o greu cynnwys ar-lein yn cynnwys rhoddion a gwasanaethau a gewch o hyrwyddo cynhyrchion ar-lein.
Enghraifft — gwaith dylanwadu ar y cyfryngau cymdeithasol
Rydych yn grëwr cynnwys a dylanwadwr â sianel ar y cyfryngau cymdeithasol lle’r ydych yn adolygu cynhyrchion harddwch. Rydych yn cael incwm o hysbysebu ar eich fideos. Rydych hefyd yn cael rhoddion gan y cwmnïau yr ydych yn adolygu eu cynhyrchion.
Efallai y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn.
Rhoi tir neu eiddo ar osod
Gallai tir neu eiddo fod yn un o’r canlynol:
- ystafell yn eich prif gartref, gan gynnwys defnydd fel gwely a brecwast
- eich prif gartref
- eiddo nad yw’n brif gartref i chi
- tir, er enghraifft eich dreif
Enghraifft — rhoi ystafell sbâr ar osod
Rydych yn rhoi eich ystafell sbâr ar osod am gyfnodau byr dymor gan ddefnyddio platfform ar-lein. Rydych yn cael taliadau rheolaidd o’r platfform ar-lein ar ôl i’ch gwesteion gyrraedd.
Rydych wedi cael incwm rhent o blatfform ar-lein, ac efallai y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn.
Gwirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am eich incwm
Gallwch ddefnyddio’r offeryn hwn i wirio a oes angen i chi roi gwybod i ni am incwm a gewch o ddefnyddio platfformau ar-lein.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen rhywfaint o wybodaeth am eich incwm arnoch. Gallai hyn gynnwys:
- faint a gawsoch, neu faint yr ydych yn disgwyl ei gael yn ystod y flwyddyn dreth
- p’un a ydych yn rhannu’r incwm hwn â rhywun arall
- a oes gennych incwm o ffynonellau eraill y mae angen i chi ei ddatgan
Pan fyddwch yn rhoi gwybod i CThEF am eich incwm, bydd angen i chi roi gwybod am yr incwm ar gyfer y flwyddyn dreth, sef o 6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.
Bydd rhai platfformau ar-lein yn dangos eich incwm ar gyfer y flwyddyn galendr, sef o 1 Ionawr i 31 Rhagfyr. Os felly, bydd angen i chi gyfrifo’r incwm ar gyfer y flwyddyn dreth cyn defnyddio’r offeryn.
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu a oes angen i chi roi gwybod i ni am yr incwm hwn.
Gwybodaeth y mae platfformau ar-lein yn ei chasglu
Os byddwch yn gwerthu ar blatfformau digidol, efallai y bydd angen i weithredwr y platfform wneud y canlynol:
- casglu a gwirio manylion penodol amdanoch
- rhoi gwybod i CThEF am rai manylion
Dysgwch ragor am werthu nwyddau a gwasanaethau ar blatfformau digidol (yn agor tudalen Saesneg).
Mae angen eich help arnom i wella ac i wneud yn siŵr bod GOV.UK ar ei orau i chi. Gallwch roi adborth i ni ynghylch gwirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am eich incwm o blatfformau ar-lein.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 28 Tachwedd 2024Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Rhagfyr 2024 + show all updates
-
A link has been added to leave feedback about this guidance. Information has been added to make it clearer when you must tell HMRC about income you've received.
-
Added translation
-
First published.