Gwirio pa gyflogeion y gallwch eu rhoi ar ffyrlo er mwyn defnyddio’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws
Cael gwybod pa gyflogeion y gallwch eu rhoi ar ffyrlo a hawlio amdanynt drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws.
Er mwyn defnyddio’r cynllun, dyma’r camau y bydd angen i chi eu cymryd:
-
Gwirio pa gyflogeion y gallwch eu rhoi ar ffyrlo.
-
Rhoi gwybod am daliad drwy’r system Gwybodaeth Amser Real TWE.
Ar gyfer cyfnodau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Mai 2021, gallwch hawlio ar gyfer cyflogeion a oedd wedi’u cyflogi ar 2 Mawrth 2021, cyn belled â’ch bod wedi gwneud cyflwyniad Gwybodaeth Amser Real (RTI) TWE i CThEM rhwng 20 Mawrth 2020 a 2 Mawrth 2021, sy’n nodi eich bod wedi talu enillion i’r cyflogeion hynny. Nid oes angen i chi fod wedi hawlio’n flaenorol ar gyfer cyflogai cyn 2 Mawrth 2021 er mwyn hawlio ar gyfer cyfnodau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Mai 2021.
Gallwch hawlio ar gyfer cyflogeion sy’n cael eu trethu fel cyflogeion ac yr hysbysir amdanynt drwy TWE, ar unrhyw fath o gontract cyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys contractau:
- amser llawn
- rhan-amser
- gydag asiantaeth
- hyblyg
- dim oriau
Mae gwladolion tramor yn gymwys i gael eu rhoi ar ffyrlo. Nid yw grantiau o dan y cynllun yn cyfrif fel ‘mynediad at gyllid cyhoeddus’, a gallwch roi cyflogeion sydd ar fisa o unrhyw fath ar ffyrlo.
Mathau eraill o gyflogeion y gallwch hawlio ar eu cyfer
Gallwch hawlio grant ar gyfer mathau eraill o gyflogeion cyn belled â’u bod yn cael eu talu drwy TWE.
Gallwch hawlio ar gyfer:
- deiliaid swydd (gan gynnwys cyfarwyddwyr cwmni)
- aelodau cyflogedig o Bartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC)
- gweithwyr asiantaeth (gan gynnwys y sawl a gyflogir gan gwmni ambarél)
- gweithwyr cymal (b)
- gweithwyr amharhaol yn y sector cyhoeddus
- contractwyr o dan gwmpas y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35), ac sydd â swydd yn naill ai:
- y sector cyhoeddus
- sefydliad maint canolig neu sefydliad mawr (sefydliad cleient)
- unigolion sydd â chyfnod cyflog blynyddol
Mae rheolau ynghylch beth y gall eich cyflogeion ei wneud tra ydynt ar ffyrlo.
Gwirio sut mae amodau cyflogaeth gwahanol yn effeithio ar gymhwystra
Mae yna wahanol grwpiau o gyflogeion sy’n gymwys ar gyfer y cynllun.
Os yw’ch cyflogai ar gontract tymor penodol
Os nad yw contract tymor penodol y cyflogai eisoes wedi dod i ben, gellir ei ymestyn neu ei adnewyddu.
Ar gyfer cyfnodau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Mai 2021, gallwch roi’r cyflogai ar ffyrlo cyn belled â’i fod wedi’i gyflogi gennych ar 2 Mawrth 2021, cyn belled â’ch bod wedi gwneud cyflwyniad Gwybodaeth Amser Real (RTI) TWE i CThEM rhwng 20 Mawrth 2020 a 2 Mawrth 2021.
Os ydych yn cyflogi prentisiaid
Gellir rhoi prentisiaid ar ffyrlo yn yr un modd â chyflogeion eraill, a gallant barhau i hyfforddi tra maent ar ffyrlo.
Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi dalu o leiaf yr Isafswm Cyflog ar gyfer Prentisiaeth/y Cyflog Byw Cenedlaethol/yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol i’ch Prentisiaid, fel sy’n briodol, ar gyfer yr holl amser y maent yn ei dreulio’n hyfforddi. Mae hyn yn golygu ar gyfer amser a dreuliwyd yn hyfforddi, bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw wahaniaeth rhwng y swm y gallwch ei hawlio drwy’r cynllun hwn ar gyfer cyflog y prentisiaid a’u hisafswm cyflog priodol.
Mae arweiniad ar gael ynghylch newidiadau i drefniadau dysgu ar gyfer prentisiaethau oherwydd coronafeirws:
Os yw’ch cyflogai yn athro cyflenwi
Mae athrawon cyflenwi yn gymwys ar gyfer y cynllun yn yr un ffordd â chyflogeion eraill, a gellir parhau i hawlio ar eu cyfer yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol ar yr amod bod y meini prawf cymhwystra arferol yn cael eu bodloni.
Os ydych wedi cyfuno’ch cyflogres, a bod gennych gyflogeion newydd arni
Pan fydd gan grŵp o gwmnïau sawl cynllun TWE, a bod yr holl gyflogeion yn cael eu trosglwyddo o’r cynlluniau hyn i gynllun TWE cyfunol newydd, bydd y cynllun newydd yn gymwys i barhau i ddefnyddio ffyrlo ac i hawlio ar gyfer cyflogeion.
Trosglwyddo cyflogeion drwy’r cynllun Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (TUPE) ac yn sgil newid o ran perchnogaeth
Os ydych yn hawlio am gyfnod sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Mai 2021 a’ch bod yn cyflogi rhywun a drosglwyddwyd o fusnes arall, gallwch hawlio o dan y rheolau arferol os oeddent wedi’u cynnwys ar gyflwyniad Gwybodaeth Amser Real (RTI) TWE i CThEM ar neu cyn 2 Mawrth 2021.
Fel arall, efallai y byddwch yn dal yn gymwys i hawlio mewn perthynas â’r cyflogeion os yw rheolau olyniaeth busnes TUPE neu TWE yn berthnasol i’r newid mewn perchnogaeth.
Gall y cyflogwr newydd hawlio am gyflogeion a drosglwyddwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2021. Mae’n rhaid i’r cyflogeion a drosglwyddwyd fod:
- wedi eu cyflogi gan yr hen gyflogwr ar neu cyn 2 Mawrth 2021
- wedi eu trosglwyddo o’u cyn-gyflogwr i’w cyflogwr newydd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2021
- wedi’u cynnwys ar gyflwyniad Gwybodaeth Amser Real (RTI) TWE i CThEM, gan eu cyn-gyflogwr, rhwng 20 Mawrth 2020 a 2 Mawrth 2021
Os ydych yn rhan o newid mewn perchnogaeth pan fo’r rheolau dilyniant busnes ar gyfer TUPE neu TWE yn berthnasol, dylech sicrhau bod yr wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer hawliadau yn y dyfodol drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws yn cael ei throsglwyddo. Gall gwybodaeth o’r fath ymwneud â chyfrifo dyddiad cyfeirnod y cyflogai ac 80% o gyflog arferol eich cyflogai.
Rhagor o arweiniad ynghylch rheolau TUPE.
Rhagor o arweiniad ynghylch dilyniant busnes.
Os oes gan eich cyflogai fwy nag un swydd neu ddyletswyddau eraill
Os oes gan eich cyflogai fwy nag un swydd
Os oes gan eich cyflogai fwy nag un cyflogwr, gellir ei roi ar ffyrlo ar gyfer pob swydd.
Gall cyflogai gael ei roi ar ffyrlo ar gyfer un swydd a chael taliad ffyrlo, a pharhau i weithio i gyflogwr arall a chael ei gyflog arferol ar gyfer y swydd honno.
Os yw’ch cyflogai wedi cael sawl cyflogwr dros y flwyddyn ddiwethaf
Os yw cyflogai wedi cael sawl cyflogwr dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi gweithio i un ohonynt ar y tro yn unig, a’i fod yn cael ei roi ar ffyrlo gan ei gyflogwr presennol, ni ddylai ei gyflogw(y)r blaenorol ei ailgyflogi a’i roi ar ffyrlo, na hawlio’i gyflog drwy’r cynllun.
Os yw’ch cyflogai’n gwneud gwaith gwirfoddol
Gall cyflogai sydd ar ffyrlo ymgymryd â gwaith gwirfoddol yn ystod oriau yr ydych yn cofnodi ei fod ar ffyrlo, ar yr amod bod y gwaith gwirfoddol hwnnw ar gyfer cyflogwr neu sefydliad arall.
Os yw’ch cyflogai’n ymgymryd â hyfforddiant
Gall cyflogeion sydd ar ffyrlo ymgymryd â hyfforddiant yn ystod oriau yr ydych yn cofnodi eu bod ar ffyrlo, ar yr amod nad yw’r cyflogai, wrth ymgymryd â’r hyfforddiant, yn darparu gwasanaethau i’w sefydliad nac yn cynhyrchu refeniw ar ei gyfer, nac ar ran ei sefydliad neu sefydliad cysylltiedig. Dylid annog cyflogeion ar ffyrlo i ymgymryd â hyfforddiant.
Pan fydd cyflogeion sydd ar ffyrlo yn ymgymryd â hyfforddiant yn ystod oriau yr ydych yn cofnodi eu bod ar ffyrlo, ar gais eu cyflogwr, mae ganddynt hawl i gael eu talu o leiaf eu hisafswm cyflog cenedlaethol priodol am yr amser hwn. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y taliad ffyrlo, sef 80% o gyflog arferol y cyflogai, hyd at £2,500, yn rhoi digon o arian i dalu am yr oriau hyfforddi hyn. Fodd bynnag, pan fydd yr amser a dreulir ar hyfforddiant yn golygu hawl i isafswm cyflog sy’n fwy na’r taliad ffyrlo, bydd angen i gyflogwyr dalu’r cyflog ychwanegol (gweler yr Adran Isafswm Cyflog Cenedlaethol am ragor o fanylion).
Cyflogeion ar ffyrlo sy’n gweithio fel cynrychiolwyr undeb neu gynrychiolwyr nad ydynt yn aelod o undeb neu fel ymddiriedolwyr pensiwn
Yn ystod oriau yr ydych yn cofnodi bod eich cyflogai ar ffyrlo, gall cyflogeion sy’n gynrychiolwyr undeb – neu’n gynrychiolwyr nad ydynt yn aelod o undeb – gyflawni dyletswyddau a gweithgareddau at ddibenion cynrychioli cyflogeion neu weithwyr eraill ar sail unigol neu gyfunol. Fodd bynnag, wrth wneud hyn, rhaid iddynt beidio â darparu gwasanaethau i neu ar ran eich sefydliad neu sefydliad cysylltiedig, na chynhyrchu refeniw ar eu cyfer.
Yn ystod oriau yr ydych yn cofnodi bod eich cyflogai ar ffyrlo, gall cyflogeion sy’n ymddiriedolwyr cynlluniau pensiwn neu sy’n gyfarwyddwyr ymddiriedol i ymddiriedolwyr corfforaethol ymgymryd â dyletswyddau ymddiriedolwr mewn perthynas â’r cynllun pensiwn. Fodd bynnag, ni all ymddiriedolwr cynllun pensiwn proffesiynol ac annibynnol, sydd wedi’i roi ar ffyrlo gan y cwmni ymddiriedol annibynnol, ymgymryd â gwaith ymddiriedolwr a fyddai’n darparu gwasanaethau i neu ar ran y cwmni ymddiriedol annibynnol, neu unrhyw sefydliad sy’n gysylltiedig â’r cwmni ymddiriedol annibynnol, na chynhyrchu refeniw ar eu cyfer, yn ystod oriau yr ydych yn eu cofnodi fel bod ar ffyrlo.
Os ydych wedi diswyddo’ch cyflogeion
Os oes rhaid i chi wneud diswyddiadau, dylech wneud hyn yn unol â’r rheolau arferol. Mae hyn yn cynnwys rhoi cyfnod o rybudd ac ymgynghori â staff cyn gwneud penderfyniad terfynol.
Ar gyfer cyfnodau hawlio sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2020, ni allwch hawlio ar gyfer unrhyw ddiwrnodau ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2020 pan oedd eich cyflogai sydd ar ffyrlo yn gweithio cyfnod rhybudd cytundebol neu statudol ar gyfer y cyflogwr (mae hyn yn cynnwys pobl sy’n ymgymryd â rhybudd o ymddeoliad neu ymddiswyddiad). Os yw cyflogai wedi hynny yn dechrau cyfnod rhybudd cytundebol neu statudol ar ddiwrnod sydd wedi’i gwmpasu gan hawliad a gyflwynwyd yn flaenorol, bydd angen i chi wneud addasiad.
Os ydych yn diswyddo cyflogai, dylech seilio tâl hysbysiad statudol a diswyddo statudol ar ei gyflog arferol yn hytrach na’r cyflog ffyrlo gostyngol.
Os yw coronafeirws neu unrhyw gyflwr arall wedi effeithio ar iechyd eich cyflogai
Mae’ch cyflogai yn gymwys i gael y grant a gellir ei roi ar ffyrlo os nad yw’n gallu gweithio, gan gynnwys gweithio o gartref neu weithio llai o oriau, oherwydd y rhesymau canlynol:
- mae’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol, neu mae’n wynebu’r risg uchaf o salwch difrifol o ganlyniad i goronafeirws ac yn dilyn arweiniad iechyd cyhoeddus - bydd y cyflogeion hyn yn dal i fod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws hyd yn oed os nad yw’r arweiniad o ran dilyn mesurau gwarchod ar waith
- mae ganddo gyfrifoldebau gofalu sy’n deillio o goronafeirws, megis gofalu am blant sydd gartref o ganlyniad i ysgolion a chyfleusterau gofal plant yn cau, neu ofalu am unigolyn sy’n agored i niwed, yn ei gartref
Os yw’ch cyflogai’n hunanynysu neu ar absenoldeb salwch
Os yw’ch cyflogai ar absenoldeb salwch neu’n hunanynysu oherwydd coronafeirws, efallai bydd modd iddo gael Tâl Salwch Statudol. Does dim disgwyl i’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws gael ei ddefnyddio ar gyfer absenoldebau tymor byr o’r gwaith oherwydd salwch.
Ni ddylid ystyried salwch tymor byr na hunanynysu wrth benderfynu a ddylid rhoi cyflogai ar ffyrlo. Fodd bynnag, os bydd cyflogwr yn dymuno rhoi cyflogai ar ffyrlo at ddibenion busnes, a bod y cyflogai ar absenoldeb salwch ar hyn o bryd, mae’r cyflogwr yn gymwys i wneud hynny, fel sy’n wir yn achos cyflogeion eraill. Yn yr achosion hyn, ni ddylai’r cyflogai barhau i gael tâl salwch, a byddai’n cael ei ystyried yn gyflogai ar ffyrlo.
Gall cyflogwyr roi cyflogeion sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol, neu sy’n risg uchel o gael salwch difrifol o ganlyniad i goronafeirws, ar ffyrlo. Mater i gyflogwyr yw penderfynu a ddylid rhoi’r cyflogeion hyn ar ffyrlo ai peidio. Nid oes angen i gyflogwr fod yn wynebu gostyngiad ehangach yn y galw na bod ar gau i fod yn gymwys i hawlio am y cyflogeion hyn.
Gallwch hawlio’n ôl ar gyfer yr un cyflogai drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws a’r cynllun ad-dalu Tâl Salwch Statudol fel ei gilydd, ond ddim ar gyfer yr un cyfnod. Pan fo cyflogai ar ffyrlo, gallwch adennill gwariant drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws yn unig, ac nid drwy’r cynllun ad-dalu Tâl Salwch Statudol. Os bydd cyflogai nad yw ar ffyrlo yn cael ei daro’n sâl oherwydd coronafeirws, neu os bydd angen iddo hunanynysu neu ddilyn mesurau gwarchod, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer y cynllun ad-dalu Tâl Salwch Statudol a fydd yn eich galluogi i hawlio hyd at bythefnos o Dâl Salwch Statudol ar gyfer y cyflogai.
Os bydd eich cyflogai’n cael ei daro’n sâl yn ystod ei ffyrlo
Mae cyflogeion ar ffyrlo yn cadw eu hawliau statudol, gan gynnwys eu hawl i Dâl Salwch Statudol. Mae hyn yn golygu bod rhaid talu o leiaf y Tâl Salwch Statudol i unrhyw gyflogai ar ffyrlo sy’n cael ei daro’n sâl oherwydd coronafeirws neu oherwydd unrhyw achos arall. Yn amodol ar gymhwystra, mae hyn yn cynnwys y rheini sy’n hunanynysu neu’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol oherwydd coronafeirws. Mater i gyflogwyr yw penderfynu a ddylid symud y cyflogeion hyn i’r Tâl Salwch Statudol neu eu cadw ar ffyrlo, a hynny ar eu cyfradd ffyrlo.
Os bydd cyflogai ar ffyrlo sy’n cael ei daro’n sâl yn cael ei symud i’r Tâl Salwch Statudol, ni fydd y cyflogwr yn gallu hawlio’r cyflog ffyrlo mwyach. Mae disgwyl i gyflogwyr eu hunain dalu Tâl Salwch Statudol, ond mae’n bosibl y byddant yn gymwys ar gyfer ad-daliad am hyd at bythefnos o Dâl Salwch Statudol os yw’r salwch yn ymwneud â choronafeirws.
Os bydd cyflogwyr yn cadw’r cyflogai sydd ar ffyrlo ac sydd wedi cael ei daro’n sâl ar y gyfradd ffyrlo am y cyfnod y mae’n sâl, maent yn gymwys o hyd i hawlio’r costau hyn drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws.
Os yw’ch cyflogai ar absenoldeb neu wedi dychwelyd o absenoldeb yn ddiweddar
Os yw’ch cyflogai ar absenoldeb statudol i rieni neu wedi dychwelyd ohono yn ddiweddar
Mae’r rheolau arferol ar gyfer absenoldeb a thâl mamolaeth, absenoldeb a thâl ar y cyd i rieni, absenoldeb â thal mabwysiadu, absenoldeb a thâl tadolaeth neu absenoldeb a thâl rhieni mewn profedigaeth yn berthnasol.
Os cafodd eich cyflogai ei roi ar ffyrlo ac yna dechreuodd hawlio tâl statudol i rieni ar neu ar ôl 25 Ebrill 2020, efallai y bydd angen i chi gyfrifo enillion wythnosol cyfartalog eich cyflogai mewn ffordd arall ar gyfer:
Gallwch hawlio drwy’r cynllun am dâl contractiol uwch (ar sail enillion) ar gyfer cyflogeion sy’n gymwys ar gyfer un o’r canlynol:
- tâl mamolaeth
- tâl mabwysiadu
- tâl tadolaeth
- tâl ar y cyd i rieni
- tâl rhieni mewn profedigaeth
Mae gwybodaeth hefyd ar gael am yr hyn y gallwch ei hawlio os yw’ch cyflogai yn dal i fod ar absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu, absenoldeb tadolaeth, absenoldeb ar y cyd i rieni neu absenoldeb rhieni mewn profedigaeth.
Gorffen absenoldeb mamolaeth yn gynnar er mwyn mynd ar ffyrlo
Os yw’ch cyflogai’n penderfynu gorffen ei habsenoldeb mamolaeth yn gynnar er mwyn iddi allu mynd ar ffyrlo (gyda’ch cytundeb), bydd angen iddi roi o leiaf 8 wythnos o rybudd ei bod yn dychwelyd i’r gwaith, ond gallwch gytuno i rybudd byrrach dan rai amgylchiadau. Ni fyddwch yn gallu ei rhoi ar ffyrlo tan ddiwedd yr 8 wythnos, neu’r dyddiad rydych wedi cytuno y gall ddychwelyd i’r gwaith.
Os yw’ch cyflogai yn cael Lwfans Mamolaeth
Os yw’ch cyflogai yn cael Lwfans Mamolaeth yn ystod ei habsenoldeb mamolaeth, ni ddylai gael cyflog ffyrlo ar yr un pryd.
Os yw’ch cyflogai wedi cytuno i gael ei rhoi ar ffyrlo, rhowch wybod iddi am gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith er mwyn atal ei thaliadau Lwfans Mamolaeth.
Ar ôl i chi wirio ar gyfer pa gyflogeion y gallwch hawlio ar eu cyfer
Unwaith y byddwch yn gwybod p’un a allwch roi’ch cyflogeion ar ffyrlo a hawlio drwy’r cynllun, dylech ddod i gytundeb gyda nhw ynglŷn â hyn cyn i chi ddechrau’ch hawliad.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 May 2021 + show all updates
-
Claims for furlough days in May 2021 must be made by 14 June 2021.
-
Claims for furlough days in April 2021 must be made by 14 May 2021.
-
Updated guidance for other types of employees you can claim for and if your employee is clinically vulnerable.
-
Section on employee transfers under TUPE and on a change in ownership has been updated.
-
Claims for furlough days in March 2021 must be made by 14 April 2021.
-
Dates for when employers can make a claim and information about if an employee does training have been updated. A new section for an employee who has caring responsibilities has also been added.
-
The scheme has been extended until 30 September 2021. From 1 July 2021, the level of grant will be reduced each month and employers will be asked to contribute towards the cost of furloughed employees’ wages. New information on claim periods from May 2021 added to 'If your employee is on a fixed term contract' and 'Employee transfers under TUPE'.
-
Claims for furlough days in February 2021 must be made by 15 March 2021.
-
Added translation
-
Information about if your employee is unable to work because they have caring responsibilities resulting from coronavirus (COVID-19) has been updated.
-
Added Welsh translation.
-
Updated to remove reference to January review and reflect that the Coronavirus Job Retention Scheme has been extended to 30 April 2021.
-
Information has been updated that employers do not need to be facing a wider reduction in demand or be closed to be eligible to claim for employees who are clinically extremely vulnerable or at the highest risk of severe illness from coronavirus.
-
Guidance has been updated because the 30 November claim deadline has now passed.
-
Information about if your employee becomes sick while furloughed has been amended to remove outdated information.
-
Changed language to make it clear that for claim periods starting on or after 1 December 2020 you cannot claim for any days on or after 1 December 2020 during which the furloughed employee was serving a contractual or statutory notice period. Also, minor corrections to section on maternity allowance have been made.
-
Eligibility criteria has been made clearer for employees who are made redundant on or after 23 September 2020 and you have re-employed and employees that have a fixed term contract that expired after 23 September. The dates relating to TUPE eligibility have also been corrected.
-
The scheme has been extended. This guidance has been updated with details of how to claim for periods after 1 November 2020. 30 November 2020 is the last day employers can submit or change claims for periods ending on or before 31 October 2020.
-
Added translation.
-
Information call out updated to state that the scheme is being extended until 31 March 2021.
-
Information call out has been updated to confirm that the guidance on this page reflects the rules for the period until 31 October 2020. This page will be updated to include the rules relating to the scheme extension shortly.
-
Added translation.
-
The Coronavirus Job Retention Scheme is being extended until December 2020.
-
Information call out has been updated - the scheme is now closed. 30 November 2020 is the last date you can submit claims.
-
The information call out at the top of the page has been updated with the changes to the scheme. 30 November 2020 is the last day employers can submit or change claims for periods ending on or before 30 October 2020.
-
The information call out at the top of the page has been updated with the changes to the scheme from 1 September.
-
A Welsh translation has been added.
-
A link to a previous version of this guide has been added to the information box at the top of the page.
-
Page updated to say that supply teachers are eligible for the scheme in the same way as other employees and can continue to be claimed for during school holiday periods. Page updated to say that if a furloughed employee is made redundant they're entitled to receive redundancy pay based on their normal wage and not on the reduced furlough rate.
-
The information call out has been updated to tell employers about changes to the scheme from 1 August 2020. Out of date eligibility criteria removed about RTI submissions before 19 March, contracts expiring before 19 March 2020, consolidating PAYE schemes after 28 Feb, TUPE transfers after 28 Feb. Sections ‘If your employee is working reduced hours’, ‘If you made employees redundant or they stopped working for you on or after 28 Feb 2020’, ‘If you made employees redundant or they stopped working for you on or after 19 March 2020’ removed. Section ‘If your employee is shielding’ and ‘If your employee has caring responsibilities’.
-
Page updated to clarify that notice periods being served by furloughed employees include contractual notice periods.
-
Adjusted text to add clarity to 'Paying employee taxes and pension contributions' section and added wording to section on employee rights to make it clear that you can continue to claim for a furloughed employee who is serving a statutory notice period.
-
Page updated with eligibility information for claims before 1 July.
-
Added information about exceptions for military reservists.
-
Added Welsh translation.
-
Page updated with information about how the Coronavirus Job Retention Scheme is changing.
-
Information in box at the top of the page updated with how the scheme is changing.
-
Page updated with information about how the Coronavirus Job Retention Scheme is changing, what pension trustees may do whilst on furlough and the eligibility of TUPE.
-
Added Welsh translation.
-
Page updated with information that clarifies that eligibility depends on employment on or after certain dates.
-
First published.