Dewiswch asiantau ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Sut y gall prif asiantau ac asiantau ategol helpu unig fasnachwyr a landlordiaid i reoli Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Os ydych yn unig fasnachwr neu’n landlord eiddo, gallwch ddewis cael un neu fwy o asiantau treth i’ch helpu i reoli Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Os ydych yn asiant, gallwch ofyn am fod naill ai’n brif asiant neu’n asiant ategol ar gyfer eich cleientiaid. Gall pob math o asiant bwrw golwg dros wahanol rannau o gofnodion cleient a gwneud tasgau gwahanol.
Er enghraifft, gallai llyfrifwr gwblhau diweddariadau chwarterol. Yn y senario hwn, maen nhw’n asiant ategol. Gallai cyfrifydd gwblhau sefyllfa dreth gyffredinol y cleient a chyflwyno ei Ffurflen Dreth derfynol. Yn y senario hwn, maent yn brif asiant.
Unig fasnachwyr a landlordiaid eiddo
Fel cleientiaid, gall unig fasnachwyr a landlordiaid eiddo:
- ond cael un prif asiant ar y tro, ond unrhyw nifer o asiantau ategol
- cael prif asiant heb unrhyw asiantau ategol
- cael asiantau ategol heb gael prif asiant
- defnyddio mwy nag un asiant ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn unig — ar gyfer gwasanaethau treth eraill, fel Hunanasesiad, dim ond un asiant y gallwch ei ddefnyddio
Gellir penodi gwahanol asiantau ar gyfer trethi gwahanol.
Prif asiantau ac asiantau ategol
Gall Asiantau ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm fod yn brif asiant i rai cleientiaid ac yn asiant ategol i eraill.
Os yw sawl asiant yn ymwneud ag un busnes, er enghraifft, eiddo o’r DU neu dramor, mae’n rhaid cynhyrchu un set sengl o gyfrifon busnes. Mae hyn yn berthnasol i ddiweddariadau chwarterol i CThEF a Ffurflenni Treth terfynol, unwaith y bydd addasiadau wedi’u gwneud.
Gallai enghraifft o un busnes fod holl incwm cyfunol cleient o eiddo y DU. Ni fyddai cleient sy’n ennill incwm fel unig fasnachwr o sawl lle gwahanol yn cael ei ddosbarthu fel un busnes — byddai angen i chi drin pob ffynhonnell fel busnes ar wahân.
Prif asiantau
Gall prif asiantau reoli Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm cleient yn llawn. Gallant wneud popeth y gall asiant ategol a bron popeth y gall eu cleient. Yr unig bethau na all prif asiant ei wneud yw:
- sefydlu Debyd Uniongyrchol ar gyfer y cleient
- newid sut mae cleient am i CThEF cysylltu â nhw
Asiantau ategol
Mae gan asiantau ategol fynediad cyfyngedig i wasanaethau Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Dim ond manylion busnes ac incwm eiddo cleient y gallant weld. Gallant wneud llai o dasgau na phrif asiantau.
Er enghraifft, ni all asiantau ategol:
- sefydlu Debyd Uniongyrchol ar gyfer y cleient
- newid sut mae cleient am i CThEF cysylltu â nhw
- bwrw golwg dros holl ffynonellau incwm ar gyfer Hunanasesiad cleient
- cwblhau sefyllfa dreth gyffredinol cleient
- cyflwyno Ffurflen Dreth cleient
- bwrw golwg dros gyfrifiad treth cleient
Os yw cleient yn awdurdodi sawl asiant ategol i weithredu ar eu rhan, ni allwn gyfyngu eu mynediad a’u caniatâd i un busnes sengl.
Gwiriwch y tabl yn yr adran ’Cymharu sut y gall prif asiantau ac asiantau ategol helpu’ i ddarganfod beth all asiantau ategol ei wneud ac na all asiantau ategol ei wneud.
Sut i gael eich awdurdodi fel asiant
-
Creu cyfrif gwasanaethau asiantau, os nad oes gennych un eisoes.
-
Defnyddiwch eich cyfrif gwasanaethau asiant i ofyn i gleient eich awdurdodi.
Bydd y cleient yn cael datganiadau o gydsyniad gwahanol, yn dibynnu ar a ydych yn gwneud cais i fod yn brif asiant neu asiant ategol. Mae hyn yn golygu y bydd y cleient yn gwybod pa fanylion y gallwch eu gweld a pha dasgau y gallwch eu gwneud iddo.
Os mai chi yw’r prif asiant ar gyfer eich cleient ar hyn o bryd, cyfrifoldeb eich cleient yw rhoi gwybod i chi a yw’n dewis prif asiant gwahanol i weithredu ar eu rhan. Os yw’n dewis prif asiant gwahanol, byddwch yn colli mynediad i gyfrif eich cleient.
Byddwch yn parhau i fod wedi’i awdurdodi fel prif asiant os bydd eich cleient yn dewis penodi asiantau ategol eraill i weithredu ar ei ran. Bydd asiantau ategol hefyd yn parhau i fod wedi’u hawdurdodi os oes angen asiantau ategol ychwanegol.
Os nad yw’r cleient yn cytuno i’ch awdurdodi, byddwn yn parhau i ddelio ag unrhyw asiant y maent eisoes wedi’i awdurdodi.
Pan allwn awdurdodi asiant yn awtomatig
Os oes gennych gyfrif gwasanaethau asiant, ac mae’r canlynol yn wir:
- rydych eisoes wedi cofrestru cleient ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, byddwn yn eich trin fel ei brif asiant
- nad ydych wedi cofrestru eto ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, byddwch yn gallu ychwanegu awdurdodiadau presennol ar gyfer eich cleientiaid Hunanasesiad — byddwn yn eich awdurdodi fel prif asiant ar gyfer y cleientiaid hyn
Os ydych yn ychwanegu awdurdodiadau cleientiaid presennol, bydd angen i chi wneud yn siŵr bod pob cleient wedi’i gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Gall eich cleient cofrestru ei hunain, neu gallwch ei wneud ar ei ran.
Darllenwch am sut i ychwanegu awdurdodiadau a gwirio bod yr awdurdodiadau cywir ar waith.
Unwaith y byddwch wedi’ch awdurdodi
Darllenwch Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm fel asiant: cam wrth gam i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn i’w wneud nesaf.
Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i feddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Gwiriwch eich bod wedi eich cymeradwyo gan eich cleient i awdurdodi’r feddalwedd a ddewiswyd cyn cofrestru.
Sut i dynnu’r awdurdod oddi wrth asiant
Gall asiantau wneud hyn yn eu cyfrif gwasanaethau asiant trwy ddewis ‘Canslo awdurdodiad cleient’ a dilyn y cyfarwyddiadau a ddarperir.
Gall unig fasnachwyr a landlordiaid eiddo wneud hyn drwy’r opsiwn ‘Rheoli’ch Asiant Treth’ neu ‘Rheoli pwy sy’n gallu delio â CThEF’ yn eu cyfrif treth.
Darllenwch sut i newid neu ddileu awdurdodiadau asiant (yn agor tudalen Saesneg).
Cymharu sut y gall prif asiantau ac asiantau ategol helpu
Tasg | Prif asiant | Asiant ategol |
---|---|---|
Cofrestru cleient ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, neu optio allan | Iawn | Iawn |
Cysylltu â CThEF ynglŷn â Ffurflenni Treth cyfredol a blaenorol cleient | Iawn | Na |
Cysylltu â CThEF ynglŷn ag unig fasnachwr a busnesau eiddo cleient (eiddo yn y DU neu dramor) | Iawn | Iawn |
Bwrw golwg dros yr holl ffynonellau incwm ar gyfer Hunanasesiad | Iawn | Na |
Ychwanegu neu roi’r gorau i unig fasnachwr ac incwm busnes eiddo cleient (eiddo yn y DU ac eiddo tramor) | Iawn | Iawn |
Bwrw golwg dros a diwygio incwm nad yw’n ymwneud â busnes cleient | Iawn | Na |
Gwneud cais am ad-daliad ar ran cleient | Iawn | Na |
Addasu taliadau ar gyfrif eich cleient | Iawn | Na |
Sefydlu Debyd Uniongyrchol cleient ar gyfer trefniadau talu | Na | Na |
Bwrw golwg dros ddyddiadau dyledus cleient ar gyfer taliadau, diweddariadau chwarterol a Ffurflen Dreth | Iawn | Iawn |
Dod o hyd a dewis meddalwedd sy’n cydweddu a’i ddefnyddio i reoli Ffurflen Dreth cleient | Iawn | Na |
Dod o hyd a dewis meddalwedd sy’n cydweddu a’i ddefnyddio i reoli unig fasnachwr a chofnodion busnes eiddo cleient | Iawn | Iawn |
Newid cyfnodau diweddariadau chwarterol cleient i gyfnodau diweddaru calendr (os yw’n berthnasol) gan ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu | Iawn | Iawn |
Cwblhau a chyflwyno diweddariad incwm a threuliau unig fasnachwr ac eiddo chwarterol cleient | Iawn | Iawn |
Defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu i naill ai gyflwyno diweddariadau chwarterol o incwm a threuliau unig fasnachwr ac eiddo busnes, neu anfon hyn yn flynyddol a gwneud addasiadau cyfrifyddu | Iawn | Iawn |
Cwblhau sefyllfa dreth gyffredinol cleient, cyflwyno ei Ffurflen Dreth (gan gynnwys uwchlwytho unrhyw ddogfennau ategol) a chyflwyno diwygiadau Ffurflen Dreth | Iawn | Na |
Hawlio colledion a rhyddhadau, megis lwfansau cyfalaf | Iawn | Iawn — os yw’r asiant wedi cyflwyno’r Ffurflen Dreth |
Rhoi gwybod i CThEF nad oes angen i gleient cyflwyno Ffurflen Dreth mwyach | Iawn | Na |
Bwrw golwg dros gyfrifiadau treth cleient a’r symiau dyledus a’r symiau sydd wedi’u talu | Iawn | Na |
Bwrw golwg dros fanylion personol cleient, gan gynnwys ei enw a’i gyfeiriad | Iawn | Iawn — os yw’r cleient yn defnyddio ei enw neu gyfeiriad preifat eu hunain ar gyfer ei enw busnes neu gyfeiriad |
Gosod neu newid dewis cyswllt cleient gyda CThEF | Na | Na |
Bwrw golwg dros rif Yswiriant Gwladol a Chyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) cleient | Iawn | Iawn |
Cael copïau o’r holl gyfathrebiadau statudol a anfonir at gleient | Iawn | Na |
Cael copïau o hysbysiadau cosb cleient am gyflwyno diweddariadau chwarterol neu Ffurflenni Treth yn hwyr, neu dalu Treth Incwm yn hwyr (waeth pwy a gyflwynodd nhw) | Iawn | Na |
Bwrw golwg dros ac apelio yn erbyn cosbau cleientiaid a gyhoeddwyd am gyflwyno diweddariadau chwarterol neu Ffurflenni Treth yn hwyr, neu dalu Treth Incwm yn hwyr (waeth pwy a gyflwynodd nhw) | Iawn | Na |
Bwrw golwg dros yr holl gyfansymiau diweddariad chwarterol ar gyfer cleientiaid, gan ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu | Iawn | Iawn |
Bwrw golwg dros fanylion penodedig unrhyw asiantau eraill sydd wedi’u neilltuo i gofnod cleient | Na | Na |