Gwirio a allwch hawlio grant drwy’r Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth
Os ydych yn hunangyflogedig neu’n aelod o bartneriaeth a bod coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio arnoch, gallwch wirio a allwch ddefnyddio’r cynllun hwn i hawlio grant.
Hawliwch y pumed grant os ydych yn credu y bydd coronafeirws (COVID-19) yn effeithio ar elw eich busnes rhwng 1 Mai 2021 a 30 Medi 2021.
Bydd angen i chi gadarnhau eich bod yn bodloni meini prawf cymhwystra eraill wrth gyflwyno’ch hawliad.
Dylech gyflwyno’ch hawliad ar neu ar ôl y dyddiad hawlio personol y mae CThEM wedi’i roi i chi.
Pwy all hawlio
Ewch ati i gael gwybod a allwch hawlio y grant Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth (SEISS) drwy wirio eich bod yn bodloni’r holl feini prawf yng nghamau 1, 2 a 3.
Cam 1: Eich statws masnachu a phryd y mae’n rhaid i chi fod wedi masnachu
Mae’n rhaid i chi fod yn unigolyn hunangyflogedig neu’n aelod o bartneriaeth.
Mae’n rhaid i chi fod wedi masnachu hefyd yn ystod y ddwy flynedd dreth a ganlyn:
- 2019 i 2020
- 2020 i 2021
Ni allwch hawlio’r grant os ydych yn masnachu drwy gwmni cyfyngedig neu ymddiriedolaeth.
Cam 2: Ffurflenni Treth ac elw masnachu
Mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir:
-
gwnaethoch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar gyfer 2019 i 2020 ar neu cyn 2 Mawrth 2021
-
mae gennych elw masnachu nad yw’n fwy na £50,000
-
mae gennych elw masnachu sydd o leiaf yn gyfartal â’ch incwm anfasnachol
Ystyr incwm anfasnachol yw unrhyw arian yr ydych yn ei ennill y tu hwnt i’ch busnes. Er enghraifft, os oes gennych swydd ran-amser neu bensiwn hefyd.
Os nad ydych yn gymwys yn seiliedig ar yr elw masnachu yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2019 i 2020, byddwn yn edrych yn ôl ar flynyddoedd blaenorol.
Bydd CThEM eisoes wedi cysylltu â chi os ydych yn gymwys i gael y grant yn seiliedig ar eich Ffurflenni Treth.
Dysgwch ragor am sut mae CThEM yn cyfrifo elw masnachu ac incwm anfasnachol.
Cam 3: Penderfynu a allwch hawlio
Pan fyddwch yn cyflwyno’ch hawliad, bydd yn rhaid i chi ddweud wrthym eich bod yn:
-
bwriadu parhau i fasnachu yn 2021 i 2022
-
credu’n rhesymol y bydd gostyngiad sylweddol yn eich elw masnachu oherwydd effaith COVID-19 rhwng 1 Mai 2021 a 30 Medi 2021
Os ydych yn credu bod COVID-19 wedi effeithio ar eich busnes, dysgwch sut i benderfynu a allwch gyflwyno hawliad.
Sut mae gwahanol amgylchiadau yn effeithio ar y cynllun
Mae rhai amgylchiadau y dylech eu hystyried, megis:
- os yw’ch Ffurflen Dreth yn hwyr, wedi’i diwygio neu’n destun ymchwiliad
- os ydych yn aelod o bartneriaeth
- os cawsoch blentyn newydd
- os oes gennych fenthyciadau sy’n dod o dan y darpariaethau tâl ar fenthyciad
- os ydych yn hawlio rhyddhad cyfartalu
- os ydych yn filwr wrth gefn
- os ydych yn ddibreswyl neu wedi dewis y sail trosglwyddo
Os ydych yn hawlio Lwfans Mamolaeth, ni fydd hyn yn effeithio ar eich cymhwystra i gael y grant.
Dysgwch ragor am sut mae’ch amgylchiadau yn effeithio ar eich cymhwystra.
Paratoi i hawlio
Mae’r pumed grant yn wahanol i’r grantiau blaenorol. Yn y rhan fwyaf o’r achosion, wrth gyflwyno’ch hawliad bydd angen i chi roi gwybod i ni am drosiant eich busnes er mwyn i ni allu cyfrifo swm eich grant.
Mae trosiant yn cynnwys y derbyniadau, y ffioedd, y gwerthiannau neu’r arian a enillwyd neu a gafwyd gan eich busnes.
Er mwyn cyflwyno’ch hawliad, bydd angen dau ffigur trosiant gwahanol arnoch. Bydd angen i chi gyfrifo’ch trosiant ar gyfer:
-
Ebrill 2020 i Ebrill 2021
-
naill ai 2019 i 2020, neu 2018 i 2019
Byddwn yn cymharu’r ffigurau hyn i gyfrifo faint y byddwch yn ei gael.
Yr achosion pan na fydd angen ffigurau trosiant arnoch i hawlio
Ni fyddwn yn gofyn am unrhyw ffigurau trosiant gennych os gwnaethoch ddechrau masnachu yn 2019 i 2020 ac na wnaethoch fasnachu yn ystod yr holl flynyddoedd treth canlynol:
-
2018 i 2019
-
2017 i 2018
-
2016 i 2017
Faint y byddwch yn ei gael
Os oes angen i chi roi gwybod i ni am eich trosiant
Mae’r grant ar gael ar ddwy lefel. Bydd CThEM yn cyfrifo swm eich grant gan ystyried faint y mae’ch trosiant wedi gostwng ar ôl i ni gymharu’ch dau ffigur trosiant.
Os yw’ch trosiant wedi gostwng | Byddwch yn cael | Uchafswm y grant |
---|---|---|
30% neu fwy | 80% o elw masnachu cyfartalog 3 mis | £7,500 |
llai na 30% | 30% o elw masnachu cyfartalog 3 mis | £2,850 |
Enghraifft
Dyma enghraifft o sut y byddwn yn cyfrifo’ch grant os oedd eich elw masnachu cyfartalog yn £42,000 dros y 4 blynedd dreth ddiwethaf.
- Dechreuwch gyda’ch elw masnachu cyfartalog (£42,000).
- Rhannwch â 12 = £3,500.
- Lluoswch â 3 = £10,500.
Os ydych yn gymwys ar gyfer y grant uwch:
- Cyfrifwch 80% o £10,500 = £8,400.
- Byddwch yn cael yr uchafswm grant, sef £7,500.
Os ydych yn gymwys ar gyfer y grant is:
- Cyfrifwch 30% o £10,500 = £3,150.
- Byddwch yn cael yr uchafswm grant, sef £2,850.
Os nad oes angen ffigurau trosiant arnoch i hawlio
Byddwch yn cael 80% o elw masnachu cyfartalog 3 mis. Uchafswm y grant yw £7,500.
Dysgwch ragor am sut mae CThEM yn cyfrifo’ch elw masnachu.
Sut i wneud hawliad
Mae hawliadau ar gyfer y pumed grant bellach wedi cau. Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno hawliad oedd 30 Medi 2021.
Gallwch wirio rhestr o gysylltiadau dilys CThEM os cewch unrhyw negeseuon testun, galwadau ffôn neu e-byst amheus sy’n honni eu bod oddi wrth CThEM oherwydd gallent fod yn sgam.
Sut mae’r grant yn cael ei drin
Mae’r grant yn agored i Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer yr hunangyflogedig. Mae’n rhaid rhoi gwybod amdano ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2021 i 2022.
Mae’r grant hefyd yn cyfrif tuag at eich lwfans blynyddol ar gyfer cyfraniadau pensiwn. Nid yw grantiau a geir drwy’r Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth yn cyfrif fel ‘mynediad at gyllid cyhoeddus’, a gallwch hawlio’r grant ar bob categori o fisa gwaith.
Help arall y gallwch ei gael
Cael cymorth ariannol arall
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio Credyd Cynhwysol ond, hyd yn oed os na chaiff yr hawliad ei gymeradwyo, bydd yn effeithio ar unrhyw gredydau treth rydych yn eu hawlio, a gallai effeithio ar fudd-daliadau eraill. Felly, dylech wneud y canlynol:
-
gwirio sut mae credydau treth a budd-daliadau eraill yn effeithio ar ei gilydd
-
mynd ati i gael gwybod beth i’w wneud os ydych eisoes yn cael budd-daliadau
Os byddwch yn hawlio Credyd Cynhwysol, gall y grant effeithio ar y swm a gewch, ond ni fydd yn effeithio ar hawliadau am Gredyd Cynhwysol ar gyfer cyfnodau cynharach.
Gallwch wylio fideos a chofrestru ar gyfer gweminarau rhad ac am ddim er mwyn dysgu rhagor am y cymorth sydd ar gael i’ch helpu i fynd i’r afael ag effeithiau economaidd COVID-19.
Defnyddiwch gynorthwyydd digidol CThEM i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynlluniau cymorth yn sgil COVID-19.
Dewch o hyd i gymorth ariannol ar gyfer eich busnes yn sgil COVID-19.
Arweiniad ar gyfer grantiau blaenorol
Gallwch ddarllen arweiniad ar gyfer grantiau SEISS blaenorol yn yr Archifau Gwladol.
Cysylltu â CThEM
Rydym yn derbyn nifer fawr iawn o alwadau ar hyn o bryd. Mae cysylltu â CThEM yn ddiangen yn peryglu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Fodd bynnag, gallwch gysylltu â CThEM os nad oes modd i chi gael yr help sydd ei angen arnoch ar-lein.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 October 2021 + show all updates
-
Claims for the fifth grant have now closed. The last date for making a claim was 30 September 2021.
-
The online service for the fifth grant is now available.
-
This guidance has been updated with information about the fifth SEISS grant.
-
Claims for the fourth grant have now closed. The last date for making a claim was 1 June 2021.
-
The online service for the fourth grant is now available.
-
This guidance has been updated with information about the fourth SEISS grant.
-
Added translation
-
Claims for the third grant have now closed. The last date for making a claim for the third grant was 29 January 2021. Details about the fourth grant will be announced on 3 March 2021.
-
The online service for the third grant is now available.
-
This page has been updated with the information for the third grant of the Self Employed Income Support Scheme.
-
The service is now closed for the Self-Employment Income Support Scheme. You can no longer make a claim for the second grant.
-
Added translation
-
Added translation
-
This scheme is being extended. Guidance will be updated as soon as possible.
-
The Self-Employment Income Support Scheme claim service is now open.
-
Added translation
-
Updated to confirm that the online service for the first grant is closed. Included further information about the second and final grant.
-
New examples for how a business could be adversely affected by coronavirus have been added.
-
Further information about the extension to the scheme has been added.
-
The scheme has now been extended. A second and final grant will be available when the scheme opens again in August 2020. If you’re eligible and want to claim the first grant you must make your claim on or before 13 July 2020.
-
The online service is now available. Make your claim from the date we gave you when you checked your eligibility.
-
Added translation
-
The 'How to claim' section updated with the date the online service will be available, if you’re eligible, we will tell you the date you can make your claim from and that if your claim is approved you’ll receive your payment within 6 working days.
-
You can use our new online tool to find out if you’re eligible to make a claim.
-
More information has been added about who can claim the grant and how different circumstances can affect the scheme. Information on how state aid could affect your claim has been added and we’ve included information about the impact of claiming the grant on all work visas.
-
Updated as previous version published in error.
-
This guidance has been updated with more information about the coronavirus (COVID-19) Self-employment Income Support Scheme.
-
First published.