Canllawiau

Hawlio ad-daliad o Dreth Incwm a ddidynnwyd o gynilion a buddsoddiadau (R40)

Gwnewch gais am ad-daliad o dreth ar log eich cynilion gan ddefnyddio ffurflen R40 os nad ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad, gwnewch gais am ad-daliad ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Os ydych yn bodloni unrhyw un o feini prawf Hunanasesiad, mae’n rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth. Peidiwch â chyflwyno ffurflen R40 am ad-daliad.

Os ydych chi (neu’r person rydych chi’n hawlio amdano) yn byw y tu allan i’r DU, gallwch hawlio lwfansau personol ac ad-daliadau treth os ydych chi’n byw dramor (yn agor tudalen Saesneg).

Hawliadau Yswiriant Diogelu Taliadau (PPI)

Os ydych am hawlio treth yn ôl ar log a dalwyd ar hawliad PPI, mae angen i chi anfon dogfen atom sy’n dangos manylion eich hawliad PPI, gan gynnwys:

  • llog gros
  • treth a ddidynnwyd o’r llog
  • llog net

Gall y ddogfen hon fod naill ai ar ffurf:

  • y llythyr ymateb terfynol gan y cwmni a wnaeth eich talu
  • tystysgrif gan y cwmni a wnaeth eich ad-dalu i gadarnhau faint o dreth a ddidynnwyd o’r ad-daliad

Os nad oes gennych unrhyw un o’r rhain, gallwch ofyn amdanynt gan y cwmni a wnaeth eich ad-dalu.

Os yw’ch hawliad ar gyfer unrhyw fath arall o ad-daliad, peidiwch ag anfon atom unrhyw gofnodion personol, neu dystysgrifau treth neu dalebau gyda’ch ffurflen. Byddwn yn cysylltu â chi os oes angen y rhain arnom.

Cyn i chi ddechrau

Gallwch hawlio ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol a’r 4 blynedd flaenorol. Mae angen i chi gyflwyno cais ar wahân ar gyfer pob blwyddyn dreth.

I gyflwyno cais ar ran rhywun arall, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen bost. Os ydych yn gwneud cais ar ran plentyn, mae angen i chi gynnwys ei gyfeiriad preswyl ar y ffurflen.

Darllenwch R40 Notes (ODT, 51.5 KB) i’ch helpu i lenwi’r ffurflen.

Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrîn) ac angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, anfonwch e-bost i gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio.

Gwneud gais am ad-daliad ar-lein

Bydd angen i chi wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • mewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf)
  • defnyddio’ch cyfeiriad e-bost i gael cod cadarnhau y gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi

Byddwch yn cael cyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i ddilyn hynt eich hawliad.

Gwneud cais nawr

Gwneud cais am ad-daliad drwy’r post


Ffurflen printio a phostio R40

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email different.format@hmrc.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Bydd CThEF yn derbyn llofnod digidol ar y ffurflen argraffu ac anfon R40. Gallai hwn gael ei lofnodi ar sgrin dyfais ddigidol, neu ei ddangos mewn ffont wedi’i deipio â bysellfwrdd.

  1. Argraffwch y ffurflen.

  2. Llenwch y ffurflen â llaw.

  3. Anfonwch y ffurflen i CThEF.


Os ydych yn hawlio ar ran rhywun arall

Os ydych yn hawlio ar ran rhywun arall ac eisiau i’r ad-daliad gael ei dalu i chi, dysgwch sut i gael ad-daliadau Treth Incwm neu ad-daliadau Talu Wrth Ennill (TWE) ar ran eraill (yn agor tudalen Saesneg).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 May 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 May 2024 + show all updates
  1. The R40 notes have been updated.

  2. Information has been added to confirm the details that must be provided to claim tax back on interest paid on a Payment Protection Insurance (PPI) claim. An updated R40 form, and information on what to do when claiming on behalf of someone else from 30 April 2024 has been added.

  3. Added Welsh translation.

  4. Information about Payment Protection Insurance (PPI) claims has been added. HMRC will accept digital signatures on the R40 print and post form.

  5. We have updated the link to form R43.

  6. Added translation

  7. First published.

Sign up for emails or print this page