Hawlio ad-daliad treth pan eich bod wedi cyrchu’ch holl bensiwn yn hyblyg (P53Z)
Os ydych wedi cael cyfandaliad pensiwn salwch difrifol neu wedi cyrchu’ch holl bensiwn yn hyblyg, hawliwch ad-daliad treth gan ddefnyddio ffurflen P53Z.
Gallwch hawlio yn ôl unrhyw dreth sydd arnom i chi ar gyfandaliad pensiwn gan ddefnyddio ffurflen P53Z os ydych:
-
yn hawlio treth yn ôl oherwydd eich bod wedi cyrchu’ch holl bensiwn yn hyblyg (yn agor tudalen Saesneg)
-
wedi cael cyfandaliadau salwch difrifol — i hawlio yn ôl, yn ystod y flwyddyn, unrhyw dreth a ordalwyd ar y cyfandaliadau hyn
Bydd angen i chi ddefnyddio ffurflen P53 yn lle hynny os ydych wedi cymryd:
- eich holl bensiwn fel arian parod — cymudiad pitw o gronfa bensiwn
- pensiwn bach fel cyfandaliad
Cyn i chi ddechrau
Bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:
-
Rhoi gwybod i ni am unrhyw incwm arall yr ydych yn disgwyl ei gael yn ystod y flwyddyn dreth.
-
Gwirio bod gennych ran 2 a rhan 3 o bob ffurflen P45 sy’n ymwneud â’ch taliadau pensiwn — ni fyddwn yn gallu delio â’r hawliad heb y P45.
Gallwch roi ffigurau wedi’u hamcangyfrif i ni os nad oes gennych y ffigurau terfynol. Bydd yn rhaid i chi ddefnyddio rhifau cyfan, wedi’u talgrynnu i lawr i’r bunt agosaf. Byddwn yn cynnal gwiriadau ar ddiwedd y flwyddyn dreth, ac yn cysylltu â chi os yw’r swm yn wahanol.
Dylech gadw’r gwaith papur hwn tan fod y gwiriadau hyn wedi dod i ben.
Hawlio ar-lein
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, gallwch eu creu.
Llenwch y ffurflen hon ar-lein os na allwch fewngofnodi
Gallwch ddefnyddio ein harweiniad rhyngweithiol. Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
-
Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.
-
Argraffu’r ffurflen.
-
Llofnodwch y datganiad.
-
Anfon y ffurflen at CThEF.
Talu Wrth Ennill
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Os nad ydych am ddechrau eich hawliad ar-lein
-
Argraffu’r ffurflen.
-
Llenwch y ffurflen â llaw.
-
Anfonwch y ffurflen at CThEF (mae’r cyfeiriad ar ddiwedd y ffurflen).
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Byddwn yn cyfrifo unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus i chi, ac yn anfon archeb talu atoch. Gallwn anfon hon yn uniongyrchol atoch chi yn eich cyfeiriad cartref, neu i gyfeiriad eich enwebai. Dim ond i gyfrif sydd yn eich enw chi neu yn enw’ch enwebai y gall yr archeb talu gael ei thalu.
Ni ellir gwneud ad-daliadau drwy gyfrwng Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr).
Cael gwybod pryd i ddisgwyl ymateb gan CThEF ynghylch ymholiad neu gais rydych wedi’i wneud.
Yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn hawlio
Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- eich cyfeirnod TWE y Cyflogwr — os yw hwnnw gennych
- rhan 2 a rhan 3 o’ch P45 — os nad ydynt gennych, bydd yn rhaid i chi esbonio pam. Er enghraifft, efallai eich bod wedi ymddeol neu’n un o weision y Goron yn y DU a gyflogir dramor
- elw a wnaed o’ch hunangyflogaeth yn ystod y flwyddyn dreth hon — os oes elw o gwbl
Mae’ch P45 yn dangos faint o dreth rydych wedi’i thalu ar eich cyflog hyd yma yn ystod y flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill).
Bydd yn rhaid i chi hefyd gadarnhau a ydych wedi cael unrhyw un o’r canlynol:
- pensiynau gan gyflogwr blaenorol
- pensiynau gwasanaethau cyhoeddus
- pensiynau y lluoedd arfog
- blwydd-dal pensiwn personol
- pensiynau bach a delir fel cyfandaliadau (cymudiad pitw)
- Pensiwn y Wladwriaeth
- budd-daliadau trethadwy ers 6 Ebrill o’r flwyddyn dreth bresennol
Dylech hefyd wirio a ydych wedi cael unrhyw incwm o’r canlynol:
- eiddo
- ymddiriedolaethau
- comisiynau
- cildyrnau
- incwm tramor
- elw a delir ar bolisïau yswiriant bywyd y DU
- unrhyw ffynhonnell arall nad ydych wedi’i nodi ar y ffurflen
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 August 2024 + show all updates
-
Clarified that you cannot save your progress when completing the online form.
-
A Welsh version of the form P53Z has been added to cover tax year 2024 to 2025.
-
The form P53Z has been replaced with a version to cover tax year 2024 to 2025.
-
The planned downtime for our interactive guidance that started at 2pm on Friday 6 October 2023 will now end at 3pm on Friday 13 October 2023. We apologise for any inconvenience this may cause.
-
Due to planned downtime, our interactive guidance will be unavailable from 2pm on Friday 6 October 2023 to 10am on Tuesday 10 October 2023.
-
Added translation