Hawlio ad-daliad TAW am gartref newydd neu adeilad newydd ar gyfer elusen os ydych yn adeiladwr tai DIY
Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein neu’r ffurflen VAT431NB i adhawlio TAW, os ydych yn adeiladwr tai sy’n adeiladu cartref newydd neu adeilad newydd ar gyfer elusen.
Pwy all hawlio
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hon i adhawlio TAW os ydych yn adeiladwr tai DIY sy’n:
- adeiladu cartref newydd
- adeiladu adeilad newydd ar gyfer elusen, at ddibenion elusennol neu breswyl perthnasol
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- cynnwys tystysgrif cwblhau rheoliadau adeiladu — rydym yn derbyn copïau
- darparu tystiolaeth o ganiatâd cynllunio — naill ai caniatâd cynllunio llawn neu amlinellol a chymeradwyaeth mater a gedwir yn ôl
- cynnwys cynlluniau o’r adeilad
Ar gyfer caniatâd cynllunio a roddir mewn 2 ran, bydd angen i ni weld y ddau a byddwn yn derbyn copïau.
Os na roddir unrhyw un o’r dogfennau, efallai y bydd eich cais yn cael ei ohirio neu ei wrthod.
Peidiwch ag anfon dogfennau gwreiddiol gan na fyddwn yn gallu eu dychwelyd atoch.
Gwneud hawliad
Am adeiladau wedi’u cwblhau:
- cyn 5 Rhagfyr 2023 — mae’n rhaid i chi wneud hyn dim mwy na 3 mis ar ôl ei gwblhau
- ar neu ar ôl 5 Rhagfyr 2023 — mae’n rhaid i chi wneud hyn dim mwy na 6 mis ar ôl ei gwblhau
Cofrestru ar-lein
Bydd angen i chi wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
- mewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf)
- defnyddio’ch cyfeiriad e-bost i gael cod cadarnhau y gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi
Drwy’r post
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, llenwch Ad-daliadau TAW ar gyfer adeiladwyr tai DIY – Ffurflen hawlio ar gyfer tai newydd (VAT431NB) (yn agor tudalen Saesneg) (PDF, 515 KB, 11 tudalen).
Bydd angen i chi roi gwybodaeth am eich anfonebau ar y ffurflen.
Anfonwch eich ffurflen wedi’i llenwi i:
BT&C VAT
HM Revenue and Customs
BX9 1WR
Ni fydd swyddfeydd CThEF yn derbyn hawliadau a ollyngir neu a ddosberthir â llaw.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 5 Rhagfyr 2023Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 Chwefror 2025 + show all updates
-
Added translation
-
The address to send a completed paper form to has been updated.
-
Information to tell you not send original documents as we will not be able to return them to you, has been added to the postal form.
-
Information to tell you not send original documents as we will not be able to return them to you, has been added.
-
First published.