Hawlio Credydau Gwariant Clyweledol ar gyfer Treth Gorfforaeth
Gwirio a yw’ch cwmni’n gymwys i gael Credyd Gwariant Clyweledol ar gyfer Treth Gorfforaeth, a’r hyn y gallwch ei hawlio.
Os ydych yn gwmni sy’n hawlio rhyddhad treth, gallwch hawlio Credyd Gwariant Clyweledol (AVEC) ar wariant a ysgwyddwyd o 1 Ionawr 2024 ymlaen ar y canlynol:
- ffilmiau
- rhaglenni teledu o safon uchel
- rhaglenni teledu i blant
- animeiddiad
Pwy all hawlio
Mae’n rhaid i’ch cwmni fod yn gyfrifol am y canlynol:
- cyn-gynhyrchu
- prif ffotograffiaeth
- ôl-gynhyrchu
- cyflawni’r ffilm neu raglen orffenedig
Bydd yn rhaid i’ch cwmni hefyd wneud y canlynol:
- cymryd rhan weithredol yn y gwaith cynllunio a phenderfynu
- gweithio’n uniongyrchol i drafod, contractio a thalu am hawliau, nwyddau a gwasanaethau
Gwiriwch a yw’ch cwmni’n gymwys fel y cwmni cynhyrchu (yn aogr tudalen Saesneg) cyn hawlio’r rhyddhad.
Prawf o ran diwylliant
Er mwyn bod yn gymwys i gael rhyddhadau treth y Diwydiant Creadigol, mae’n rhaid bod pob ffilm a rhaglen deledu fod wedi’u hardystio i fod yn Brydeinig. Mae’n rhaid i’r ffilm a’r rhaglen deledu basio prawf o ran diwylliant, neu fod yn gymwys drwy gytuniad cydgynhyrchu a gytunwyd yn rhyngwladol.
Sefydliad Ffilm Prydain sy’n rheoli’r broses o bennu cymhwyster a dyrannu tystysgrifau ar ran yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Bydd Sefydliad Ffilm Prydain yn dyrannu:
- tystysgrif dros dro ar gyfer gwaith sydd ar y gweill
- tystysgrif derfynol ar gyfer cynhyrchiad sydd wedi’i gyflawni
Gwirio a yw’r cynhyrchiad yn gymwys i gael credyd gwariant
Gall eich cwmni hawlio’r credyd gwariant ar ffilm os yw’r canlynol yn wir:
- mae wedi’i hardystio i fod yn Brydeinig gan Sefydliad Ffilm Prydain
- bwriedir rhyddhau’r ffilm yn theatraidd
- mae o leiaf 10% o’r ‘costau craidd’ yn gysylltiedig â gweithgarwch yn y DU
Mae ffilm yn animeiddiad os yw o leiaf 51% o’r ‘costau craidd’ wedi’u gwario ar animeiddiad.
Mae ffilm yn un annibynnol os yw’r ffilm wedi’i hardystio i fod yn ffilm â chyllid isel gan Sefydliad Ffilm Prydain. Er mwyn cael ei hardystio, mae’n rhaid bod y canlynol yn wir am eich ffilm:
- dechreuodd y brif ffotograffiaeth ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024
- bod ag ysgrifennydd neu gyfarwyddwr o’r DU neu fod y ffilm yn gydgynhyrchiad swyddogol
- bod â ‘costau craidd’ sydd lai na £23.5 miliwn
Gall eich cwmni hawlio credyd gwariant ar raglen deledu os yw’r canlynol yn wir:
- mae wedi’i hardystio i fod yn Brydeinig gan Sefydliad Ffilm Prydain
- mae wedi’i bwriadu i’w darlledu i’r cyhoedd — mae hyn yn cynnwys ffrydio ar-lein
- mae o leiaf 10% o’r ‘costau craidd’ yn gysylltiedig â gweithgarwch yn y DU
- mae’r rhaglen yn ddrama, comedi, rhaglen ddogfen, animeiddiad neu raglen i blant
Mae rhaglen deledu:
- yn rhaglen i blant os oes disgwyl i brif gynulleidfa’r rhaglen fod o dan 15 oed
- yn animeiddiad os yw o leiaf 51% o’r ‘costau craidd’ wedi’u gwario ar animeiddiad
Gall eich cwmni hawlio’r credyd gwariant ar ddramâu, comedïau a rhaglenni dogfen os yw’r canlynol yn wir amdanynt:
- bod ganddynt ‘costau craidd’ ar gyfartaledd o £1 miliwn, o leiaf, ar gyfer pob slot sy’n awr o hyd
- bod ganddynt hyd slot mewn perthynas â’r rhaglen sy’n fwy nag 20 munud am bob pennod
Mae rhaglenni teledu sydd wedi’u comisiynu gyda’i gilydd yn cael eu trin fel un rhaglen.
Costau craidd yw’r hyn a wariwyd ar gyn-gynhyrchu, prif ffotograffiaeth ac ôl-gynhyrchu.
Gallwch wirio a yw’r cynhyrchiad yn gymwys i gael y rhyddhad hwn.
Yr hyn y gallwch ei hawlio
Gallwch hawlio credyd gwariant ar sail canran o’ch costau cymhwysol. Costau cymhwysol fydd yr isaf o’r naill neu’r llall o’r canlynol:
- 80% o gyfanswm y costau craidd
- swm y costau craidd sy’n gysylltiedig â gweithgarwch yn y DU
Gallwch hawlio’r cyfraddau credyd gwariant canlynol:
- 39% o wariant cymhwysol ar gyfer rhaglenni teledu i blant, ffilmiau wedi’u hanimeiddio a rhaglenni teledu wedi’u hanimeiddio
- 53% ar ffilmiau annibynnol
- 34% ar bob ffilm a rhaglen deledu arall
Gallwch hawlio’r gyfradd uwch ar gyfer ffilmiau annibynnol o 1 Ebrill 2025 ymlaen. Mae’n berthnasol i gostau a ysgwyddwyd o 1 Ebrill 2024 ymlaen. Dim ond rhyddhad ar hyd at £15 miliwn o gostau craidd y gall ffilmiau annibynnol ei hawlio.
O 1 Ebrill 2025 ymlaen, gall ffilmiau a rhaglenni teledu ar y gyfradd o 34% hawlio credyd pellach am gostau effeithiau gweledol. Mae costau a ysgwyddwyd o 1 Ionawr 2025 yn gymwys. Mae gan gostau effeithiau gweledol gyfradd o 39%, ac maen nhw’n esempt rhag y terfyn o 80% ar gyfanswm y costau craidd.
Am gyfnod, bydd cyfanswm credydau gwariant eich cwmni yn cael ei drethu ar brif gyfradd Treth Gorfforaeth.
Bydd y credydau gwariant hyn yn cael eu defnyddio i dalu’ch rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth.
Gall y credydau gwariant hefyd gael eu defnyddio i dalu unrhyw rwymedigaethau eraill sydd gennych, neu gallwch eu hildio i gwmnïau sy’n rhan o’r grŵp.
Os oes gennych gredyd yn weddill ar ôl hyn, byddwch yn cael credyd taladwy ar gyfer y swm hwnnw.
Pryd y gallwch hawlio
Gallwch wneud hawliad am ryddhad treth y diwydiant creadigol, diwygio’ch hawliad neu ei dynnu, hyd at 2 flynedd ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu y mae’n berthnasol iddo.
Mae’n bosibl y gall CThEF dderbyn hawliadau hwyr o dan rai amgylchiadau.
Sut i hawlio
Hawliwch gredydau gwariant ar eich Ffurflen Dreth Cwmni (yn aogr tudalen Saesneg).
O fis Ebrill 2025 ymlaen, mae’n rhaid i chi gynnwys tudalen atodol CT600P ar gyfer y diwydiannau creadigol gyda’ch Ffurflen Dreth y Cwmni.
Bydd angen i chi gyfrifo swm y credyd gwariant:
- sy’n ddyledus i’ch cwmni
- a ddefnyddir i dalu’ch rhwymedigaethau treth
- a ildiwyd i’r cwmnïau sy’n rhan o’r grŵp
- sy’n ddyledus ar ffurf credyd taladwy
O 1 Ebrill 2024 ymlaen, mae’n rhaid i bob hawliad gynnwys ffurflen gwybodaeth ychwanegol (yn agor tudalen Saesneg). Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen hon i gyflwyno’r dystiolaeth angenrheidiol er mwyn ategu’ch hawliad.
Ar gyfer pob cynhyrchiad, mae’n rhaid i chi roi’r canlynol:
-
tystysgrif ddiwylliannol Brydeinig gan Sefydliad Ffilm Prydain — os byddwch yn anfon tystysgrif dros dro, bydd yn rhaid i chi anfon y dystysgrif derfynol pan fydd y ffilm wedi’i chwblhau a bydd yn rhaid i’r dystysgrif fod â dyddiad dilys pan fyddwch yn ei chyflwyno
-
datganiadau o symiau’r costau craidd — wedi’u rhannu rhwng costau’r DU a chostau tu allan i’r DU
-
dadansoddiad o’r costau fesul categori
-
manylion trafodion partïon cysylltiedig
Rhagor o wybodaeth
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, gan gynnwys enghreifftiau o sut mae’r credyd gwariant yn cael ei gyfrifo, yn Llawlyfr Credyd Gwariant y Diwydiannau Creadigol (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 19 Ionawr 2024Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 Chwefror 2025 + show all updates
-
Added translation
-
Guidance added to check if the production qualifies for the expenditure credit. Added in information about CT600P supplementary page.
-
Further information about claiming Audio-Visual Expenditure Credits for Corporation Tax has been added.
-
First published.