Canllawiau

Hawlio Treth Incwm yn ôl ar gyfandaliad buddiant marwolaeth pensiwn P53Z(DB)

Sut i hawlio ad-daliad yn y flwyddyn dreth bresennol ar gyfandaliad buddiant marwolaeth pensiwn a gawsoch yn ddiweddar a gwagiodd eich cronfa.

Gallwch hawlio’n ôl y dreth sydd arnom i chi ar gyfandaliad buddiant marwolaeth pensiwn a gawsoch yn ddiweddar a gwagiodd eich cronfa.

Cyn i chi ddechrau

Cadwch unrhyw waith papur sy’n ymwneud â’ch hawliad nes ein bod wedi cwblhau’r gwiriadau hyn.

Os nad ydych yn breswylydd yn y DU at ddibenion treth (yn Saesneg), nid oes angen i chi lenwi’r ffurflen hon. Gallwch wirio sut i wneud hawliad o dan gytundeb trethiant dwbl (yn Saesneg).

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth:

  • peidiwch â chynnwys unrhyw incwm Hunanasesiad sydd wedi’i amcangyfrif yn eich hawliad, oni bai eich bod am i ni ei gynnwys wrth gyfrifo’ch ad-daliad
  • bydd dal angen i chi dalu unrhyw daliadau mantoli sy’n ddyledus, a thaliadau ar gyfrif pan ddaw’r amser i’w talu — gallwch ofyn i ni ddefnyddio’ch ad-daliad i ostwng eich taliadau ar gyfrif
  • dylech gynnwys unrhyw ad-daliad yr ydych wedi’i gael ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad nesaf
  • mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni pan nad oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad mwyach

Os oes gennych incwm TWE (Talu Wrth Ennill) ac incwm Hunanasesiad, ni fyddwn yn cynnwys incwm Hunanasesiad wrth gyfrifo’ch ad-daliad, oni bai eich bod yn gofyn i ni wneud hynny.

Yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn hawlio

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich cyfeirnod TWE y cyflogwr
  • rhan 2 a rhan 3 o’ch P45 — os nad oes gennych hyn, bydd yn rhaid i chi esbonio pam (er enghraifft, efallai eich bod wedi ymddeol neu’n un o weision y Goron yn y DU a gyflogir dramor)
  • enw a chyfeiriad eich enwebai — os nad ydych am i’r ad-daliad cael ei anfon i’ch cyfeiriad

Bydd angen i chi hefyd rhoi gwybod i ni faint rydych yn disgwyl ei gael o’r canlynol:

  • incwm o gyflogaeth
  • incwm o hunangyflogaeth
  • incwm o bensiynau’r DU
  • cyfandaliadau buddiant marwolaeth
  • budd-daliadau trethadwy’r wladwriaeth — megis Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans Ceisio Gwaith, Budd-dal Analluogrwydd
  • llog wedi’i drethu ar incwm o gynilion a buddsoddiadau yn y DU
  • llog heb ei drethu ar gynilion yn y DU
  • difidendau o gwmnïau yn y DU
  • unrhyw incwm arall
  • taliadau Rhodd Cymorth

Dylech ddefnyddio:

  • ffigurau wedi’u hamcangyfrif os nad oes gennych y ffigurau terfynol
  • rhifau cyfan, wedi’u talgrynnu i lawr i’r bunt agosaf

Byddwn yn cynnal gwiriadau ar ddiwedd y flwyddyn dreth, ac yn cysylltu â chi os yw’r swm yn wahanol.

Dulliau o hawlio

I ddechrau eich hawliad ar-lein.

  1. Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.

  2. Llenwch ffurflen P53Z(DB).

  3. Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.

Os nad ydych am ddechrau eich hawliad ar-lein


Ffurflen P53Z(DB)

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email different.format@hmrc.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.
  1. Argraffwch y ffurflen.

  2. Llenwch y ffurflen â llaw.

  3. Anfonwch y ffurflen drwy’r post i CThEF (mae’r cyfeiriad ar ddiwedd y ffurflen).

Yr hyn sy’n digwydd ar ôl i chi hawlio

Unwaith bod eich hawliad (wedi’i gwblhau) yn dod i law, byddwn yn cadarnhau os yw ad-daliad yn ddyledus i chi. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn cysylltu â chi.

Gall gymryd 30 diwrnod i gael ymateb. Peidiwch â chysylltu â ni yn ystod y cyfnod hwnnw i weld hynt eich hawliad.

Byddwn yn anfon siec atoch chi neu’ch enwebai.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 21 February 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 August 2024 + show all updates
  1. A Welsh version of the form P53Z(DB) has been added to cover tax year 2024 to 2025.

  2. The form P53Z(DB) has been replaced with a version to cover tax year 2024 to 2025.

  3. Added Welsh translation.

  4. Added translation

Sign up for emails or print this page