Hawlio rhyddhad treth ar eich taliadau pensiwn preifat
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i hawlio rhyddhad treth ar eich cynllun pensiwn gweithle a’ch pensiwn personol.
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, mae’n rhaid i chi hawlio drwy’ch Ffurflen Dreth (ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol ac unrhyw flynyddoedd blaenorol). Defnyddiwch y gwasanaeth hwn os ydych yn hawlio rhyddhad treth drwy’ch cod treth ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol yn unig.
Bydd angen i chi ein ffonio neu ysgrifennu atom i hawlio rhyddhad treth os ydych yn talu’r gyfradd dreth sylfaenol a bod y canlynol yn berthnasol:
- nid yw’ch cynllun pensiwn wedi’i drefnu i gael rhyddhad treth awtomatig
- rydych yn talu cyfandaliad i bensiwn personol nad yw wedi’i gynnwys mewn cynllun cyflog net
Pwy all hawlio
I fod yn gymwys i hawlio rhyddhad treth, mae’n rhaid i chi fod yn talu i mewn i gynllun pensiwn gweithle neu bensiwn personol ac yn talu mwy na’r gyfradd dreth sylfaenol.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
I hawlio rhyddhad treth ar eich taliadau pensiwn gweithle a thaliadau pensiwn personol, bydd angen y canlynol arnoch:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- y math o bensiwn
- enw’r darparwr pensiwn
- swm net y cyfraniadau pensiwn ar gyfer pob blwyddyn dreth yr ydych yn gwneud hawliad ar ei chyfer
- tystiolaeth gan eich darparwr pensiwn o’r taliadau a wnaed ar gyfer pob blwyddyn dreth yr ydych yn hawlio ar ei chyfer
- eich rhif ar y gyflogres neu’ch cyfeirnod
Sut i hawlio
Hawlio ar-lein
Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf).
Gallwch gadw’r hyn yr ydych wedi’i nodi a dod yn ôl yn nes ymlaen.
Hawlio drwy’r post
Mae’n rhaid i chi anfon llythyr atom os yw’r canlynol yn wir:
- nid ydych yn gallu hawlio ar-lein
- rydych yn asiant sy’n gweithredu ar ran cleient
Mae’n rhaid i chi gynnwys yr holl wybodaeth o’r adran ‘yr hyn y bydd ei angen arnoch’ yn eich llythyr a’i anfon i’r cyfeiriad canlynol:
Talu Wrth Ennill a Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig
Ar ôl i chi hawlio
Byddwn yn adolygu eich cais ac yn cysylltu â chi cyn pen 28 diwrnod gwaith.