Canllawiau

Hawlio Rhyddhad Treth Arddangosfeydd Orielau ac Amgueddfeydd ar gyfer Treth Gorfforaeth

Gwirio a yw’ch cwmni yn gymwys i gael Rhyddhad Treth Arddangosfeydd Orielau ac Amgueddfeydd ar gyfer Treth Gorfforaeth, a’r hyn y gallwch ei hawlio.

Pwy all hawlio

Mae Rhyddhad Treth Arddangosfeydd Orielau ac Amgueddfeydd ar gael i brif gwmnïau cynhyrchu a chwmnïau cynhyrchu eilaidd cymhwysol sy’n cynnal arddangosfa gymhwysol.

Cwmnïau cymhwysol

Bydd angen i gwmni cymhwysol gynnal a chadw amgueddfa neu oriel yn ogystal â bod yn un o’r canlynol:

  • cwmni elusennol

  • cwmni o dan berchnogaeth yn gyfan gwbl gan elusen neu awdurdod lleol

Prif gwmnïau cynhyrchu

Mae’n rhaid i brif gwmni cynhyrchu fodloni’r gofynion canlynol:

  • gwneud cyfraniad effeithiol sy’n greadigol, technegol neu artistig

  • cymryd rhan weithredol yn y gwaith cynllunio a phenderfynu

  • gweithio’n uniongyrchol i drafod, contractio a thalu am hawliau, nwyddau a gwasanaethau

  • bod yn gyfrifol am gynhyrchu a rhedeg yr arddangosfa ar safle

Dim ond un prif gwmni cynhyrchu sy’n gallu bodoli ar gyfer unrhyw un arddangosfa.

Os yw’r arddangosfa yn cael ei chynnal mewn mwy nag un safle, efallai y bydd cwmnïau cynhyrchu eilaidd.

Cwmnïau cynhyrchu eilaidd

Mae’n rhaid i gwmni cynhyrchu eilaidd fodloni’r gofynion canlynol:

  • bod yn gyfrifol am gynhyrchu a rhedeg yr arddangosfa ar safle

  • cymryd rhan weithredol yn y gwaith penderfynu mewn perthynas â’r safle hwnnw

Efallai y bydd mwy nag un cwmni cynhyrchu eilaidd yn gysylltiedig ag arddangosfa.

Gwiriwch a yw’ch cwmni’n gymwys fel y cwmni cynhyrchu (yn agor tudalen Saesneg) cyn hawlio’r rhyddhad.

Gwiriwch a yw’r arddangosfa yn gymwys i gael rhyddhad treth

Bydd arddangosfa gymhwysol yn bodloni’r gofynion canlynol:

  • mae’n arddangosfa gyhoeddus gan guradur o gasgliad o wrthrychau neu weithiau sydd yn cael eu hystyried yn rhywbeth o ddiddordeb:

    • gwyddonol
    • hanesyddol
    • artistig
    • diwylliannol
  • gall fod yn wrthrych unigol

  • mae o leiaf 25% o’r costau craidd yn cael eu gwario ar nwyddau neu wasanaethau a ddarperir o’r tu mewn i’r DU neu’r UE, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein, sef yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) — o 1 Ebrill 2024 ymlaen, mae’n rhaid i o leiaf 10% o’r ‘costau craidd’ fod yn gysylltiedig â gweithgarwch yn y DU

Costau craidd yw’r costau sy’n cael eu gwario ar y canlynol:

  • cynhyrchu’r arddangosfa

  • dadosod a chau’r arddangosfa os yw’n agored am flwyddyn neu lai

Ni all eich cwmni hawlio’r rhyddhad os yw’r canlynol yn wir am yr arddangosfa:

  • mae wedi ei drefnu mewn cysylltiad â chystadleuaeth

  • nid yw ar gael i’w gweld wyneb yn wyneb, er enghraifft, arddangosfeydd ar-lein

  • mae’n cynnwys perfformiad byw gan unrhyw berson, ac eithrio ble mae hyn yn achlysurol

  • mae unrhyw beth sy’n cael ei arddangos:

    • ar werth
    • yn fyw

Gallwch wirio a yw’r arddangosfa yn gymwys i gael y rhyddhad hwn.

Yr hyn y gallwch ei hawlio

Gallwch hawlio didyniad ychwanegol i ostwng eich elw, neu i gynyddu colled. Bydd hyn yn gostwng swm unrhyw Dreth Gorfforaeth y bydd yn rhaid i chi ei dalu.

Y didyniad ychwanegol yw’r isaf o’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • 80% o gyfanswm y costau craidd

  • swm y costau craidd a wariwyd ar nwyddau neu wasanaethau a ddarperir o’r tu mewn i’r DU neu’r AEE – o 1 Ebrill 2024 ymlaen, bydd yn rhaid nodi swm y costau craidd sy’n gysylltiedig â gweithgarwch yn y DU

Os byddwch yn gwneud colled, gall yr holl golled, neu ran ohoni, gael ei hildio yn gyfnewid am gredyd treth taladwy.

Bydd colledion yn cael eu hildio ar raddfa o 45% ar gyfer arddangosfeydd sydd ddim ar daith, a graddfa uwch o 50% ar gyfer arddangosfeydd sydd ar daith.

Mae’r cyfraddau presennol yn destun cynnydd dros dro. Y gyfradd safonol yw 20% ar gyfer arddangosfeydd sydd ddim ar daith, a 25% ar gyfer arddangosfeydd sydd ar daith.

Arddangosfeydd sydd ar daith

Mae’n rhaid i arddangosfeydd sydd ar daith fodloni’r gofynion ychwanegol canlynol:

  • mae’r arddangosfa yn cael ei chynnal mewn mwy nag un safle

  • mae o leiaf 25% o’r gwrthrychau neu’r gweithiau a oedd yn cael eu harddangos yn y safle cyntaf yn cael eu harddangos ymhob safle dilynol

  • mae llai na 6 mis rhwng y cam dadosod mewn un safle a’r cam gosod yn y safle nesaf

  • mae’n rhaid bod gan yr arddangosfa brif gwmni cynhyrchu sy’n agored i Dreth Gorfforaeth

  • mae’n rhaid bod y prif gwmni cynhyrchu yn bwriadu, o’r cam cynllunio, mynd â’r arddangosfa ar daith

Pryd y gallwch hawlio

Gallwch wneud hawliad am Ryddhad Treth Arddangosfeydd Orielau ac Amgueddfeydd, diwygio’ch hawliad neu ei dynnu, hyd at un flwyddyn ar ôl dyddiad cyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni.

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024, gallwch wneud hawliad am Ryddhad Treth Arddangosfeydd Orielau ac Amgueddfeydd, diwygio’ch hawliad neu ei dynnu, hyd at 2 flynedd ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu y mae’n berthnasol iddo.

Mae’n bosibl y gall CThEF dderbyn hawliadau hwyr o dan rai amgylchiadau.

Sut i hawlio

Gallwch hawlio’r rhyddhad treth ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni (yn agor tudalen Saesneg).

O fis Ebrill 2025 ymlaen, mae’n rhaid i chi gynnwys tudalen atodol CT600P ar gyfer y diwydiannau creadigol gyda’ch Ffurflen Dreth y Cwmni.

Bydd angen i chi gyfrifo’r canlynol:

  • didyniadau ychwanegol sy’n ddyledus i’ch cwmni

  • unrhyw gredyd taladwy sy’n ddyledus i’ch cwmni

O 1 Ebrill 2024 ymlaen, mae’n rhaid i bob hawliad gynnwys ffurflen gwybodaeth ychwanegol (yn agor tudalen Saesneg). Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen hon i gyflwyno’r dystiolaeth angenrheidiol er mwyn ategu’ch hawliad.

Ar gyfer pob cynhyrchiad, mae’n rhaid i chi roi’r canlynol:

  • teitl y cynhyrchiad, a dyddiad dechrau’r cynhyrchiad

  • datganiad o’r gwariant craidd, wedi’u rhannu fel y ganlyn:

    • costau yn y DU neu’r AEE
    • costau nad ydynt yn y DU neu’r AEE
  • dadansoddiad o’r gwariant fesul categori

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys enghreifftiau o sut y mae’r rhyddhad yn cael ei gyfrifo, yn y Llawlyfr Rhyddhad Treth Arddangosfeydd Amgueddfeydd ac Orielau (yn agor tudalen Saesneg).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 Chwefror 2025 + show all updates
  1. Guidance added to check if the production qualifies for the tax relief. Added in information about CT600P supplementary page.

  2. From 1 April 2024 the rule for core costs used on goods or services provided from within the UK or European Economic Area (EEA) is changing. At least 10% of the core costs must relate to activities in the UK.

  3. The 'How to claim' section has been updated with a link to 'Support your claim for creative industry tax reliefs' which explains how to provide evidence to support your creative industry reliefs claim.

  4. First published.

Print this page