Canllawiau

Hawlio Rhyddhad Treth Cerddorfeydd ar gyfer Treth Gorfforaeth

Gwirio a yw’ch cwmni yn gymwys i gael Rhyddhad Treth Cerddorfeydd ar gyfer Treth Gorfforaeth, a’r hyn y gallwch ei hawlio.

Pwy all hawlio

Mae’n rhaid bod y canlynol yn wir am eich cwmni: 

  • mae’n gyfrifol am redeg y cyngerdd o’r dechrau i’r diwedd, gan gynnwys cyflogi neu hurio’r perfformwyr 

  • mae’n cymryd rhan weithredol yn y gwaith cynllunio a phenderfynu 

  • mae’n gweithio’n uniongyrchol i drafod, contractio a thalu am y canlynol: 

    • hawliau 

    • nwyddau 

    • gwasanaethau 

Gwiriwch a yw’ch cwmni’n gymwys fel y cwmni cynhyrchu (yn agor tudalen Saesneg) cyn hawlio’r rhyddhad.

Gwirio a yw’r cynhyrchiad yn gymwys i gael rhyddhad treth

Gall eich cwmni hawlio’r rhyddhad os yw’n gwmni cynhyrchu cerddorfaol sy’n cynnal cyngerdd cerddorfaol cymhwysol.  

Mae cyngerdd cerddorfaol yn gymwys os yw’r canlynol yn wir: 

  • mae’r cyngerdd yn cael ei berfformio gan offerynwyr, yn gyfan gwbl neu’n bennaf, a’r offerynwyr hyn yw prif ffocws y cyngerdd, a hwnnw’n cynnwys y canlynol: 

    • cerddorfa 

    • ensemble 

    • grŵp 

    • band 

  • mae’r cyngerdd yn cynnwys o leiaf 12 offerynnwr 

  • nid yw pob un o’r offerynnau, neu nid yw’r rhan fwyaf ohonynt, yn defnyddio chwyddleisio electronig 

  • bwriedir bod y cyngerdd yn cael ei berfformio’n fyw ar gyfer aelodau o’r cyhoedd sy’n talu, neu at ddibenion addysgol 

  • mae o leiaf 25% o’r ‘costau craidd’ yn cael eu gwario ar nwyddau neu wasanaethau a ddarperir o’r tu mewn i’r DU neu’r UE, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein, sef yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) – o 1 Ebrill 2024 ymlaen, mae’n rhaid i o leiaf 10% o’r ‘costau craidd’ fod yn gysylltiedig â gweithgarwch yn y DU 

Costau craidd yw’r hyn a wariwyd ar redeg y cynhyrchiad. Nid yw’n cynnwys unrhyw gostau a godir ar y cynhyrchiad ei hun. 

Ni all eich cwmni hawlio’r rhyddhad os yw’r canlynol yn wir am y cyngerdd: 

  • prif bwrpas y cyngerdd, neu un o’i brif bwrpasau, yw hysbysebu neu hyrwyddo nwyddau neu wasanaethau 

  • mae’r cyngerdd yn cynnwys cystadleuaeth 

  • prif bwrpas y cyngerdd, neu un o’i brif bwrpasau, yw recordio’r perfformiad

Gallwch wirio a yw’r cynhyrchiad yn gymwys i gael y rhyddhad hwn.

Yr hyn y gallwch ei hawlio 

Gallwch hawlio didyniad ychwanegol i ostwng eich elw, neu i gynyddu colled. Bydd hyn yn gostwng swm y Dreth Gorfforaeth y bydd yn rhaid i chi ei dalu. 

Y didyniad ychwanegol yw’r isaf o’r naill neu’r llall o’r canlynol: 

  • 80% o gyfanswm y costau craidd 

  • swm y costau craidd a wariwyd ar nwyddau neu wasanaethau a ddarperir o’r DU neu’r AEE – o 1 Ebrill 2024 ymlaen, bydd yn rhaid nodi swm y costau craidd sy’n gysylltiedig â gweithgarwch yn y DU 

Os byddwch yn gwneud colled, gall yr holl golled, neu ran ohoni, gael ei hildio yn gyfnewid am gredyd treth taladwy, a hynny ar gyfradd o 25%. 

Pryd y gallwch hawlio 

Gallwch wneud hawliad am Ryddhad Treth Cerddorfeydd, diwygio’ch hawliad neu ei dynnu, hyd at un flwyddyn ar ôl dyddiad cyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni. 

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024, gallwch wneud hawliad am Ryddhad Treth Cerddorfeydd, diwygio’ch hawliad neu ei dynnu, hyd at 2 flynedd ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu y mae’n berthnasol iddo. 

Mae’n bosibl y gall CThEF dderbyn hawliadau hwyr o dan rai amgylchiadau.

Sut i hawlio

Gallwch hawlio’r rhyddhad treth ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni (yn agor tudalen Saesneg).

O fis Ebrill 2025 ymlaen, mae’n rhaid i chi gynnwys tudalen atodol CT600P ar gyfer y diwydiannau creadigol gyda’ch Ffurflen Dreth y Cwmni.

Bydd angen i chi gyfrifo’r canlynol:

  • didyniadau ychwanegol sy’n ddyledus i’ch cwmni

  • unrhyw gredyd taladwy sy’n ddyledus i’ch cwmni

O 1 Ebrill 2024 ymlaen, mae’n rhaid i bob hawliad gynnwys ffurflen gwybodaeth ychwanegol (yn agor tudalen Saesneg). Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen hon i gyflwyno’r dystiolaeth angenrheidiol er mwyn ategu’ch hawliad.

Mae’n rhaid i chi hefyd roi’r canlynol:

  • enw a chyfeiriad pob lleoliad ar gyfer pob perfformiad

  • datganiad o’r costau craidd, wedi’u rhannu fel y ganlyn:

    • costau yn y DU neu’r AEE

    • costau nad ydynt yn y DU neu’r AEE

  • dadansoddiad o’r costau fesul categori

  • dyddiad dechrau’r cynhyrchiad

Gallwch ddewis bod mwy nag un cyngerdd yn cael eu trin fel un cyngerdd. Os gwnaethoch y dewis hwn, dylech nodi dyddiad eich dewis ar Ffurflen Dreth y Cwmni.

Mae’n rhaid i’r dewis hwn gael ei wneud cyn y naill neu’r llall o’r dyddiadau canlynol (p’un bynnag sydd hwyraf): 

  • dyddiad y cyngerdd cyntaf yn y gyfres 

  • dyddiad y gwnaethoch yr hawliad cyntaf sy’n ymwneud â chyngerdd yn y gyfres

Dylech anfon dewisiadau o’r fath drwy e-bost i: creative.industries@hmrc.gov.uk.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys enghreifftiau o sut y mae’r rhyddhad yn cael ei gyfrifo, yn y Llawlyfr Rhyddhad Treth Cerddorfeydd (yn agor tudalen Saesneg).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 Chwefror 2025 + show all updates
  1. Guidance added to check if the production qualifies for the tax relief. Added in information about CT600P supplementary page.

  2. From 1 April 2024 the rule for core costs used on goods or services provided from within the UK or European Economic Area (EEA) is changing. At least 10% of the core costs must relate to activities in the UK.

  3. The 'How to claim' section has been updated with a link to 'Support your claim for creative industry tax reliefs' which explains how to provide evidence to support your creative industry reliefs claim.

  4. First published.

Print this page