Hawlio Rhyddhad Treth Theatr ar gyfer Treth Gorfforaeth
Gwirio a yw’ch cwmni yn gymwys i gael Rhyddhad Treth Theatr ar gyfer Treth Gorfforaeth, a’r hyn y gallwch ei hawlio.
Pwy all hawlio
Mae’n rhaid bod y canlynol yn wir am eich cwmni:
-
mae’n cymryd rhan weithredol yn y gwaith cynllunio a phenderfynu
-
mae’n gweithio’n uniongyrchol i drafod, contractio a thalu am hawliau, nwyddau a gwasanaethau
-
mae’n gyfrifol am redeg y cynhyrchiad o’r dechrau i’r diwedd, gan gynnwys gwneud y canlynol:
-
cyflogi’r perfformwyr
-
hurio’r perfformwyr
-
Gwiriwch a yw’ch cwmni’n gymwys fel y cwmni cynhyrchu (yn agor tudalen Saesneg) cyn hawlio’r rhyddhad.
Gwirio a yw’r cynhyrchiad yn gymwys i gael rhyddhad treth
Gall eich cwmni hawlio’r rhyddhad os yw’r canlynol yn wir:
-
mae’n llwyfannu un o’r cynyrchiadau theatr cymhwysol canlynol:
-
drama, opera, sioe gerdd neu ddarn dramatig arall sy’n adrodd stori lle mae’r perfformiadau’n fyw a bod y perfformwyr yn cyflawni perfformiadau drwy chwarae rolau
-
ballet
-
-
prif bwrpas y gynulleidfa yw gwylio’r perfformiad
-
mae’r perfformiadau i gyd, neu’r rhan fwyaf ohonynt, ar gyfer aelodau o’r cyhoedd sy’n talu, neu at ddibenion addysgol
-
mae o leiaf 25% o’r ‘costau craidd’ yn cael eu gwario ar nwyddau neu wasanaethau a ddarperir o’r tu mewn i’r DU neu’r UE, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein, sef yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) — o 1 Ebrill 2024 ymlaen, mae’n rhaid i o leiaf 10% o’r ‘costau craidd’ fod yn gysylltiedig â gweithgarwch yn y DU
Costau craidd yw’r hyn a wariwyd ar redeg y cynhyrchiad theatr a’i gau. Nid yw’n cynnwys unrhyw gostau a godir yn ystod rhediad y cynhyrchiad.
Ni all eich cwmni hawlio’r rhyddhad os yw’r canlynol yn wir am y cynhyrchiad:
-
prif bwrpas y cynhyrchiad, neu un o’i brif bwrpasau, yw hysbysebu neu hyrwyddo nwyddau neu wasanaethau
-
mae’r cynhyrchiad yn cynnwys cystadleuaeth
-
mae’r cynhyrchiad yn defnyddio anifail gwyllt
-
mae’r cynhyrchiad yn cynnwys golygfeydd o natur rywiol
-
prif bwrpas y cynhyrchiad, neu un o’i brif bwrpasau, yw recordio’r perfformiad
-
mae’r cynhyrchiad wedi’i gynhyrchu at ddibenion hyfforddi
Gallwch wirio a yw’r cynhyrchiad yn gymwys i gael y rhyddhad hwn.
Yr hyn y gallwch ei hawlio
Gallwch hawlio didyniad ychwanegol i ostwng eich elw, neu i gynyddu colled. Bydd hyn yn gostwng swm y Dreth Gorfforaeth y bydd yn rhaid i chi ei dalu.
Y didyniad ychwanegol yw’r isaf o’r naill neu’r llall o’r canlynol:
-
80% o gyfanswm y costau craidd
-
swm y costau craidd a wariwyd ar nwyddau neu wasanaethau a ddarperir o’r tu mewn i’r DU neu’r AEE — o 1 Ebrill 2024 ymlaen, bydd yn rhaid nodi swm y costau craidd sy’n gysylltiedig â gweithgarwch yn y DU
Os byddwch yn gwneud colled, gall yr holl golled, neu ran ohoni, gael ei hildio yn gyfnewid am gredyd treth taladwy.
Y gyfradd bresennol ar gyfer ildio colledion yw 45%. Gallwch ildio colledion ar gyfradd uwch o 50% os yw’ch cynhyrchiad ar daith.
Mae’r cyfraddau presennol yn destun cynnydd dros dro. Y gyfradd safonol yw 20%, a 25% ar gyfer cynyrchiadau sydd ar daith.
Er mwyn i’ch cynhyrchiad gael ei ystyried fel un sydd ar daith, mae’n rhaid i o leiaf un o’r canlynol fod yn wir:
-
yn ystod camau cyntaf y cynhyrchiad, mae’n rhaid eich bod yn bwriadu perfformio’r cynhyrchiad mewn o leiaf 6 safle ar wahân
-
bydd o leiaf 14 perfformiad, a bydd y rhain yn cael eu perfformio mewn o leiaf 2 safle ar wahân
Pryd y gallwch hawlio
Gallwch wneud hawliad am Ryddhad Treth Theatr, diwygio’ch hawliad neu ei dynnu, hyd at un flwyddyn ar ôl dyddiad cyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni.
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024, gallwch wneud hawliad am Ryddhad Treth Theatr, diwygio’ch hawliad neu ei dynnu, hyd at 2 flynedd ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu y mae’n berthnasol iddo.
Mae’n bosibl y gall CThEF dderbyn hawliadau hwyr o dan rai amgylchiadau.
Sut i hawlio
Gallwch hawlio’r rhyddhad ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni (yn agor tudalen Saesneg).
O fis Ebrill 2025 ymlaen, mae’n rhaid i chi gynnwys tudalen atodol CT600P ar gyfer y diwydiannau creadigol gyda’ch Ffurflen Dreth y Cwmni.
Bydd angen i chi gyfrifo’r canlynol:
-
didyniadau ychwanegol sy’n ddyledus i’ch cwmni
-
unrhyw gredyd taladwy sy’n ddyledus i’ch cwmni
O 1 Ebrill 2024 ymlaen, mae’n rhaid i bob hawliad gynnwys ffurflen gwybodaeth ychwanegol (yn agor tudalen Saesneg). Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen hon i gyflwyno’r dystiolaeth angenrheidiol er mwyn ategu’ch hawliad.
Ar gyfer pob cynhyrchiad, mae’n rhaid i chi roi’r canlynol:
-
teitl y cynhyrchiad
-
dyddiad dechrau’r cynhyrchiad
-
datganiad o’r costau craidd, wedi’u rhannu fel y ganlyn:
-
costau yn y DU neu’r AEE
-
costau nad ydynt yn y DU neu’r AEE
-
-
dadansoddiad o’r costau fesul categori
Os ydych yn hawlio’r gyfradd rhyddhad ar gyfer cynyrchiadau ar daith, bydd hefyd angen i chi roi nifer y perfformiadau a fydd yn cael eu cynnal ym mhob safle, a dyddiadau’r perfformiadau hyn.
Rhagor o wybodaeth
Gallwch gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys enghreifftiau o sut y mae’r rhyddhad yn cael ei gyfrifo, yn y Llawlyfr Rhyddhad Treth Theatr (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 10 Chwefror 2020Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 Chwefror 2025 + show all updates
-
Guidance added to check if the production qualifies for the tax relief. Added in information about CT600P supplementary page.
-
From 1 April 2024 the rule for core costs used on goods or services provided from within the UK or European Economic Area (EEA) is changing. At least 10% of the core costs must relate to activities in the UK.
-
The 'How to claim' section has been updated with a link to 'Support your claim for creative industry tax reliefs' which explains how to provide evidence to support your creative industry reliefs claim.
-
Information updated about core expenditure.
-
First published.