Hawlio Credydau Treth Gwariant Gemau Fideo ar gyfer Treth Gorfforaeth
Gwirio a yw’ch cwmni yn gymwys i gael Credydau Treth Gwariant Gemau Fideo ar gyfer Treth Gorfforaeth, a’r hyn y gallwch ei hawlio.
Pwy all hawlio
Mae’n rhaid bod y canlynol yn wir am eich cwmni:
-
mae’n uniongyrchol gyfrifol am ddylunio, cynhyrchu a phrofi’r gêm
-
mae’n cymryd rhan weithredol yn y gwaith cynllunio a phenderfynu
-
mae’n gweithio’n uniongyrchol i drafod, contractio a thalu am hawliau, nwyddau a gwasanaethau
Gwiriwch a yw’ch cwmni’n gymwys fel y cwmni cynhyrchu (yn agor tudalen Saesneg) cyn hawlio’r rhyddhad.
Prawf o ran diwylliant
Er mwyn bod yn gymwys i gael rhyddhadau treth y Diwydiant Creadigol, mae’n rhaid bod pob gêm fideo wedi’u hardystio i fod yn Brydeinig. Mae’n rhaid i’r gêm fideo basio prawf o ran diwylliant, neu fod yn gymwys drwy gytuniad cydgynhyrchu a gytunwyd yn rhyngwladol.
Sefydliad Ffilm Prydain sy’n rheoli’r broses o bennu cymhwyster a dyrannu tystysgrifau ar ran yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Bydd Sefydliad Ffilm Prydain yn dyrannu:
-
tystysgrif dros dro ar gyfer gwaith sydd ar y gweill
-
tystysgrif derfynol pan ar gyfer cynhyrchiad sydd wedi’i gyflawni
Gwirio a yw’r gêm fideo yn gymwys i gael credyd gwariant
Os ydych yn gwmni sy’n hawlio rhyddhad treth, gallwch hawlio Credydau Treth Gwariant Gemau Fideo (VGEC) ar wariant a ysgwyddwyd o 1 Ionawr 2024 ymlaen.
Gall eich cwmni hawlio credyd gwariant ar gêm fideo os yw’r canlynol yn wir:
-
mae wedi’i ardystio i fod yn Brydeinig gan Sefydliad Ffilm Prydain
-
bwriedir bod y gêm ar gael i’r cyhoedd
-
mae o leiaf 10% o’r ‘costau craidd’ yn gysylltiedig â gweithgarwch yn y DU — yr hyn a wariwyd ar ddylunio, cynhyrchu a phrofi’r gêm
Ni all eich cwmni hawlio credyd gwariant os yw’ch gêm wedi’i gynhyrchu at ddibenion hysbysebu, hyrwyddo neu hapchwarae.
Gallwch wirio a yw’r cynhyrchiad yn gymwys i gael y rhyddhad hwn.
Yr hyn y gallwch ei hawlio
Gallwch hawlio credyd gwariant ar gyfradd o 34% ar gyfer eich gwariant cymhwysol. Gwariant cymhwysol yw’r isaf o’r naill neu’r llall o’r canlynol:
-
80% o gyfanswm y costau craidd
-
swm costau craidd sy’n gysylltiedig â gweithgarwch yn y DU
Am gyfnod, bydd cyfanswm credydau gwariant eich cwmni yn cael ei drethu ar brif gyfradd Treth Gorfforaeth.
Bydd y credydau gwariant hyn yn cael eu defnyddio i dalu’ch rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth.
Gall y credydau gwariant hefyd gael eu defnyddio i dalu unrhyw rwymedigaethau eraill sydd gennych, neu gallwch eu hildio i gwmnïau sy’n rhan o’r grŵp.
Os oes gennych gredyd yn weddill ar ôl hyn, byddwch yn cael credyd taladwy ar gyfer y swm hwnnw.
Pryd y gallwch hawlio
Gallwch wneud hawliad am ryddhad treth y diwydiant creadigol, diwygio’ch hawliad neu ei dynnu, hyd at 2 flynedd ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu y mae’n berthnasol iddo.
Mae’n bosibl y gall CThEF dderbyn hawliadau hwyr o dan rai amgylchiadau.
Sut i hawlio
Gallwch hawlio’r credydau gwariant ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni (yn agor tudalen Saesneg).
O fis Ebrill 2025 ymlaen, mae’n rhaid i chi gynnwys tudalen atodol CT600P ar gyfer y diwydiannau creadigol gyda’ch Ffurflen Dreth y Cwmni.
Bydd angen i chi gyfrifo swm y credyd gwariant:
-
sy’n ddyledus i’ch cwmni
-
a ddefnyddir i dalu’ch rhwymedigaethau treth
-
a ildiwyd i’r cwmnïau sy’n rhan o’r grŵp
-
sy’n ddyledus i chi ar ffurf credyd taladwy
O 1 Ebrill 2024 ymlaen, mae’n rhaid i bob hawliad gynnwys ffurflen gwybodaeth ychwanegol (yn agor tudalen Saesneg). Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen hon i gyflwyno’r dystiolaeth angenrheidiol er mwyn ategu’ch hawliad.
Ar gyfer pob cynhyrchiad, mae’n rhaid i chi roi’r canlynol:
-
tystysgrif diwylliant Prydeinig gan Sefydliad Ffilm Prydain — os byddwch yn anfon tystysgrif dros dro, bydd yn rhaid i chi anfon y dystysgrif derfynol ar ôl i’r gêm fideo gael ei gyflawni, ac mae’n rhaid i’r dystysgrif fod yn gyfredol pan fyddwch yn ei chyflwyno
-
datganiad o’r costau craidd, wedi’u rhannu’n gostau yn y DU a chostau nad ydynt yn y DU
-
dadansoddiad o’r costau fesul categori
-
manylion trafodion unrhyw bartïon cysylltiedig
Rhagor o wybodaeth
Gallwch gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys enghreifftiau o sut y mae’r credyd gwariant yn cael ei gyfrifo, yn y Llawlyfr Credyd Gwariant ar gyfer y Diwydiannau Creadigol (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 19 Ionawr 2024Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 Chwefror 2025 + show all updates
-
Guidance added to check if the production qualifies for the tax relief. Added in information about CT600P supplementary page.
-
Further information about claiming Video Games Expenditure Credits for Corporation Tax has been added.
-
First published.