Canllawiau

Cau’r gwasanaeth ar gyfer cyflwyno cyfrifon eich cwmni a Ffurflen Dreth y Cwmni

Dysgwch yr hyn sydd angen i chi ei wneud i baratoi ar gyfer cau’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer cyflwyno cyfrifon eich cwmni a Ffurflen Dreth y Cwmni.

Ar 31 Mawrth 2026, bydd y gwasanaeth cyflwyno ar-lein yn cau. Bydd dal modd i chi ei ddefnyddio i gyflwyno a diwygio’ch Ffurflen Dreth y Cwmni gyda CThEF, a chyfrifon eich cwmni gyda Thŷ’r Cwmnïau, hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2026.

O 1 Ebrill 2026 ymlaen, bydd angen i chi ddefnyddio meddalwedd fasnachol i gyflwyno cyfrifon blynyddol eich cwmni a Ffurflenni Treth y Cwmni gyda CThEF.

Mae opsiynau eraill ar gael i chi o ran cyflwyno cyfrifon eich cwmn gyda Thŷ’r Cwmnïau.

Y rheswm dros gau’r gwasanaeth

Nid yw’r gwasanaeth hwn, a oedd yn rhoi cymorth i fusnesau bach heb gynrychiolaeth o ran materion treth syml a sut i gyflwyno ar-lein, yn bodloni’r safonau digidol modern na’r newidiadau diweddar o ran cyfraith cwmnïau y DU. Ers lansio’r gwasanaeth ar gyfer cyflwyno Treth Gorfforaeth ar-lein yn 2011, mae’r farchnad wedi aeddfedu a thyfu. Gall cynhyrchion masnachol gynnig llawer yn fwy na’r hyn a gynigir gan y gwasanaeth presennol, er enghraifft:

  • gwelliant o ran y broses ddilysu
  • nodynnau atgoffa a chymorth tre

Defnyddio meddalwedd fasnachol

Meddalwedd fasnachol CThEF

Mae’r darparwyr meddalwedd fasnachol hyn yn gallu cynhyrchu sawl elfen o Ffurflen Dreth y Cwmni gyda CThEF. Dylech ystyried ba elfennau y bydd eu hangen arnoch a sicrhau bod y feddalwedd yr ydych yn ei dewis yn eich galluogi i gyflwyno’r canlynol:

  • CT600
  • cyfrifiant CT
  • cyfrifon eich cwmni

Meddalwedd Tŷ’r Cwmnïau

Bydd angen i chi barhau i gyflwyno cyfrifon blynyddol eich cwmni gyda Thŷ’r Cwmnïau.

Dyma restr o ddarparwyr meddalwedd sydd ar gael i reoli cyfrifon eich cwmni a Ffurflenni Treth y Cwmni.

Cyn i’r gwasanaeth gau

Dylech gynllunio sut y byddwch yn cyflwyno cyfrifon blynyddol eich cwmni a Ffurflenni Treth y Cwmni. Gallwch ddechrau defnyddio meddalwedd fasnachol ar unrhyw adeg, does dim angen i chi roi gwybod i CThEF na Thŷ’r Cwmnïau.

Mae angen i chi ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF) i lawrlwytho a chadw Ffurflenni Treth a gyflwynwyd gennych yn flaenorol. Dylech wneud hyn ar gyfer y 3 mlynedd diwethaf, o leiaf.

Sut i gadw Ffurflenni Treth o flynyddoedd blaenorol

  1. Ewch i’r dudalen ‘olrhain eich cyflwyniadau’ a dewiswch y cyfnod ar gyfer y Ffurflen Dreth sydd dan sylw.

  2. Dewiswch naill ai’r cysylltiad cyflwyno ar gyfer ‘CThEF’ neu ‘Tŷ’r Cwmnïau’.

  3. Ar y dudalen ar gyfer cyflwyno, dewiswch ‘cadw’ch Ffurflen Dreth ar ffurf HTML’.

  4. Bydd gofyn i chi ddewis ble yr hoffech gadw’r ffeil, neu bydd y ffeil yn cael ei lawrlwytho i ffolder ar eich cyfrifiadur.

Mae’n rhaid i chi wneud hyn ar neu cyn 31 Mawrth 2026. Ni fydd modd i chi gael mynediad at eich Ffurflenni Treth blaenorol ar ôl y dyddiad hwnnw. Efallai y bydd angen y rhain arnoch os:

  • bydd gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr hyn a gyflwynwyd gennych i CThEF neu Dŷ’r Cwmnïau yn flaenorol
  • byddwch yn penderfynu defnyddio asiant i’ch helpu yn y dyfodol, a bod yr asiant hwnnw yn gofyn i weld cyfrifon blaenorol eich cwmni a Ffurflenni Treth blaenorol y Cwmni
  • bydd CThEF yn cynnal gwiriad cydymffurfio

Ar ôl i’r gwasanaeth gau

Os ydych am wneud newid i Ffurflen Dreth a gyflwynwyd yn flaenorol, neu ail-gyflwyno Ffurflen Dreth a wrthodwyd ar ôl i’r gwasanaeth gau, gallwch wneud y canlynol:

  • defnyddio meddalwedd fasnachol — ond bydd angen i chi roi’r manylion eto
  • ysgrifennu at, neu anfon Ffurflen Dreth ar bapur at, Swyddfa Treth Gorfforaeth
  • defnyddio asiant

Os ydych am newid neu gywiro cyfrifon eich cwmni gyda Thŷ’r Cwmnïau, bydd angen i chi naill ai ddefnyddio meddalwedd neu ffurflen ar bapur.

Dulliau eraill o gyflwyno

Gallwch gyflwyno Ffurflen Dreth ar bapur gyda CThEF os oes gennych esgus rhesymol neu os ydych am gyflwyno’n Gymraeg. Fel arall, mae’n rhaid i chi gyflwyno ar-lein.

Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaethau gwe neu ffurflenni ar bapur i gyflwyno cyfrifon eich cwmni gyda Thŷ’r Cwmnïau.

Esemptiadau o ran cyflwyno

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am eithriad o ran cyflwyno Treth Gorfforaeth os ydych yn elusen, clwb chwaraeon amatur cymunedol neu’n gwmni rheoli fflatiau a bod eich cwmni neu’ch sefydliad yn segur.

Bydd yn dal i fod angen i chi gyflwyno cyfrifon blynyddol eich cwmni i Dŷ’r Cwmnïau hyd yn oed os yw’ch cwmni yn segur.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Mawrth 2025

Argraffu'r dudalen hon