Cylch 2 y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol: sut i fynegi eich diddordeb mewn gwneud cais
Mae’r gronfa hon yn helpu grwpiau cymunedol i brynu neu adnewyddu asedau a fyddai’n cael eu colli i’r gymuned, fel arall.
Crynodeb o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol
Mae’n rhaid i chi ddarllen y manylion llawn am y gronfa yn y prosbectws cyn dechrau eich mynegiad o ddiddordeb. Mae’r prosbectws yn cynnwys popeth y mae angen i chi ei wybod am ein meini prawf cymhwysedd.
Mae’r gronfa hon yn helpu grwpiau cymunedol i brynu neu adnewyddu asedau a fyddai’n cael eu colli i’r gymuned, fel arall.
Mae asedau’n lleoliadau a mannau cyfarfod a ddefnyddir gan y gymuned leol, er enghraifft:
- canolfannau cymunedol
- sinemâu a theatrau
- orielau
- amgueddfeydd
- lleoliadau cerddoriaeth
- parciau
- adeiladau swyddfa bost
- tafarnau
- siopau
- cyfleusterau chwaraeon a hamdden
Dyma rai o’r ffyrdd y gallai ased gael ei golli:
- os oes posibilrwydd y gallai gael ei gau
- os oes posibilrwydd y gallai gael ei werthu
- os yw’n cael ei esgeuluso
- os yw mewn perygl o ddifrod neu ddymchwel
- os nad yw’n cael ei weithredu mewn ffordd gynaliadwy
Mae’n rhaid i’r ased gynnig gwerth i bobl leol. Mae’n rhaid i chi allu ei redeg yn gynaliadwy yn y tymor hir.
Sut i ddechrau cais
Cyn i chi allu gwneud cais, mae’n rhaid i chi gyflwyno mynegiad o ddiddordeb. Ffurflen fer yw hon sy’n caniatáu i ni roi gwybod i chi os ydych yn gymwys o fewn tua 3 wythnos. Mae’r cam mynegi diddordeb yn newydd yng nghylch 2. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn eich gwahodd i gyflwyno cais llawn ar gyfer y gronfa.
Dechreuwch eich mynegiad o ddiddordeb
Mae tua 30 o gwestiynau, a disgwyliwn y bydd yn cymryd tua 10 munud i chi eu cwblhau. Atebwch bob cwestiwn yn gywir ac yn onest.
Byddwn yn gofyn i chi am:
- eich ased
- eich sefydliad
- eich prosiect
- eich anghenion ariannu
Gall unrhyw un o Gymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon fynegi diddordeb mewn gwneud cais. Mae’r broses yr un fath ym mhob ardal.
Os ydych yn bwriadu gwneud cais ar y cyd â sefydliad arall, dim ond un o’r sefydliadau all gyflwyno mynegiad o ddiddordeb.
Gallwch gynllunio ar gyfer gwneud cais am fwy nag un ased, ond mae’n rhaid i chi gyflwyno mynegiad o ddiddordeb ar gyfer pob un.
Gallwch fynegi eich diddordeb unrhyw bryd. Os byddwch yn llwyddiannus, fe’ch gwahoddir i gyflwyno cais llawn, ond nid oes rhaid i chi wneud hynny’n syth, felly dewiswch yr adeg iawn ar gyfer eich prosiect. Edrychwch ar amseriadau’r cyfnodau cynnig ar gyfer y cam ymgeisio llawn yn y prosbectws. Er enghraifft, os ydych yn bwriadu gwneud cais yn ystod cyfnod cynnig 3, bydd angen i chi fynegi eich diddordeb o leiaf 3 wythnos cyn y dyddiad cau, sef 14 Ebrill 2023.
Os dymunech wneud cais yn Gymraeg, bydd fersiwn Cymraeg o’r porthladd ar gael o’r wythnos nesaf ymlaen.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Gallwch ddisgwyl ymateb i’ch mynegiad o ddiddordeb o fewn 3 wythnos.
Os ydych:
- yn llwyddiannus, byddwn yn eich gwahodd i wneud cais ar adeg sy’n iawn i chi
- yn aflwyddiannus, ni fyddwn yn eich gwahodd i wneud cais, ond byddwn yn cynnwys adborth sy’n esbonio pam nad ydych yn gymwys
O’r hydref 2022 ymlaen, bydd gennym ddarparwr cymorth datblygu annibynnol a fydd ar gael i gynorthwyo rhai sefydliadau i ddatblygu eu prosiectau os byddant yn llwyddiannus ar y cam mynegi diddordeb.
Os byddwch yn llwyddiannus cyn i’r darparwr cymorth fod ar gael, gallwch naill ai wneud cais yn syth neu aros iddo fod ar gael yn 2023 er mwyn elwa o’i gymorth.
Gofyn cwestiwn am eich mynegiad o ddiddordeb
E-bost: COF@levellingup.gov.uk
Ceisiwn ymateb i bob ymholiad o fewn 5 niwrnod gwaith.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 April 2023 + show all updates
-
Expression of interest (EOI) paused until May 2023.
-
Added translation
-
Added translation