Rhyddhad Ffiniol ar gyfer Treth Gorfforaeth
Gallwch ostwng eich bil Treth Gorfforaeth drwy Ryddhad Ffiniol o 1 Ebrill 2023 ymlaen os yw elw’ch cwmni yn is na £250,000.
Beth yw Rhyddhad Ffiniol
O 1 Ebrill 2023 ymlaen, mae cyfradd y Dreth Gorfforaeth yn newid i:
- 19% ar gyfer elw trethadwy o dan £50,000 (cyfradd elw bychan)
- 25% ar gyfer elw trethadwy dros £250,000 (prif gyfradd)
Mae Rhyddhad Ffiniol yn sicrhau cynnydd graddol yn y gyfradd Treth Gorfforaeth rhwng y gyfradd elw bychan a’r brif gyfradd (yn Saesneg) — mae hyn yn caniatáu i chi ostwng eich cyfradd o’r brif gyfradd, sef 25%.
Pwy all hawlio’r Rhyddhad Ffiniol
Efallai y bydd eich cwmni neu sefydliad yn gallu hawlio Rhyddhad Ffiniol os yw’r elw trethadwy o 1 Ebrill 2023 ymlaen rhwng:
- £50,000 (y terfyn isaf)
- £250,000 (y terfyn uchaf)
Os yw eich cyfnod cyfrifyddu yn fyrrach na 12 mis, caiff y terfynau hyn eu gostwng yn gymesur. Mae’r terfynau hyn hefyd yn cael eu gostwng yn gymesur gan nifer y cwmnïau cysylltiedig (yn Saesneg) sydd gan eich cwmni.
Er enghraifft, os oes gan eich cwmni 3 chwmni cysylltiedig arall, bydd y terfynau’n cael eu rhannu â 4. Felly, £12,500 fydd y terfyn isaf, a £62,500 fydd y terfyn uchaf.
Pwy na all hawlio Rhyddhad Ffiniol
Ni allwch hawlio Rhyddhad Ffiniol os yw’r canlynol yn wir:
- rydych yn gwmni nad yw’n breswyl yn y DU
- rydych yn gwmni sy’n dal buddsoddiad cau (yn Saesneg)
- mae’ch elw (gan gynnwys dosbarthiadau o gwmnïau anghysylltiedig, amherthnasol (yn Saesneg)) yn mynd dros £250,000
Gwiriwch faint o ryddhad y gallwch ei hawlio
Gallwch gyfrifo Rhyddhad Ymylol ar gyfer Treth Gorfforaeth i wirio faint o Ryddhad Ymylol y gallech ei hawlio.
Dim ond i gyfrifo Rhyddhad Ffiniol ar elw Treth Gorfforaeth o 1 Ebrill 2023 ymlaen y dylech ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 January 2023 + show all updates
-
Welsh translation added.
-
Use the calculator to check if you can reduce your Corporation Tax bill through Marginal Relief from 1 April 2023.
-
The Marginal Relief tool should only be used to calculate marginal relief on corporation tax profits up to 1 April 2015.
-
Page updated to provide more guidance on who can claim Marginal Relief and how to claim Marginal Relief for Corporation Tax
-
The overview section has been updated to show the new rules 'before 1 April 2015'.
-
First published.