Datgan nwyddau masnachol yr ydych yn dod â nhw i Brydain Fawr mewn bagiau sy’n dod gyda chi neu mewn cerbyd bach
Dysgwch am sut i ddatgan nwyddau yr ydych yn dod â nhw i Brydain Fawr — sydd â gwerth llai na £2,500, ac sy’n bodloni amodau penodol eraill — ac yr ydych yn mynd i’w gwerthu neu eu defnyddio yn eich busnes.
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Mae nwyddau masnachol yn eich bagiau sy’n dod gyda chi, a elwir hefyd yn nwyddau mewn bagiau (‘merchandise in baggage’), yn nwyddau rydych yn bwriadu eu gwerthu neu eu defnyddio yn eich busnes pan fo’r canlynol yn wir:
- nid yw cwmni cludo masnachol yn cludo’r nwyddau i chi, neu nid ydych yn talu’r cwmni i’w cludo ar eich rhan
- rydych wedi teithio i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr, a’r Alban) yn cludo nwyddau yn y naill neu’r llall o’r canlynol:
- eich bagiau sy’n dod gyda chi
- cerbyd bach nad yw’n gallu cario mwy na 9 o bobl ac sy’n pwyso 3.5 tunnell neu lai
Mae’n rhaid i chi ddatgan pob un nwydd masnachol. Nid oes lwfans di-doll ar gyfer nwyddau masnachol rydych yn dod â nhw i mewn er mwyn eu gwerthu neu eu defnyddio yn eich busnes.
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i ddatgan nwyddau mewn bagiau, er mwyn gwirio’r Doll Dramor a’r TAW sy’n ddyledus ar nwyddau masnachol yr ydych yn bwriadu dod â nhw yn eich bagiau sy’n dod gyda chi neu mewn cerbyd bach. Yna, gallwch ddatgan a thalu’r swm sydd arnoch.
Mae ffordd wahanol o ddatgan y canlynol:
Cyn i chi ddechrau
Gwnewch un datganiad ar gyfer pob taith. Gallwch ychwanegu nwyddau at ddatganiad yr ydych eisoes wedi’i wneud, cyn belled nad yw’r holl nwyddau at ei gilydd yn werth mwy na £2,500.
Gallwch wneud datganiad syml gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, er mwyn datgan nwyddau masnachol mewn bagiau os yw’r canlynol yn wir am y nwyddau:
- maent yn dod i mewn i Brydain Fawr
- mae eu gwerth yn llai na £2,500
- maent yn pwyso llai na chyfanswm o 1,000kg
- nid yw’r nwyddau o dan reolaeth nac o dan gyfyngiadau — er enghraifft, nwyddau sydd angen trwydded
- nid yw’r nwyddau yn alcohol, tybaco neu danwydd (nwyddau ecséis)
Os nad yw’ch nwyddau’n bodloni’r amodau hyn, bydd angen i chi wneud datganiad mewnforio llawn.
Ni allwch wneud datganiad ar-lein syml os yw’ch nwyddau’n cael eu gosod o dan weithdrefn tollau arbennig (yn agor tudalen Saesneg), neu’n cael eu tynnu ohoni, nac os ydych yn bwriadu hawlio rhyddhad ar gyfer y nwyddau hyn.
Defnyddiwch dudalen Tariff Ar-lein Integredig y DU i wirio a yw’ch nwyddau o dan reolaeth neu o dan gyfyngiadau.
Er mwyn gwirio a yw nwyddau mewn bagiau yn gymwys ar gyfer rhyddhad, darllenwch Rhyddhadau rhag Toll Fewnforio (yn agor tudalen Saesneg).
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd rhaid i gael rhif EORI o leiaf 48 awr cyn teithio, os nad oes gan eich busnes rif EORI eisoes.
Er mwyn gwneud datganiad, bydd angen y canlynol arnoch hefyd:
- enw’r person sy’n cario’r nwyddau
- enw a chyfeiriad eich asiant tollau (os ydych yn defnyddio un)
- cyfansymiau gwerth a phwysau’r nwyddau
- y lleoliad lle cafodd y nwyddau eu gwneud (gwlad tarddiad y nwyddau)
- manylion eich cerdyn talu
- rhif cofrestru’r cerbyd os ydych yn teithio gyda cherbyd
Os ydych yn asiant tollau, dylech ofyn i’ch cleient gael rhif EORI cyn i chi ddatgan ar ei ran.
Cyfrifo’ch taliad
Os oes angen i chi gyfrifo gwerth eich nwyddau mewn punnoedd sterling (GBP), dylech ond defnyddio cyfraddau cyfnewid CThEF. Bydd y gwasanaeth hwn yn trosi’r gwerth i chi gan ddefnyddio’r cyfraddau hyn.
Ar gyfer nwyddau sydd wedi eu cynhyrchu y tu allan i’r UE, ac sydd wedi eu datgan gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, codir Toll Dramor arnynt ar gyfradd unffurf o 3.3%. Nid oes toll i’w thalu ar nwyddau’r UE. Yna, codir TAW ar y swm cyfunol o doll a gwerth y nwyddau.
Os nad ydych eisiau talu toll ar y gyfradd unffurf hon (er enghraifft, oherwydd bod cyfradd y Doll Dramor yn llai na 3.3%), gallwch wneud un o’r canlynol:
- datganiad mewnforio llawn (yn agor tudalen Saesneg)
- datganiad ar lafar wrth y sianel ‘nwyddau i’w datgan’ neu gan ddefnyddio’r ffôn pwynt coch sydd yn yr ardal dollau, er mwyn datgan eich nwyddau a thalu’r swm sydd arnoch — mae’n rhaid i’ch nwyddau fodloni’r holl amodau ar gyfer gwneud datganiad ar-lein syml
Gallwch wirio’r rhestr o feysydd awyr a phorthladdoedd yn y DU sydd â sianeli coch a ffonau pwynt coch (yn agor tudalen Saesneg).
Datgan eich nwyddau
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn ar gyfer nwyddau masnachol a gaiff eu cludo mewn bagiau sy’n dod gyda chi neu mewn cerbydau bach, er mwyn gwneud y canlynol:
- gwneud datganiad newydd
- ychwanegu nwyddau at ddatganiad yr ydych wedi ei wneud eisoes
Y cynharaf y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn er mwyn datgan a thalu yw 5 diwrnod cyn i chi ddod i mewn i Brydain Fawr.
Datgan nwyddau a wneir neu a gynhyrchir yn yr UE
Pan fyddwch yn datgan eich nwyddau masnachol, mae angen i chi ddatgan pob eitem y gwnaethoch ei phrynu. Pan fyddwch yn datgan eich eitemau, efallai na fydd angen i chi dalu Toll Dramor ar eitemau lle mae’r canlynol i gyd yn wir:
- cawsant eu tyfu neu eu gwneud yn yr UE gan ddefnyddio cynhwysion neu ddeunyddiau o’r UE yn unig
- gwnaethoch eu prynu yn yr UE
- rydych yn dod â nhw i mewn o un o wledydd yr UE
Os ydy’r rhain yn wir, gallwch elwa o’r trefniadau ffafriol a pheidio â thalu Toll Dramor (yn agor tudalen Saesneg). Mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir:
- rydych yn meddu ar dystiolaeth bod y rhain yn wir am bob eitem rydych yn hawlio’r cyfraddau hyn ar ei chyfer
- byddwch yn gallu dangos y dystiolaeth hon os bydd swyddog Llu’r Ffiniau yn gofyn amdani
Mae lefel y dystiolaeth sydd ei hangen arnoch yn dibynnu ar gyfanswm gwerth yr holl eitemau rydych yn hawlio’r cyfraddau hyn ar eu cyfer.
Os yw cyfanswm y gwerth yn llai na £1,000
Os yw cyfanswm gwerth yr holl eitemau rydych yn eu datgan yn llai na £1,000, gall y dystiolaeth ar gyfer pob eitem fod ar ffurf:
- label neu becyn yn dangos iddi gael ei thyfu neu ei gwneud yn yr UE
- tystiolaeth iddi gael ei gwneud â llaw neu ei thyfu yn yr UE (er enghraifft, dogfen neu nodyn ysgrifenedig gan y person neu’r busnes y gwnaethoch ei phrynu oddi wrtho)
Efallai y bydd un o swyddogion Llu’r Ffiniau yn gofyn am gael gweld y dystiolaeth hon. Os na allwch ddangos hyn, bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw Doll Dramor sydd arnoch.
Os yw cyfanswm y gwerth dros £1,000
Os yw cyfanswm gwerth yr holl eitemau rydych yn eu datgan dros £1,000, gallwch hawlio Toll Dramor ar gyfradd sero os gallwch brofi bod pob eitem wedi’i thyfu neu ei gwneud yn yr UE.
Gall y dystiolaeth hon fod ar ffurf anfoneb neu ddogfen gan y cynhyrchydd neu weithgynhyrchydd yn yr UE, sy’n nodi’r nwyddau’n glir, ac sy’n cynnwys ‘datganiad tarddiad’.
Mae’r ‘datganiad tarddiad’ yn eiriad ffurfiol gan y cynhyrchydd neu’r gweithgynhyrchydd sy’n cadarnhau’r canlynol:
- statws tarddu o’r UE yr eitemau
- ei rif allforiwr cofrestredig (os yw cyfanswm gwerth yr holl eitemau rydych yn eu datgan dros £5,500)
Er mwyn profi hyn, gallech hefyd ddangos eich bod yn gwybod sut y cafodd yr eitemau eu gwneud yn yr UE. Gallwch brofi hyn drwy ddefnyddio dogfennau neu gofnodion sy’n dangos bod gennych ‘wybodaeth y mewnforiwr’ (yn agor tudalen Saesneg).
Efallai y bydd un o swyddogion Llu’r Ffiniau yn gofyn am gael gweld y dystiolaeth hon. Os na allwch ddangos hyn, bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw Doll Dramor sydd arnoch.
Ar ôl i chi ddatgan eich nwyddau
Unwaith y byddwch wedi dod at un o fannau cyrraedd Prydain Fawr gyda’ch eitemau, gwiriwch beth mae angen i chi ei ddatgan (yn agor tudalen Saesneg).
Os gwnaethoch ddatganiad ar-lein syml
Os ydych wedi datgan eich holl nwyddau gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i ddatgan nwyddau mewn bagiau cyn i chi gyrraedd, gallwch fynd drwy’r sianel werdd (dim byd i’w ddatgan). Ewch â’ch datganiad a’ch anfonebau neu dderbynebau gyda chi.
Os ydych wedi gwneud datganiad llawn
Os ydych wedi cyflwyno datganiad tollau llawn drwy ddefnyddio meddalwedd datgan tollau, bydd angen i’ch datganiad fod â statws ‘wedi cyrraedd’.
Cael ad-daliad
Mae proses wahanol er mwyn cael ad-daliadau ar gyfer nwyddau masnachol.
Os byddwch yn cyrraedd heb wneud datganiad ar-lein syml
Os byddwch yn cyrraedd gyda nwyddau nad ydych wedi eu datgan gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i ddatgan nwyddau mewn bagiau, bydd angen i chi eu datgan.
Gallwch wneud datganiad ar lafar wrth y sianel goch ‘Nwyddau i’w Datgan’ neu’r ffôn pwynt coch sydd yn yr ardal dollau. Gallwch ond gwneud hynny os yw cyfanswm gwerth eich nwyddau yn £2,500 neu lai, a bod y nwyddau’n bodloni’r holl amodau eraill ar gyfer gwneud datganiad ar-lein syml.
Gwiriwch y rhestr o feysydd awyr a phorthladdoedd yn y DU sydd â sianeli coch a ffonau pwynt coch (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
-
Welsh translation has been added.
-
The threshold of the maximum value for making simplified declarations of merchandise in baggage has risen to £2,500.
-
You must now arrive your declaration while the goods are at the customs border, rather than within 24 hours.
-
Information about Customs Handling of Import and Export Freight (CHIEF) has been removed. You can no longer use CHIEF for import declarations unless you have permission from HMRC.
-
A link to a list of ports and airports with red channels or red phone points has been added.
-
This page has been updated with information about how to add items to your declaration and declaring items brought into Great Britain from the EU.
-
First published.