Canllawiau

Datgan nad ydych yn cyflwyno ffurflen cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A

Defnyddiwch y ffurflen hon os yw CThEF wedi anfon P11D(b) atoch ac nid ydych wedi rhoi treuliau a buddiannau trethadwy i gyflogeion.

Dim ond os yw’r canlynol yn wir y mae angen i chi roi gwybod i CThEF nad oes angen i chi gyflwyno ffurflen cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A:

  • rydym wedi anfon P11D(b) atoch neu lythyr i’ch atgoffa ynghylch eich ffurflen P11D(b)
  • nid ydych wedi talu unrhyw dreuliau na buddiannau trethadwy i unrhyw gyflogeion

Cyn i chi ddechrau

Os ydych yn gyflogwr, bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfeirnod TWE y Cyflogwr
  • enw’r cyflogwr
  • cod post y busnes
  • dynodydd defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth — Os nad oes gennych ID, gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein

Os ydych yn asiant, bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich enw
  • cyfeirnod TWE yr asiant
  • enw cyswllt
  • rhif ffôn cyswllt
  • cyfeiriad e-bost

Dechrau nawr

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 June 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 July 2024 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.

Sign up for emails or print this page