Canllawiau

Galluogrwydd Radar Uwch y Gofod Pell (DARC)

Mae cynigion yn cael eu datblygu gan Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) y DU ynghylch dyfodol Barics Cawdor fel rhan o raglen Gallu Radar Uwch y Gofod Pell (DARC).

Mae cynigion yn cael eu datblygu gan Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) y DU ynghylch dyfodol Barics Cawdor fel rhan o raglen Gallu Radar Uwch y Gofod Pell (DARC), cytundeb strategol rhwng yr Unol Daleithiau, Awstralia, a’r DU i ddarparu gwaith monitro gofod byd-eang 360° i ganfod, olrhain, canfod a nodweddu gwrthrychau yn y gofod pell (hyd at tua 36,000km).

Gwybodaeth am DARC

Mae gofod yn hanfodol i’r wlad ac mae’n chwarae rhan hollbwysig yn ein bywydau bob dydd. Mae gwasanaethau’r gofod, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu darparu gan loerennau, yn sail i sawl agwedd ar fywyd modern, e.e. galluogi mordwyo, monitro’r hinsawdd, rhagweld y tywydd, cefnogi ein gwasanaethau brys, cefnogi ein Seilwaith Cenedlaethol Hanfodol a diogelu’r cyhoedd. Mae deall beth sydd yn y gofod yn hanfodol i fuddiannau’r DU, yn enwedig wrth i’r gofod fynd yn fwy prysur gyda lloerennau a malurion.

Byddai’r bwriad i ailddatblygu Barics Cawdor (yr hen RAF Breudeth) ar gyfer rhaglen DARC yn helpu i ddiogelu ein ffyniant a’n diogelwch cenedlaethol nawr ac yn y dyfodol. Drwy wella ein hymwybyddiaeth a’n dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd yn y gofod, gallwn barhau i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn ddiogel, yn gynaliadwy ac yn hygyrch i bawb.

Cyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2016 y byddai Barics Cawdor, sy’n gartref i 14 o Gatrodau Signalau (Rhyfela Electronig), yn cau ac ar hyn o bryd bwriedir gwneud hyn heb fod ynghynt na 2028. Mae datblygu’r safle ar gyfer DARC yn helpu i gadw’r safle ar agor, gyda phresenoldeb parhaol o hyd at 100 o staff i weithredu DARC.

Y cynigion

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi ymrwymo i ymgymryd â’r holl brosesau cynllunio ac amgylcheddol angenrheidiol sy’n ofynnol i gael caniatâd cynllunio ar gyfer y safle arfaethedig ac ar gyfer ei weithredu’n ddiogel. Mae Asesiad Effaith Amgylcheddol cynhwysfawr (gan gynnwys Asesiad o’r Effaith ar y Dirwedd a’r Effaith Weledol) yn mynd rhagddo i gefnogi ein cais cynllunio i Gyngor Sir Penfro ac mae cael caniatâd cynllunio ganddynt yn amodol ar sicrhau bod DARC yn bodloni’r holl safonau diogelwch gofynnol. 

Yn benodol, bydd prosesau diogelwch y Weinyddiaeth Amddiffyn yn sicrhau bod DARC yn bodloni safonau amgylcheddol ac iechyd rhyngwladol fel y’u pennir gan y Comisiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu rhag Ymbelydredd nad yw’n Ioneiddio (ICNIRP) a Sefydliad Iechyd y Byd, ac mae hyn yn arfer safonol ar gyfer holl osodiadau’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Ymgysylltu â’r Cyhoedd

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn dymuno gweithio gyda’r gymuned leol i ddatblygu cynigion ar gyfer DARC a chynhelir dau ddigwyddiad gwybodaeth lleol i’r cyhoedd cyn y cyfnod ymgynghori statudol sy’n ofynnol gan Gyngor Sir Penfro. Bydd aelodau o dîm rhaglen DARC y Weinyddiaeth Amddiffyn yn dod i’r digwyddiadau hyn i drafod y cynigion, i ateb unrhyw gwestiynau ac i glywed barn y gymuned leol.

Cynhelir y digwyddiadau gwybodaeth i’r cyhoedd dros y cyfnod 13-14 Medi.

Dydd Gwener 13 Medi 2024

4pm-7pm
Neuadd Goffa Solfach
39 Stryd Fawr
Solfach
Hwlffordd
SA62 6TE

Dydd Gwener 14 Medi 2024

10am-2pm
Neuadd y Ddinas Tyddewi
Stryd Fawr
Tyddewi
Hwlffordd
SA62 6SD

Cliciwch yma i ymuno â’n rhestr bostio

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r tîm technegol sy’n hwyluso’r gwaith o ymgysylltu â’r cyhoedd:

Consultation@cascadecommunications.co.uk

020 7871 3565

Bydd yr holl ddata a dderbynnir yn cael ei brosesu gan Cascade Communications ar ran tîm y prosiect, a bydd yn cael ei gadw yn unol â deddfwriaeth diogelu data berthnasol gan gynnwys y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Ni fydd eich data’n cael ei gadw am fwy na phum mlynedd. Bydd eich gwybodaeth gyswllt yn cael ei defnyddio i anfon yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect hwn yn unig. Mae rhagor o fanylion ar gael yn natganiad preifatrwydd Cascade, sydd ar gael yn www.cascadecommunications.co.uk.

Gwybodaeth berthnasol

Strategaeth Gofod Genedlaethol

Strategaeth Gofod y Weinyddiaeth Amddiffyn

Datganiad i’r wasg gan y Weinyddiaeth Amddiffyn

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 August 2024

Sign up for emails or print this page