Canllawiau

Anghytundebau ac anghydfodau o fewn elusennau

Datrys anghydfodau rhwng ymddiriedolwyr, staff neu aelodau eich elusen er mwyn osgoi rhoi arian a defnyddwyr eich elusen mewn perygl.

Yn berthnasol i England and Gymru

Pam mae anghydfodau mewnol yn broblem

Weithiau bydd ymddiriedolwyr elusen, staff ac aelodau yn anghytuno â’i gilydd ynghylch penderfyniadau am yr elusen.

Gall anghytundeb difrifol o fewn elusen achosi problemau i’r elusen a niweidio ei henw da.

Eich cyfrifoldeb chi fel ymddiriedolwyr yw ceisio datrys anghytundeb neu anghydfod. Gall y Comisiwn Elusennau weithredu mewn amgylchiadau eithriadol yn unig.

Sut i ddatrys anghydfod eich hun

Gall dogfen lywodraethol eich elusen gynnwys ‘cymal anghydfodau’ gyda gweithdrefnau ar gyfer delio ag anghydfod. Hyd yn oed os nad yw, dylech wneud popeth a allwch i ddod i gytundeb eich hunain.

Pryd i gael cymorth allanol

Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr elusen ac aelodau gydweithio i ddatrys unrhyw anghytuno sydd rhyngddynt. Os na all eich ymddiriedolwyr ddod i gytundeb a dilyn y cyfarwyddiadau yn eich dogfen lywodraethol, efallai y bydd rhaid i chi geisio ychydig o gymorth allanol annibynnol.

Bydd trydydd parti annibynnol yn edrych ar y ddwy ochr ac yn cynnig rhai ffyrdd newydd o ddatrys yr anghydfod.

Os yw’r anghydfod yn ymwneud â’r ffordd y mae’ch elusen yn cael ei rhedeg, gallech:

  • gysylltu â chorff cenedlaethol neu gorff mantell yr elusen, os oes un ganddi
  • cysylltu â sefydliad megis y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS)
  • gofyn i arweinydd eglwys lleol neu hynafgwr cymunedol am gymorth, os yw’n anghydfod crefyddol

Cyfryngu

Mae cyfryngu yn ffordd fwy ffurfiol o ddatrys anghydfodau. Mae’n broses breifat a chyfrinachol lle mae unigolyn annibynnol yn cwrdd â’r ddwy ochr, ac yn eu helpu i gael hyd i ateb sy’n dderbyniol i bawb.

Gall cyfryngu fod yn gyflym ac yn gost-effeithiol. Drwy gyfryngu, mae’n rhaid i’r ddwy ochr gytuno i unrhyw ateb, felly mae’n fwy tebygol o fod yn gytundeb sy’n para.

Os yw’ch anghydfod yn mynd i’r llys, disgwylir i chi fod wedi rhoi cynnig ar gyfryngu yn gyntaf.

Mae gan y Y Weinyddiaeth Gyfiawnder rwydwaith o gyfryngwyr.

Pryd i gynnwys y comisiwn

Gall y comisiwn ymwneud ag anghydfodau mewnol dim ond:

  • os nad oes unrhyw ymddiriedolwyr (neu ymddiriedolwyr wedi’u penodi’n gywir) yn eu swydd, a
  • gallwch ddangos bod pob ymdrech i ddatrys yr anghydfod wedi methu

Mae’n rhaid i unrhyw ymddiriedolwyr fod wedi cael eu penodi drwy ddilyn y cyfarwyddiadau yn nogfen lywodraethol eich elusen. Os nad oes unrhyw ymddiriedolwyr wedi’u penodi’n briodol gennych chi, gall y comisiwn weithredu i’ch helpu i gael corff llawn o ymddiriedolwyr.

Os yw’r comisiwn yn gweld tystiolaeth o gamymddygiad neu gamreoli sy’n rhoi arian a defnyddwyr eich elusen mewn perygl, bydd yn gweithredu ac yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd.

Hyd yn oed ar ôl i’r comisiwn weithredu, mae’n rhaid i’ch ymddiriedolwyr gydweithio i gael hyd i ateb. Os yw’r comisiwn yn meddwl na fydd modd datrys yr anghydfod, gall dynnu ei gymorth yn ôl neu hyd yn oed gyfarwyddo’ch elusen i atal gweithredu a dirwyn i ben.

Pryd na fydd y comisiwn yn gweithredu

Ni fydd y comisiwn yn gweithredu os yw’ch anghydfod yn ymwneud â phenderfyniadau neu bolisïau ymddiriedolwyr. Mae ymddiriedolwyr yn rhydd i wneud penderfyniadau ar gyfer eu helusen, ar yr amod eu bod yn gweithredu o fewn y gyfraith ac o fewn rheolau dogfen lywodraethol yr elusen.

Gall fod sefydliadau eraill sydd mewn sefyllfa well i weithredu mewn rhai anghydfodau arbennig. Er enghraifft, gwnewch gais i dribiwnlys cyflogaeth ar gyfer materion cyflogaeth gan gynnwys diswyddo annheg.

Cysylltwch â’r comisiwn dim ond os yw pob ymgais i ddatrys y mater wedi methu ac nid oes unrhyw ymddiriedolwyr wedi’u penodi’n briodol gennych chi. Bydd rhaid i chi roi tystiolaeth ysgrifenedig am yr anghydfod.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 May 2013

Sign up for emails or print this page