Diwydrwydd dyladwy wrth wneud datganiadau tollau
Gwybodaeth am sicrhau diwydrwydd dyladwy wrth wneud datganiadau tollau.
Eich cyfrifoldebau fel masnachwr tollau
Cyn i chi benderfynu cymryd rhan mewn cadwyn gyflenwi, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth yw eich cyfrifoldebau o ran y tollau.
Dylech gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau nad yw trafodion eich cwmni yn arwain at weithgarwch twyllodrus.
Chi sy’n gyfrifol am wybod pa reolau sy’n berthnasol i’r gwaith rydych chi’n ei wneud a pha dollau allai fod yn daladwy.
Os nad ydych yn cymryd gofal priodol, gallech gael eich hun mewn sefyllfa lle y byddwch yn agored i dollau tramor ychwanegol a dyledion TAW mewnforio oherwydd camddatganiadau a wnaed gennych chi, neu gan unrhyw un sy’n eich cynrychioli ar eich datganiadau tollau.
Penodi cynrychiolydd tollau
Cewch benodi cynrychiolydd tollau i weithio ar eich rhan. Mae cynrychiolwyr yn cyflawni gweithgareddau fel:
-
brocer tollau
-
hwylusydd anfon nwyddau, a elwir weithiau’n asiant cludo nwyddau neu’n asiant tollau
-
darparwr logisteg
-
cludwr cyflym
Os ydych chi’n dewis defnyddio cynrychiolydd tollau mewn unrhyw drafodyn, bydd angen i chi hefyd benderfynu sut y bydd yn eich cynrychioli. Gallwch ddysgu rhagor am gael rhywun i ymdrin â’r tollau ar eich rhan (yn agor tudalen Saesneg).
Pan fydd CThEF yn archwilio diwydrwydd y cynrychiolydd tollau, byddwn yn ystyried y canlynol:
-
pa dystiolaeth sydd ar gael o’r archwiliadau masnachol a gyflawnwyd
-
pa ymatebion a gafwyd
-
a oedd yr archwiliadau’n ddigonol
-
sut yr ymatebodd y cynrychiolydd i’r canlyniadau
Byddwn hefyd yn archwilio’r canlynol:
-
y math o gynrychiolaeth a ddefnyddir
-
pa awdurdod a roddwyd gan y person a oedd yn cael ei gynrychioli
-
pa gyfarwyddiadau a gafwyd i baratoi’r datganiadau
Drwy arfer diwydrwydd dyladwy a chynnal asesiadau risg, byddwch yn helpu i wneud yn siŵr bod eich busnes yn cael ei reoli’n effeithiol. Byddwch yn cymryd camau i osgoi cael eich dal mewn twyll yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi.
Gwybodaeth a dogfennau
Eich cyfrifoldeb chi yw cael digon o wybodaeth ysgrifenedig er mwyn i chi fod yn dawel eich meddwl am y canlynol:
-
cywirdeb neu gyflawnder yr wybodaeth a’r datganiadau sy’n ofynnol i lunio’r datganiad tollau
-
y dogfennau sydd ynghlwm wrth y datganiad
-
bod y gweithrediadau’n cydymffurfio â’r rheolau sydd mewn grym
Sut i ganfod twyll posibl yn y gadwyn gyflenwi
O ran y sawl yr ydych yn delio â nhw, dylech fod yn amheus ohonynt os byddant yn rhannu un o’r nodweddion canlynol:
-
cwmnïau sydd newydd eu sefydlu neu sydd wedi’u hymgorffori’n ddiweddar sydd heb hanes ariannol na hanes masnachu
-
cwmnïau sy’n newid eu math o fusnes i sector hollol wahanol
-
cysylltiadau sydd heb lawer o wybodaeth am y farchnad neu’r cynnyrch
-
sefydliadau sy’n cysylltu â chi’n ddigymell ac sy’n cynnig elw hawdd ar swmp mawr o eitemau neu eitemau uchel eu gwerth ac heb unrhyw risg amlwg
-
cyflenwyr sy’n honni drwy’r amser eu bod yn gwerthu stoc cwmnïau sydd wedi mynd i’r wal neu hen stoc
-
cyfarwyddiadau i wneud taliadau i drydydd partïon neu i gyfrifon tramor
-
cyfarwyddiadau i wneud taliadau arian parod yn unig
-
cyfarwyddiadau i wneud cyfandaliadau mawr ar gyfer mwy nag un anfoneb
-
unigolion sydd â hanes blaenorol o fasnachu cyfanwerthol mewn nwyddau ‘gwerth uchel, nifer isel’ fel cydrannau cyfrifiaduron a ffonau symudol
-
symiau gwerthu mor isel sy’n gwneud i chi amau a ydynt yn fasnachol hyfyw
-
benthyciad heb ei warantu gyda chyfraddau llog a/neu delerau afrealistig
-
cyfarwyddiadau i dalu llai na’r pris llawn (ac yn aml, hyd yn oed yn llai na’r TAW a anfonebwyd) i’r cyflenwr
-
cwmnïau sefydledig ond a brynwyd yn ddiweddar gan berchnogion newydd nad oes ganddynt gysylltiad blaenorol â’ch sector
-
cwmnïau newydd a reolir gan unigolion heb unrhyw wybodaeth flaenorol am y cynnyrch, sy’n cyflogi arbenigwyr o’r sector
-
endidau sy’n masnachu o adeiladau preswyl neu adeiladau/swyddfeydd wedi’u gwasanaethu ar les tymor byr
-
masnachwr neu gyfarwyddwr na ellir cysylltu ag ef yn uniongyrchol, sydd â chynrychiolydd penodedig yn y DU
-
cwmnïau sy’n ymddangos yn amharod i ddangos eu cyfleusterau gweithgynhyrchu i chi neu i drefnu cyfarfod wyneb yn wyneb â chi
-
contractau rhwng partïon y credir nad oes cysylltiad rhyngddynt ond sy’n defnyddio fformatau sy’n union yr un fath
Nid yw’r rhestr yn gynhwysfawr. Mae’n bosibl y byddwch chi’n sylwi ar arwyddion eraill.
Eich cyfrifoldebau fel asiant tollau
Mae asiantau tollau yn chwarae rhan bwysig o ran helpu masnachwyr i gyflawni eu cyfrifoldebau tollau. Os ydych chi’n gweithredu fel asiant tollau, dylech wneud y canlynol:
-
cytuno’n ysgrifenedig eich bod yn cynrychioli masnachwr mewn capasiti uniongyrchol neu anuniongyrchol
-
cadw mewn cysylltiad â’ch masnachwr, a sicrhau eich bod yn cael gwybod am unrhyw newidiadau i’w fusnes
-
cadw o fewn amodau eich awdurdodiad pan fyddwch yn defnyddio prosesau hyrwyddo tollau
-
cytuno â’ch masnachwr sut bydd y tollau mewnforio perthnasol yn cael eu talu i CThEF, a sicrhau bod digon o arian neu warannau ar gael i dalu unrhyw dollau mewnforio sy’n ddyledus (os ydych chi’n defnyddio cyfrif gohirio rhywun arall, mae’n rhaid cyflwyno awdurdodiad ysgrifenedig i CThEF gan ddeiliad y cyfrif gohirio)
-
cytuno â’ch masnachwr sut y rhoddir cyfrif i CThEF am y TAW mewnforio sy’n ddyledus, gan sicrhau mai dim ond dan gyfarwyddyd eich masnachwr y dylech chi ddefnyddio’r drefn gyfrifyddu gohirio TAW
Sefydliad yn y DU
Os ydych chi’n cynrychioli cwsmer yn uniongyrchol, mae angen i chi wirio a yw’r busnes yn sefydledig yn y DU (yn agor tudalen Saesneg). Os ydych chi’n cynrychioli cwsmer yn uniongyrchol ac yn defnyddio eich awdurdodiad ar gyfer prosesau mewnforio symlach, dylech sicrhau bod y busnes yn sefydledig yn y DU a’i fod yn mewnforio nwyddau i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr, yr Alban).
Os nad yw busnes yn sefydledig yn y DU, gallwch chi ddim ond ei gynrychioli mewn capasiti anuniongyrchol, sy’n golygu y byddwch yn atebol ar y cyd.
Archwiliadau diwydrwydd dyladwy ar eich masnachwr
Mae CThEF yn disgwyl i asiantau tollau gynnal gwiriadau ar fasnachwr, er enghraifft, i ddangos ei allu i dalu dyledion tollau sy’n codi wrth fewnforio mathau penodol o nwyddau. Gall y gwiriadau hyn gynnwys y canlynol:
-
gwirio ble mae’r busnes wedi’i gofrestru
-
dangos bod gan y busnes ei gyfrifon banc ei hun
-
darparu set o gyfrifon ariannol blynyddol, gan gynnwys cyfrifon masnachu a mantolenni
-
dangos solfedd ariannol neu deilyngdod credyd, gan gynnwys a yw cwmni’n destun datodiad neu yn nwylo’r gweinyddwr
-
dangos nad ydynt yn destun achos methdaliad neu orchymyn dyfarniad llys sirol (CCJ) am ddyledion heb eu talu
-
sicrhau bod gan eich cwsmer yr ardystiadau a’r trwyddedau priodol mewn grym cyn i’r nwyddau gael eu mewnforio, yn dibynnu ar y mathau o nwyddau yr ydynt
-
sicrhau bod eich masnachwr wedi cymryd y camau angenrheidiol i wneud yn siŵr nad yw ei gadwyn gyflenwi yn rhan o weithgarwch twyllodrus
Nid yw’r rhestr yn gynhwysfawr. Mae’n bosibl y byddwch yn dewis cynnal gwiriadau eraill.
Defnyddio eich awdurdodiad ar gyfer prosesau symlach
Mae CThEF yn disgwyl i asiantau tollau gynnal archwiliadau diwydrwydd dyladwy wrth ddefnyddio eu hawdurdodiad prosesau symlach. Dylech hefyd wneud y canlynol:
-
cael caniatâd ysgrifenedig os ydych chi’n defnyddio cyfrif gohirio tollau eich masnachwr (mae’n rhaid i’ch masnachwr gyflwyno ei awdurdodiad ysgrifenedig i CThEF cyn i chi ddechrau gweithredu ar ei ran)
-
cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y lefel gohirio yn cael ei chynnal i dalu pob dyled sy’n codi
-
gwirio a yw’r nwyddau sy’n cael eu mewnforio yn nwyddau a reolir ac a ydynt yn gymwys ar gyfer prosesau symlach (er enghraifft, nwyddau ecseis a chyffuriau a reolir)
Nid yw’r rhestr yn gynhwysfawr. Mae’n bosibl y byddwch yn dewis cynnal gwiriadau eraill.
Dylech gysylltu â CThEF os credwch eich bod yn cynrychioli masnachwr a allai fod yn ymddwyn yn dwyllodrus neu os nad yw’n cydymffurfio â’r rheolau yn eich barn chi.
Os ydych chi’n defnyddio gweithdrefn rhyddhad tollau neu ohirio tollau
Os ydych chi’n bwriadu gwneud datganiad yn hawlio rhyddhad Tollau Tramor neu TAW mewnforio, neu’r ddau, naill ai’n bersonol neu drwy eich cynrychiolydd, mae gennych gyfrifoldebau penodol. Dylech hefyd wirio eich bod:
-
yn deall y rhyddhad rydych yn bwriadu ei hawlio
-
yn gallu cydymffurfio â’r amodau a’r rhwymedigaethau ar gyfer y rhyddhad
Os ydych chi’n gynrychiolydd tollau, rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich cleient yn deall gofynion y drefn.
Sut i leihau’r risg o osgoi treth
Elfen hanfodol o’ch trefniadau diwydrwydd dyladwy yw cyflawni’r gwiriadau cywir er mwyn i chi allu sicrhau mai’r person rydych chi’n delio ag ef yw’r person y mae’n honni ei fod. Bydd hyn yn helpu i’ch diogelu rhag cymryd rhan mewn osgoi treth.
Gwiriwch a yw cwsmeriaid a chyflenwyr newydd, neu ddarpar gwsmeriaid a darpar gyflenwyr, wedi’u cofrestru at ddibenion TAW
Gallwch wirio a yw cwsmeriaid a chyflenwyr newydd, neu ddarpar gwsmeriaid a darpar gyflenwyr, wedi’u cofrestru at ddibenion TAW yn y DU ar hyn o bryd drwy wirio eu rhif TAW.
Defnyddiwch y System Cyfnewid Gwybodaeth TAW (VIES) (yn agor tudalen Saesneg) ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd i gadarnhau a yw:
-
cwsmeriaid neu gyflenwyr wedi cofrestru at ddibenion TAW mewn aelod-wladwriaeth yn yr UE
-
busnes sydd wedi cofrestru at ddibenion TAW yn y DU yn masnachu o dan delerau fframwaith Windsor
Fodd bynnag, cofiwch er y gallai’r gwiriad hwn ddilysu’r manylion cofrestru TAW, nid yw hyn yn gwarantu statws eich cyflenwyr a’ch cwsmeriaid. Dylech barhau i wneud eich ymholiadau eich hun cyn gwneud unrhyw drafodion.
Dilysu rhif EORI
Mae’n rhaid i chi gael rhif EORI os ydych chi’n cynnal gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thollau gyda busnesau y tu allan i’r DU.
Gallwch ddefnyddio’r system olrhain EORI i ddilysu rhifau EORI sy’n dechrau gyda GB. Fodd bynnag, mae’n bosibl bod deiliad y rhif EORI wedi dewis peidio â chyhoeddi ei fanylion ar-lein. Felly, ar gyfer rhai rhifau EORI, y cyfan y gall y system ei wneud yw cadarnhau bod y rhif yn ddilys. Ni fydd yn dangos i bwy y mae’r rhif wedi’i neilltuo. Golyga hyn na allwch warantu bod y rhif EORI yn perthyn i’ch cyflenwyr a’ch cwsmeriaid.
Dylech barhau i wneud eich ymholiadau eich hun cyn gwneud unrhyw drafodion.
Rhoi gwybod am achosion o osgoi treth
Gallwch roi gwybod i CThEF os ydych chi’n credu bod rhywun neu rywrai yn osgoi talu treth yn anghyfreithlon drwy wneud y canlynol:
-
cysylltu â llinell gymorth Twyll CThEF drwy ffonio 0300 200 1900
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Rhagfyr 2017Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Ionawr 2025 + show all updates
-
Added translation
-
The 'Your responsibilities as a customs agent' section has been updated to include information on agreeing with your trader how the incurred import VAT is accounted for to HMRC.
-
The 'Using your authorisation for simplified processes' section has been updated to remove reference to delayed declarations.
-
This page has been updated because the Brexit transition period has ended. Details about your responsibilities as a customs agent and how to verify if customers or suppliers are VAT registered have been added.
-
First published.