Canllawiau

Canfod a oes gan berson gofnod o droseddau cam-drin plant yn rhywiol

Mae’r Cynllun Datgelu Troseddwyr sy’n Cam-Drin Plant yn Rhywiol yn gadael i’r rheini sy’n gofalu am bobl ifanc gael gwybod a oes gan berson gofnod o droseddau cam-drin plant yn rhywiol.

Trosolwg

Dan y Cynllun Datgelu Troseddwyr sy’n Cam-Drin Plant yn Rhywiol, gall yr heddlu ddweud wrth rieni, gofalwyr a gwarcheidwad os oes gan rywun gofnod o droseddau cam-drin plant yn rhywiol.

Nod y cynllun yw cadw plant yn ddiogel.

Ffoniwch 999 os ydych chi’n meddwl bod y plentyn mewn perygl uniongyrchol.

Gwybodaeth am y cynllun

Mae’r rhan fwyaf o blant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol yn adnabod eu troseddwr. Yn aml, maent yn aelod o’r teulu, yn ffrind i’r dioddefwr, neu’n ffrind i deulu’r dioddefwr.

Dechreuodd y Cynllun Datgelu Troseddwyr sy’n Cam-Drin Plant yn Rhywiol yn 2008, ac fe’i datblygwyd mewn ymgynghoriad â Sara Payne, sef cyn-hyrwyddwr dioddefwyr, ynghyd â’r heddlu ac elusennau plant.

Cafodd y peilot ei werthuso’n annibynnol, a gallwch ddarllen yr evaluation report (PDF, 548 KB, 47 pages).

Gwneud cais i’r cynllun

Gallwch wneud cais i’r Cynllun Datgelu Troseddwyr sy’n Cam-Drin Plant yn Rhywiol yng Nghymru a Lloegr. Mae cynlluniau tebyg ar gael yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cael rhagor o wybodaeth

Fel rhan o’r ymgyrch i ddiogelu plant rhag niwed, mae’r Lucy Faithful Foundation wedi creu gwefan, Parents Protect!.

Nod y wefan yw codi ymwybyddiaeth o gam-drin plant yn rhywiol, ateb cwestiynau a rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar rieni a gofalwyr i’w atal.

Mae rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar gael os ydych chi’n poeni bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o gael ei gam-drin.

Hefyd, mae rhagor o wybodaeth ar gael am gadw plant yn ddiogel ar-lein, gan gynnwys adnoddau, cyngor a gwybodaeth am ble i fynd i gael cymorth.

Rhagor o wybodaeth i ymarferwyr

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 March 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 April 2023 + show all updates
  1. Added reference to Sarah's Law.

  2. Removed some outdated links.

  3. Added translation

  4. Guidance updated.

  5. First published.

Sign up for emails or print this page