Codi arian mewn modd cyfreithiol a chyfrifol
Sut i godi arian yn effeithiol ac yn gyfreithiol, gan ddiogelu ffydd a hyder y cyhoedd yng ngwaith eich elusen.
Yn berthnasol i England and Gymru
Dulliau codi arian
Mae sawl ffordd o godi arian, er enghraifft:
- casgliadau cyhoeddus, o ddrws i ddrws neu godi arian ar y stryd
- hapchwarae, megis lotrïau a rafflau
- digwyddiadau, er enghraifft ffeiriau stryd
- ar-lein, ar y teledu neu dros y ffôn
Gallwch gynllunio sut i godi arian yn fwy effeithiol drwy ystyried:
- faint rydych am ei godi - oes rhywbeth arbennig rydych am ddefnyddio’r arian ar ei gyfer ac a oes angen lleiafswm arnoch?
- yr amserlen - os ydych yn codi arian ar gyfer diben penodol dylech osod dyddiad dechrau a gorffen ar gyfer eich gweithgareddau
- pwy fydd yn codi’r arian - fyddwch chi’n hurio gweithwyr proffesiynol i godi arian, yn codi arian eich hun neu’n recriwtio gwirfoddolwyr?
- diben y gweithgaredd - ydych chi’n ceisio codi arian neu godi ymwybyddiaeth yn unig?
Sefydliad Siartredig Codi Arian lawer o syniadau i’ch helpu i ddechrau codi arian, yn ogystal ag arweiniad ar fod yn ddiogel a dilyn y gyfraith.
Cyfreithiau a rheoleiddio codi arian
Sut bynnag rydych yn dewis codi arian, dylech gael systemau effeithiol yn eu lle er mwyn sicrhau bod eich elusen yn cydymffurfio â’r gyfraith a dyletswyddau cyfreithiol codi arian.
Mae canllaw’r comisiwn ar godi arian yn amlinellu 6 egwyddor i helpu ymddiriedolwyr i gydymffurfio â’u dyletswyddau cyfreithiol.
Y 6 egwyddor yw:
- cynllunio’n effeithiol - amlinellu, cytuno a monitro eich dull o godi arian
- goruchwylio eich codwyr arian - sefydlu system i orchwylio eich dulliau codi arian a’r codi arian rydych yn ei wneud ar ran yr elusen
- diogelu eich elusen - sicrhau bod rheolaeth gryf o’ch asedau a’ch adnoddau
- cydymffurfio â’r cyfreithiau a rheoliadau codi arian - yn arbennig mewn meysydd fel cyfreithiau diogelu data a thrwyddedu
- dilyn safonau codi arian cydnabyddedig - mae’r Cod Ymarfer Codi Arian yn amlinellu’r rheolau cyfreithiol sy’n gymwys i godi arian
- bod yn agored ac yn atebol - sicrhau bod eich elusen yn cael ei rhedeg yn dda a’ch bod yn cydymffurfio â’r gofynion cyfrifyddu ac adrodd statudol
Mae’r Comisiwn hefyd wedi cynhyrchu rhestr wirio i gyd-fynd â’r canllaw hwn. Mae’r rhestr wirio yn gyfres o gwestiynau i ymddiriedolwyr werthuso perfformiad eu gweithgareddau codi arian.
Cewch wybod rhagor am y gofynion cyfreithiol a’r safonau sy’n gymwys i godi arian o’r Cod Ymarfer Codi Arian.
Sut i drin arian yn gywir
Os ydych yn casglu arian ar gyfer eich elusen, mae’n bwysig rhoi rheolaethau yn eu lle i sicrhau bod yr arian yn mynd tuag at gyflawni nodau eich elusen. Dylech sicrhau bod:
- pob blwch casglu yn cael ei agor yn rheolaidd ac mae’r cynnwys yn cael ei gyfrif
- mae o leiaf dau unigolyn yn trin ac yn cofnodi’r arian a dderbynnir
- yr holl arian parod rydych yn ei gasglu yn cael ei fancio gan eich elusen cyn gynted â phosibl heb dynnu treuliau.
Cymorth Rhodd
Mae Cymorth Rhodd yn ffordd i elusennau gynyddu gwerth rhoddion gan drethdalwyr y DU. Pan fydd pobl yn rhoi drwy ddefnyddio Cymorth Rhodd, gallwch adennill treth gan Gyllid a Thollau EM. Ar gyfer pob £1 a roddir, gallwch hawlio 25 ceiniog ychwanegol. Yn ogystal, o dan gynllun rhodion bach Cymorth Rhodd, mae rhai elusennau’n gymwys i hawlio taliad ychwanegol ar eu rhoddion arian parod bach.
Mae Cyllid a Thollau EM yn rhoi cyngor ar Gymorth Rhodd, y cynllun rhoddion bach Cymorth Rhodd a materion treth eraill: Gallwch lawrlwytho ffurflenni datganiad Cymorth Rhodd a thaflenni cymorth hefyd.
Cymorth Rhodd: yr hanfodion - Cyllid a Thollau EM
Codi arian i elusennau: canllaw i ddyletswyddau ymddiriedolwyr