Cael tystysgrif PDU1 neu ddatganiad cyfraniadau Yswiriant Gwladol
Gwnewch gais ar-lein i gael tystysgrif PDU1 am fudd-dal diweithdra os ydych yn byw dramor, neu os byddwch yn byw dramor yn y dyfodol, neu i gael datganiad papur o’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais i gael tystysgrif PDU1 i ategu hawliad am fudd-dal diweithdra yn:
- yr UE
- Norwy
- Gwlad yr Iâ
- Y Swistir
- Liechtenstein
Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflen hon i gael datganiad papur o’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer eich cofnodion eich hun.
Cyn i chi ddechrau
Gallwch ond gwneud cais i gael tystysgrif PDU1 os ydych yn byw y tu allan i’r DU yn barod neu’n bwriadu symud cyn pen y 2 wythnos nesaf.
Os ydych yn gwneud cais i gael tystysgrif PDU1, gofynnir i chi am y canlynol:
- dogfen sy’n dangos y rheswm dros adael eich cyflogaeth flaenorol yn y 3 blynedd diwethaf, er enghraifft, llythyr sy’n dweud bod eich cytundeb yn dod i ben
- tystiolaeth o’ch enillion o’ch swydd fwyaf diweddar, er enghraifft, slip cyflog terfynol, ffurflen P60 neu ffurflen P45
Bydd angen i chi hefyd wybod y dyddiadau roeddech yn byw yn y DU a’ch cyfnodau o hunangyflogaeth neu gyflogaeth yn y DU yn ystod y 3 blynedd diwethaf, gan gynnwys y canlynol:
- cyfeiriadau eich cyflogwyr
- bylchau yn eich cyflogaeth
Os oeddech yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol, bydd angen i chi wybod dyddiad eich cyfnod hawlio diwethaf.
Gall gymryd hyd at 6 wythnos i brosesu’ch cais a phostio’ch eich tystysgrif PDU1 neu’ch datganiad cyfraniadau Yswiriant Gwladol atoch.
Gwneud cais ar-lein
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn gwneud cais, gan ddefnyddio un o’r canlynol:
- Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf)
- cyfeiriad e-bost
Os nad oes gennych god post yn y DU, bydd angen i chi wybod eich rhif Yswiriant Gwladol i fewngofnodi am y tro cyntaf.
Gallwch gadw’r hyn yr ydych wedi’i nodi a dod yn ôl yn nes ymlaen. Dechrau nawr
Ffyrdd eraill o wneud cais
Os na allwch wneud cais ar-lein, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF a gofyn am fersiwn bapur o’r ffurflen gais hon.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 2 Mehefin 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Chwefror 2025 + show all updates
-
The online form CA3916 has been removed. You'll need to contact the National Insurance general enquiries helpline and ask for a paper version of the certificate application form.
-
Information about when you can apply for a PDU1 certificate or a National Insurance contributions statement and when to expect a PDU1 certificate or National Insurance contributions statement to be processed and posted has been added.
-
First published.