Canllawiau

Cael help gyda Diwygio’r Cyfnod Sail

Sut i gael help gyda newidiadau i Hunanasesiad ar gyfer unig fasnachwyr a phartneriaid nad yw eu blwyddyn gyfrifyddu yn dod i ben ar na rhwng 31 Mawrth a 5 Ebrill.

Mae ystod eang o wybodaeth ac offerynnau ar-lein ar gael i’ch helpu i gael yr atebion a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer y newidiadau o ran Diwygio’r Cyfnod Sail.

Fel arfer, mae’n llawer gynt, haws a rhatach i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF yn hytrach na chodi’r ffôn.

Dysgwch sut i gael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch.

Gwylio fideos a gweminarau ar Ddiwygio’r Cyfnod Sail

Gwyliwch fideo YouTube (yn Saesneg) i ddysgu am newidiadau i Hunanasesiad ar gyfer unig fasnachwyr a phartneriaid nad yw eu blwyddyn gyfrifyddu’n dod i ben ar na rhwng 31 Mawrth a 5 Ebrill.

Cael help gyda diwygio’r cyfnod sail (symud i’r sail blwyddyn dreth newydd)

Gwylio recordiad o weminar ar Ddiwygio’r Cyfnod Sail

Gwiriwch ddiweddariadau e-bost a gweminarau CThEF ar gyfer asiantau ac ymgynghorwyr treth (yn agor tudalen Saesneg) i gael gwybod am y canlynol:

  • y sail blwyddyn dreth newydd
  • y flwyddyn drosiannol ar gyfer diwygio’r cyfnod sail
  • rhyddhad gorgyffwrdd i’r busnesau y mae hyn yn effeithio arnynt

I gael rhagor o wybodaeth am Hunanasesiad gan gynnwys cofrestru, Ffurflenni Treth, biliau treth a thaliadau, darllenwch am ddiweddariadau e-bost gan CThEF, fideos a gweminarau ar gyfer Hunanasesiad (yn agor tudalen Saesneg).

Cael rhagor o wybodaeth am Ddiwygio’r Cyfnod Sail

Am ragor o wybodaeth am Ddiwygio’r Cyfnod Sail ac i weld a yw hyn yn effeithio arnoch chi, darllenwch am y newidiadau i adrodd incwm o hunangyflogaeth a phartneriaethau (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch hefyd ddarllen mwy am sut i gyfrifo eich elw trethadwy yn y daflen gymorth Hunanasesiad HS222 (yn agor tudalen Saesneg).

Cael help gyda’ch ffigur rhyddhad gorgyffwrdd

Os yw’ch busnes wedi cynhyrchu unrhyw ryddhad gorgyffwrdd, bydd eich blwyddyn olaf i hawlio hyn wedi’i nodi ar eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2023 i 2024. Dysgwch sut i gael eich ffigur Rhyddhad Gorgyffwrdd.

Defnyddio offerynnau ar-lein

Cyfrifwch eich elw trosiannol (yn agor tudalen Saesneg) — defnyddiwch yr offeryn hwn i gyfrifo’ch elw trosiannol a’ch helpu i gwblhau’ch Ffurflen Dreth.

Cael gafael ar ap CThEF

Gallwch lawrlwytho ap CThEF ar ddyfais symudol (er enghraifft, eich ffôn neu dabled) a’i ddefnyddio er mwyn:

  • gwirio faint o dreth Hunanasesiad sydd arnoch
  • gwneud taliad
  • gosod nodyn atgoffa i wneud taliad Hunanasesiad
  • dod o hyd i’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Hunanasesiad
  • diweddaru’ch cyfeiriad post
  • dewis i CThEF gysylltu â chi yn electronig, yn hytrach na drwy lythyr
  • dilyn trywydd y ffurflenni a’r llythyrau rydych wedi’u hanfon atom
  • hawlio ad-daliadau

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Ionawr 2025 + show all updates
  1. Added translation

  2. A link to Self Assessment helpsheet HS222 has been added to the 'Get more information on Basis Period Reform' section of this page.

  3. A link for more information on Self Assessment has been added.

  4. First published.

Print this page