Canllawiau

Cael eich ffigur Rhyddhad Gorgyffwrdd

Pryd i gynnwys y Rhyddhad Gorgyffwrdd yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2023 i 2024 os oes gennych elw trosiannol, a sut i wneud hynny.

Cyn mynd ati i gynnwys Rhyddhad Gorgyffwrdd yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad, dylech wirio a yw Diwygio’r Cyfnod Sail (yn agor tudalen Saeneg) yn effeithio arnoch.

Gallwch ddefnyddio Rhyddhad Gorgyffwrdd ym mlwyddyn dreth 2023 i 2024 os yw’r canlynol yn wir am ddyddiad diwedd eich cyfnod cyfrifyddu:

  • nid yw’r dyddiad yn cyd-fynd â’r flwyddyn dreth (mae cyfnodau cyfrifyddu rhwng 31 Mawrth a 5 Ebrill yn cyd-fynd â’r flwyddyn dreth)
  • mae’r dyddiad wedi newid er mwyn iddo gyd-fynd â’r flwyddyn dreth, ond ni wnaethech ddefnyddio unrhyw Ryddhad Gorgyffwrdd dyledus
  • gwnaeth y dyddiad newid yn ystod blwyddyn dreth 2023 i 2024, ac mae’n cyd-fynd â’r flwyddyn dreth erbyn hyn

Os gwnaethoch roi’r gorau i fasnachu ym mlwyddyn dreth 2023 i 2024, byddwch yn dal i allu cynnwys Rhyddhad Gorgyffwrdd yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn honno.

Mae Adran 19 o Sut i gyfrifo’ch elw trethadwy (taflen gymorth HS222 ynghylch Hunanasesiad) (yn agor tudalen Saeneg) yn esbonio sut i gynnwys Rhyddhad Gorgyffwrdd yn eich Ffurflen Dreth.

Sut i gyfrifo’ch ffigur Rhyddhad Gorgyffwrdd

Mae’n bosibl bod eich ffigur Rhyddhad Gorgyffwrdd eisoes wedi’i nodi fel ‘Elw Gorgyffwrdd a Gariwyd Ymlaen’ ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad flaenorol os oedd yr elw hwnnw yn cynnwys:

  • incwm masnachu o Hunangyflogaeth (SA103)
  • incwm masnachu o Bartneriaeth (SA104)
  • incwm masnachu o Hunangyflogaeth ac o Bartneriaeth

Os nad ydych yn gwybod eich ffigur Rhyddhad Gorgyffwrdd, ac ni allwch ddod o hyd iddo ar eich Ffurflenni Treth Hunanasesiad blaenorol, mae’n bosibl y bydd CThEF yn gallu eich helpu.

Gall y gwasanaeth hwn dim ond darparu ffigur Rhyddhad Gorgyffwrdd os yw’r wybodaeth hon eisoes wedi cael ei rhoi yn Ffurflen Dreth flaenorol. Os nad yw’r wybodaeth hon wedi cael ei rhoi yn barod, mae’n bosibl ni fydd y gwasanaeth yn gallu darparu ffigurau elw hanesyddol er mwyn caniatáu i Ryddhad Gorgyffwrdd gael ei ailgyfrifo.

Peidiwch â defnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych yn gweithio fel ymddiriedolaeth, ystâd, neu gwmni dibreswyl sydd ag incwm masnachu. Yn yr achosion hyn, dylech gysylltu â CThEF i gael gwybod sut i gael eich ffigur Rhyddhad Gorgyffwrdd.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Fel asiant sy’n gweithredu ar ran cleient, bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’r manylion rydych yn eu defnyddio wrth fewngofnodi i’ch Cyfrif Gwasanaethau Asiant neu’ch Cyfrif Gwasanaethau Ar-lein ar gyfer Asiantau. Mae’n rhaid i chi lenwi cais ar wahân ar gyfer pob cleient.

Bydd angen i chi roi’r canlynol:

  • eich enw
  • enw’ch busnes neu ddisgrifiad ohono (neu’r ddau)
  • cyfeiriad eich busnes
  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
  • manylion ynghylch p’un a yw’ch busnes yn unig fasnachwr neu’n rhan o bartneriaeth
  • UTR y bartneriaeth, os mai partneriaeth yw’ch busnes
  • y dyddiad y dechreuodd eich busnes hunangyflogedig, neu’r dyddiad y gwnaethoch ddechrau fod yn bartner mewn partneriaeth (os nad ydych yn siŵr am yr union ddyddiad, defnyddiwch y flwyddyn dreth)
  • y cyfnod cyfrifyddu neu gyfnod sail diweddaraf a ddefnyddiwyd gan y busnes
  • y flwyddyn, neu’r blynyddoedd, y newidiodd y cyfnod cyfrifyddu (os yw’n berthnasol)

Bydd gofyn i chi roi manylion cyswllt, a byddwch yn gallu dewis cael ymateb drwy e-bost neu drwy’r post – p’un bynnag dull sydd well gennych.

Dechrau nawr

Ar ôl i chi wneud cais am eich ffigur Rhyddhad Gorgyffwrdd

Bydd CThEF yn anfon llythyr neu e-bost atoch i gadarnhau. Bydd yr ohebiaeth hon yn cynnwys cyfeirnod eich cyflwyniad. Dylech gadw hwn gan y bydd o gymorth pan fyddwch yn llenwi eich Ffurflen Dreth.

Os ydych wedi cael e-bost cadarnhau, bydd yr e-bost hwnnw yn cynnwys y manylion canlynol er mwyn i chi sicrhau ei fod wedi dod oddi wrth CThEF:

  • UTR, wedi’i olygu i ddangos y 4 digid olaf yn unig
  • llythyren gyntaf eich enw cyntaf
  • eich enw olaf

Byddwn yn adolygu’r wybodaeth rydych wedi’i rhoi i ni a chysylltu â chi cyn pen 3 wythnos. Gall hyn gymryd mwy o amser os yw’ch achos yn un cymhleth.

Os ydych wedi gwneud cais i gael ffigur Rhyddhad Gorgyffwrdd ar gyfer eich cleient

Bydd CThEF yn anfon llythyr neu e-bost atoch i gadarnhau. Bydd yr ohebiaeth hon yn cynnwys cyfeirnod eich cyflwyniad.

Os ydych wedi cael e-bost cadarnhau, bydd yr e-bost hwnnw yn cynnwys y manylion canlynol er mwyn i chi sicrhau ei fod wedi dod oddi wrth CThEF:

  • UTR, wedi’i olygu i ddangos y 4 digid olaf yn unig
  • llythyren gyntaf o enw cyntaf eich cleient
  • enw olaf eich cleient

Byddwn yn adolygu’r wybodaeth rydych wedi’i rhoi i ni a chysylltu â chi cyn pen 3 wythnos. Gall hyn gymryd mwy o amser os yw’ch achos yn un cymhleth.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 September 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 May 2024 + show all updates
  1. Information to retain your submission reference after you have requested your Overlap Relief figure has been added.

  2. We've added information about when this service will not be able to provide an Overlap Relief figure.

  3. Made it clearer how an agent can use this service on behalf of a client.

  4. First published.

Sign up for emails or print this page