Canllawiau

Cael pobl ifanc i mewn i swyddi Cynllun Kickstart

Sut i gael pobl ifanc i mewn i swyddi Cynllun Kickstart a newidiadau mae angen i chi ddweud wrthym amdanynt.

This guidance was withdrawn on

Applications for the Kickstart Scheme closed at midday on 17 December 2021.

Check the deadlines for completing other Kickstart Scheme tasks.

Applies to England, Scotland and Wales

Canllawiau cyflogwr

Gwnaeth ceisiadau i’r Cynllun Kickstart gau am hanner dydd ar 17 Rhagfyr 2021.

Gwiriwch y dyddiadau cau eraill ar gyfer cwblhau tasgau Cynllun Kickstart.

Os ydych yn borth Kickstart, gwiriwch y canllawiau ar gyfer pyrth.

Sut i gael y bobl ifanc i mewn i’r swyddi

Mae’n rhaid i chi fod:

  • wedi gwneud cais llwyddiannus ar-lein neu fod wedi gwneud cais drwy borth Kickstart cyn hanner dydd ar 17 Rhagfyr 2021
  • wedi llofnodi a dychwelyd eich cytundeb grant Cynllun Kickstart i DWP neu’ch porth Kickstart erbyn 11:59pm ar 7 Ionawr 2022
  • dylech fod wedi cyflwyno eich swyddi gwag i DWP erbyn 11.59pm ar 31 Ionawr 2022 Ar ôl 1 Mawrth 2022, stopiodd anogwyr gwaith yn y Ganolfan Byd Gwaith baru pobl ifanc â swyddi. Rhaid i’r person ifanc ddechrau’r swydd ar neu cyn 31 Mawrth 2022.

Dylech chi neu’ch porth Kickstart ddweud wrth DWP erbyn 11:59pm ar 30 Ebrill 2022 fod y person ifanc wedi dechrau er mwyn i ni allu prosesu’r cyllid. Byddwch yn cael gwybod sut i wneud hyn yn yr e-bost ‘atgyfeirio’.

Rhaid i bob swydd fod wedi derbyn cyflwyniad gan anogwr gwaith DWP i dderbyn cyllid llawn.

Os yw person ifanc yn gadael y swydd yn gynnar

Rhaid i chi e-bostio DWP cyn gynted â phosibl os yw person ifanc naill ai:

  • yn gadael eu swydd cyn diwedd y cyfnod o 6 mis
  • angen gadael eu swydd dros dro (er enghraifft ar gyfer absenoldeb arbennig neu gyfyngiadau sy’n gysylltiedig â COVID-19)

Mae’r cyfeiriad e-bost yr un e-bost rydych chi’n ei ddefnyddio i ddweud wrth DWP am ddyddiad dechrau y person ifanc. Fe’ch hysbysir sut i wneud hyn yn yr e-bost ‘atgyfeirio’ a gewch pan fydd anogwr gwaith yn atgyfeirio person ifanc at eich swydd wag.

Os bydd person ifanc yn gadael ei swydd yn gynnar, y taliad cyflog nesaf a drefnwyd gan DWP fydd yr olaf y byddwch yn ei dderbyn ar eu cyfer.

Efallai y bydd DWP yn gallu ymestyn y cyfnod cyllido os bydd yn rhaid i’r person ifanc roi’r gorau i weithio dros dro.

Gallwch ddisodli’r person a adawodd yn gynnar gyda pherson ifanc arall a gyfeiriwyd at y swydd wag gan anogwr gwaith. Rhaid iddynt ddechrau ar neu cyn 31 Mawrth 2022.

Cael help a chefnogaeth i reoli’ch swyddi Cynllun Kickstart

Cysylltwch â’ch cyswllt Cynllun Kickstart lleol neu genedlaethol os oes angen help arnoch i reoli eich swyddi Cynllun Kickstart.

Cyhoeddwyd ar 13 September 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 31 March 2022 + show all updates
  1. Updated page as the deadline for young people starting in the job has now passed.

  2. Updated page to say the deadline for referring young people into jobs has now passed.

  3. Updated page as the deadline for submitting vacancies has now passed.

  4. Updated page as the deadline for grant agreements to be signed and returned has now passed.

  5. Updated page to say applications for Kickstart Scheme funding closed at midday on 17 December 2021, removed links to the apply guides and removed information about grant variations.

  6. Added deadlines for completing Kickstart Scheme tasks.

  7. Added information about Kickstart Scheme applications closing on 17 December 2021.

  8. First published.