Canllawiau

Mynd yn ddi-bapur i gael diweddariadau am eich cod treth

Defnyddiwch eich cyfrif ar-lein CThEF neu’r ap CThEF i gael rhai negeseuon a llythyrau gan CThEF ynghylch treth. 

Rhowch adborth i ni.

Mae angen eich help arnom i wella ac i wneud yn siŵr bod GOV.UK ar ei orau i chi. Gallwch roi adborth i ni am yr arweiniad hwn er mwyn helpu i wella GOV.UK.

Gallwch ddewis cael rhai o’ch negeseuon a llythyrau gan CThEF ynghylch treth ar-lein a drwy e-bost.

Defnyddio ap CThEF

  1. Lawrlwythwch ap CThEF.
  2. Ewch i ‘eich manylion’.
  3. Dewiswch ‘newid y ffordd mae CThEF yn cysylltu â chi’.
  4. Dewiswch sut rydych chi am gael llythyrau a negeseuon gan CThEF.

Defnyddiwch yr adran gohebiaeth i wneud y canlynol: 

  • bwrw golwg dros negeseuon a llythyrau gan CThEF ynghylch treth
  • dilyn hynt y ffurflenni yr ydych wedi’u hanfon at CThEF
  • dod o hyd i fanylion cyswllt os oes gennych gwestiwn

Defnyddio’ch cyfrif ar-lein CThEF

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein CThEF.
  2. Ewch i’ch ‘proffil a’ch gosodiadau’.
  3. Yn yr adran gosodiadau, dewiswch ‘newid’ i ddiweddaru eich dewisiadau cysylltu.
  4. Gallwch ddewis i wneud y canlynol:
  • cael e-bost pan fydd gennych lythyr treth newydd
  • diweddaru’r cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei ddefnyddio i gael llythyrau treth
  • cael llythyrau treth drwy’r post.

Ar eich prif dudalen TWE, gallwch ddewis y canlynol:

  • ‘negeseuon’ i wirio eich llythyrau treth a negeseuon gan CThEF
  • ‘gwirio cynnydd’ i ddilyn hynt y ffurflenni yr ydych wedi’u hanfon atom — mae’r adran hon yn gadael i chi wirio cynnydd ar unrhyw ffurflen a gyflwynwyd gennych

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Ionawr 2025

Print this page