Gwybodaeth Rhent a Phrydles – Cosbau
Gwybodaeth am y cosbau y gall Asiantaeth y Swyddfa Brisio eu codi os na fyddwch yn ateb ei cheisiadau am fanylion rhent a phrydles.
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gofyn yn rheolaidd am fanylion rhent, prydles a pherchnogaeth eiddo annomestig. Mae angen yr wybodaeth hon i bennu gwerth trethiannol eiddo. Defnyddir hyn wedyn i gyfrifo trethi busnes. Mae Deddf Llywodraeth Leol 2003 yn galluogi Asiantaeth y Swyddfa Brisio i godi cosbau os nad yw trethdalwyr yn darparu’r wybodaeth y gofynnir amdani.
Beth yw’r cosbau
Gellir codi cosb o £100 os na chyflwynir yr wybodaeth y gofynnir amdani o fewn y 56 diwrnod a ganiateir ar gyfer llenwi a dychwelyd y ffurflenni (digidol neu bapur). Os nad yw’r wybodaeth wedi’i darparu o hyd cyn pen 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad o gosb cyntaf, bydd hysbysiad o gosb terfynol yn cael ei godi am £100 pellach. O’r dyddiad hwn ymlaen, ychwanegir tâl o £20 y dydd at y cyfanswm sy’n ddyledus hyd nes bo’r wybodaeth yn cael ei darparu. Y gosb uchaf yw £500 neu werth trethiannol yr eiddo, pa un bynnag sydd fwyaf. Mae cosbau’n stopio cynyddu pan fo Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn fodlon bod yr wybodaeth a geir yn gywir ac yn gyflawn.
Os ydych wedi cael hysbysiad o gosb sifil
Mae hysbysiadau o gosb yn cynnwys manylion ar sut i gyflwyno’r wybodaeth, ac opsiynau ar gyfer talu’r gosb. Ar gyfer y rhan fwyaf o eiddo gallwch gyflwyno’r wybodaeth ar-lein (bydd angen y cyfeirnod o’ch llythyr arnoch). Ar gyfer mathau eraill o eiddo gallwch lawrlwytho’r ffurflen i’w hanfon yn ôl. Os ydych wedi llenwi’r ffurflen ond heb roi rhywfaint o wybodaeth, bydd cosbau’n cynyddu nes bod yr holl wybodaeth angenrheidiol wedi’i darparu. Os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen, gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar y llythyr a anfonwyd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Os nad oes gennych yr holl wybodaeth angenrheidiol, llenwch y ffurflen cyn belled â phosibl, a chyflwynwch ddatganiad byr i esbonio’r hyn sydd ar goll, a pham. Os ydych wedi cyflwyno’r wybodaeth yn ddiweddar ond wedi cael hysbysiad o gosb, mae’n debyg bod hyn oherwydd i’r wybodaeth ddod i law y tu allan i’r 56 diwrnod. Rydych yn dal i fod yn agored i dalu’r gosb. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion ar yr hysbysiad i gael gwybod mwy.
$cta Gall methu â thalu’r gosb lawn sy’n ddyledus arwain at achos llys. $cta
Apeliadau
Os ydych o’r farn bod y gosb wedi’i chyflwyno ar gam, gallwch apelio cyn pen 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad o gosb cyntaf. Ar gyfer eiddo yng Nghymru, gallwch gysylltu â’r swyddfa Tribiwnlys Prisio Cymru annibynnol sy’n lleol i chi i gael copi o’r ffurflen apelio yn erbyn hysbysiad o gosb – ardrethu annomestig. Dim ond un apêl y bydd angen i chi ei chyflwyno gan y bydd unrhyw gosbau pellach a roddir yn cael eu hystyried o dan yr un apêl.