Canllawiau

Helpu i wella GOV.UK – cofrestru i gymryd rhan mewn ymchwil

Cofrestrwch i gymryd rhan mewn ymchwil i helpu i wella GOV.UK ac i sicrhau ei bod yn gweithio’n dda ar gyfer y bobl sydd ei hangen.

Cofrestrwch i gymryd rhan mewn ymchwil i helpu i wella GOV.UK ac i sicrhau ei bod yn gweithio’n dda ar gyfer y bobl sydd ei hangen. 

I gofrestru, mae’n rhaid i chi fod yn 18 neu’n hŷn ac yn byw yn y DU neu’r UE.

Nid oes angen i chi fod yn fedrus wrth ddefnyddio cyfrifiaduron neu’r rhyngrwyd.

Pan fyddwch yn cofrestru, cewch arolwg byr i lenwi a fydd yn gofyn amdanoch chi ac am y ffordd yr ydych yn defnyddio cyfrifiaduron. Bydd eich atebion hefyd yn ein helpu ni i sicrhau eich bod yn cael eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwil sy’n berthnasol i chi. 

Ni chaiff eich atebion eu rhannu gydag unrhyw un arall. Gallwch wrthod gwahoddiad a gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.

Cofrestru nawr

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Pan fyddwch yn cofrestru, rydych yn cytuno y gellir cysylltu â chi ar gyfer cymryd rhan mewn ymchwil. 

Byddwn yn anfon arolygon rheolaidd atoch i ddysgu mwy amdanoch ac am y ffordd yr ydych yn defnyddio GOV.UK. Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i’ch gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwil bellach.

Efallai y gofynnir i chi wneud y canlynol:

  • rhoi cynnig ar wasanaeth ar-lein newydd
  • ateb mwy o gwestiynau drwy e-bost
  • siarad â’n hymchwilwyr am y ffordd rydych wedi rhyngweithio â’r llywodraeth yn y gorffennol
  • ymweld ag adeilad y llywodraeth sy’n agos atoch chi
  • cytuno i’n hymchwilwyr i gwrdd â chi yn eich cartref neu’ch man gwaith

Gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Bydd manylion am sut i wneud hyn yn cael eu cynnwys ym mhob gohebiaeth a anfonwn atoch.

Pan fyddwch yn cael gwahoddiad

Pan fyddwch yn cael gwahoddiad i gymryd rhan yn yr ymchwil, byddwn yn egluro pwrpas yr ymchwil a beth ddylech ei wneud os ydych am gymryd rhan.

Efallai y byddwn yn cynnig cymhelliant, fel taleb, fel diolch am gymryd rhan yn yr ymchwil. Byddwn yn rhoi gwybod i chi a fydd cymhelliant yn cael ei gynnig pan fyddwn yn anfon gwahoddiad atoch.

Os byddwch yn dewis cymryd rhan, byddwn bob amser yn cael cydsyniad ar sail gwybodaeth gennych cyn y byddwch yn gwneud hynny. Gallwch newid eich meddwl ar unrhyw adeg heb roi rheswm.

Cysylltu â thîm ymchwil GOV.UK

Gallwch gysylltu â thîm ymchwil GOV.UK i gael rhagor o wybodaeth neu i ddiweddaru eich manylion.

Government Digital Service

The White Chapel Building
10 Whitechapel High Street
London
E1 8QS

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 25 July 2024

Sign up for emails or print this page