Cael help gydag incwm tramor ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad
Dod o hyd i wybodaeth ynghylch sut i lenwi adrannau incwm tramor eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Mae’n bosibl y bydd angen i chi roi gwybod am incwm tramor ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Incwm tramor yw unrhyw incwm o’r tu allan i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw yn cael eu hystyried yn dramor.
Cyn i chi lenwi’ch Ffurflen Dreth, gallwch gyfrifo a oes angen i chi dalu Treth Incwm y DU ar eich incwm tramor (yn agor tudalen Saesneg) a gwirio a oes angen i chi roi gwybod am incwm tramor ar Ffurflen Dreth (yn agor tudalen Saesneg).
Taflenni cymorth i’ch helpu i lenwi’ch Ffurflen Dreth
Cewch wybodaeth o’r taflenni cymorth a fydd yn eich helpu i lenwi’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad, gan gynnwys sut i wirio a ydych yn gymwys ar gyfer rhyddhad penodol a sut i gyfrifo ffigurau efallai y bydd angen i chi eu cynnwys yn eich Ffurflen Dreth.
Defnyddiwch y taflenni cymorth hyn i ddod o hyd i arweiniad pellach i’ch helpu i lenwi adrannau incwm tramor eich Ffurflen Dreth.
Y sail trosglwyddo
Darllenwch ynghylch talu treth ar y sail drosglwyddo (HS264) (yn agor tudalen Saesneg).
Buddsoddiadau tramor ac incwm
Dysgu am y canlynol:
Rhyddhad treth a lwfansau
Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
-
y terfyn ar ryddhadau Treth Incwm (HS204) (yn agor tudalen Saesneg)
-
lwfansau cyfalaf a thaliadau mantoli (HS252) (yn agor tudalen Saesneg)
Fideos YouTube CThEF
Datgan incwm tramor
Gwyliwch fideo am incwm tramor a’r hyn sydd angen i chi ei adrodd i CThEF.
A oes angen i mi ddatgan incwm tramor i CThEF? (yn agor tudalen Saesneg)
Byddwch yn dysgu’r canlynol:
-
beth yw incwm tramor
-
sut a phryd i roi gwybod i ni am incwm tramor rydych wedi’i gael
-
sut i roi gwybod i ni am incwm tramor a gafwyd yn y blynyddoedd blaenorol
Rhyddhad Trethiant Dwbl
Gwyliwch fideo am Ryddhad Trethiant Dwbl ac incwm tramor.
Rhyddhad Trethiant Dwbl ac incwm tramor (yn agor tudalen Saesneg).
Byddwch yn dysgu’r canlynol:
-
beth yw Rhyddhad Trethiant Dwbl
-
sut i hawlio rhyddhad am dreth a delir ar incwm tramor pan fo cytundeb trethiant dwbl (DTA) ar waith
-
pa gofnodion i’w cadw
Ffurflen Dreth bapur
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth SA100 ar bapur, mae’n bosibl y bydd angen i chi lenwi tudalen atodol SA106 i gofnodi incwm tramor.