Cael help gydag incwm arall y DU ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad
Dod o hyd i wybodaeth ynghylch sut i lenwi adran ‘incwm arall y DU’ eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Mae’n bosibl y bydd angen i chi ddatgan incwm arall y DU ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad, gan gynnwys y canlynol:
-
llog o warantau
-
enillion yswiriant bywyd
-
cynlluniau cyfranddaliadau
-
cyfandaliadau cyflogaeth
Os ydych yn berchen ar gyfranddaliadau mewn cwmni ac wedi cael taliad difidend, gallwch wirio a oes angen i chi dalu treth ar ddifidendau a dysgu sut i roi gwybod am dreth ar ddifidendau.
Os yw’ch cyflogwr wedi cynnig cyfranddaliadau’r cwmni i chi fel gwobr am weithio iddo, gallwch ddysgu a oes angen i chi dalu treth ar Gynlluniau Cyfranddaliadau Cyflogeion (yn agor tudalen Saesneg).
Taflenni cymorth i’ch helpu i lenwi’ch Ffurflen Dreth
Mae taflenni cymorth yn rhoi gwybodaeth a all eich helpu i lenwi adrannau gwahanol o’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Cyfranddaliadau a gwarantau ar sail cyflogaeth
Dysgwch sut i gyfrifo’r swm trethadwy ar eich cyfranddaliadau a gwarantau ar sail cyflogaeth (HS305) (yn agor tudalen Saesneg).
Enillion ar bolisïau yswiriant bywyd yn y DU
Os oes gennych enillion ar bolisïau yswiriant bywyd yn y DU (HS320) (yn agor tudalen Saesneg), gallwch ddysgu am y canlynol:
-
pwy ddylai roi gwybod am yr enillion ar bolisïau yswiriant bywyd yn y DU
-
sut i roi gwybod am yr enillion
-
a oes hawl gennych i gael i unrhyw ryddhadau
Cynllun Incwm Cronedig
Defnyddiwch y daflen gymorth ynghylch y Cynllun Incwm Cronedig (HS343) (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gwneud y canlynol:
-
penderfynu a yw’r Cynllun Incwm Cronedig yn berthnasol i chi
-
cyfrifo’ch colledion neu’ch elw incwm cronedig, os yw’r cynllun yn berthnasol i chi
Incwm trethadwy arall ar gyfer Hunanasesiad
Os oes gennych incwm trethadwy arall (HS325) (yn agor tudalen Saesneg) gallwch gyfrifo unrhyw dreth y bydd angen i chi ei thalu ar incwm megis:
-
enillion achlysurol
-
comisiwn
-
incwm llawrydd
Fideo YouTube CThEF
Gwyliwch recordiad o weminar ynglŷn â rhyddhadau treth ac incwm arall ar eich Ffurflen Dreth ar-lein.
Rhyddhadau treth ac incwm arall ar eich Ffurflen Dreth ar-lein (yn agor tudalen Saesneg).
Byddwch yn dysgu am incwm arall, er enghraifft:
-
llog y DU
-
incwm o ddifidendau
-
pensiynau’r Wladwriaeth
-
Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel
Ffurflen Dreth ar bapur
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth SA100 ar bapur, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio’r dudalen atodol SA101 er mwyn rhoi gwybod am incwm arall yn y DU.