Canllawiau

Sut mae'r elfen drosiannol yn cael ei chyfrifo pan fyddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol

Efallai y byddwch yn derbyn taliad ychwanegol i'ch helpu i symud i Gredyd Cynhwysol, os ydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo.

Yn berthnasol i England, Gymru and Scotland

Os ydych wedi derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo ac wedi cael gwybod i symud i Gredyd Cynhwysol, dylech ddarllen diogelwch trosiannol os ydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo yn gyntaf.

Beth yw’r elfen drosiannol

Elfen yw taliad ychwanegol ar ben eich lwfans safonol o Gredyd Cynhwysol. Mae taliadau ychwanegol ar gyfer talu cost pethau fel gofalu am rywun, cael plant, neu symud o un budd-dal i’r llall.

Mae’r elfen drosiannol yn daliad ychwanegol sy’n rhan o ddiogelwch trosiannol. Mae diogelwch trosiannol ar gael i chi os ydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo ac yn symud i Gredyd Cynhwysol erbyn eich dyddiad cau.

Sut rydym yn cyfrifo’r elfen drosiannol

Mae eich hawl i Gredyd Cynhwysol yn cael ei asesu bob mis, yn seiliedig ar eich amgylchiadau presennol. Gelwir hyn yn gyfnod asesu.

Pan fydd cais yn cael ei wneud a’i ddilysu, cyfrifir yr elfen drosiannol gan ddefnyddio swm Credyd Cynhwysol sy’n seiliedig ar eich amgylchiadau hysbys o’r diwrnod cyn eich cais. Cyfeirir at y swm hwn fel y ‘dyfarniad Credyd Cynhwysol dangosol’.

Ar y pwynt hwn, yr elfen drosiannol yw’r gwahaniaeth rhwng y dyfarniad Credyd Cynhwysol dangosol a’ch swm budd-dal etifeddol blaenorol. Ei nod yw diogelu eich hawl i fudd-dal ar yr amser symud i Gredyd Cynhwysol. 

Mae’r dyfarniad Credyd Cynhwysol dangosol, gan gynnwys yr elfen drosiannol, yn amcangyfrif yn seiliedig ar eich amgylchiadau y diwrnod cyn i chi wneud eich cais Credyd Cynhwysol.

Cymhwyso’r cap ar fudd-daliadau

Mae ceisiadau Credyd Cynhwysol yn cael eu heffeithio gan y cap ar fudd-daliadau. Defnyddir y cap hefyd wrth gyfrifo’r elfen drosiannol a’i gymhwyso i’r dyfarniad Credyd Cynhwysol dangosol. Ni fydd rhai pobl, fel y rhai sydd o oedran Pensiwn y Wladwriaeth, yn cael eu hawl i Gredyd Cynhwysol wedi’i gapio.

Darganfyddwch fwy am pryd nad yw’r cap ar fudd-daliadau yn effeithio arnoch.

Gwybodaeth a ddefnyddiwn i gyfrifo’r elfen drosiannol

Cyfrifir yr elfen drosiannol gan ddefnyddio gwybodaeth a roddwch inni yn eich cais Credyd Cynhwysol a’ch gwybodaeth budd-daliadau etifeddol bresennol.

Mae’r cais yn cynnwys manylion am eich amgylchiadau, sy’n cynnwys:

  • eich statws cyflogaeth

  • gyda phwy rydych yn byw

  • incwm eich cartref, cynilion a buddsoddiadau

  • os oes gennych blant ac unrhyw gostau gofal plant

  • os oes gan unrhyw un yn eich cartref anabledd neu gyflwr iechyd

  • os ydych chi’n ofalwr

  • y budd-daliadau rydych y neu cael nawr

Mae’r wybodaeth hon yn cael ei gwirio yn erbyn data presennol o:

  • systemau budd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP): Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm

  • cynghorau lleol: Budd-dal Tai

  • Cyllid a Thollau EF (CThEF): Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith

Os ydych yn ofalwr

Os byddwch yn datgan eich hun i fod yn ofalwr ar eich cais Credyd Cynhwysol, hyd yn oed os nad ydych yn cael Lwfans Gofalwr, bydd eich dyfarniad Credyd Cynhwysol dangosol yn cynnwys taliad ychwanegol. Gelwir hyn yn elfen gofalwr.

Os ydych mewn cwpl

Os ydych yn byw gyda phartner, bydd eu manylion hefyd yn cael eu defnyddio i gyfrifo’r elfen drosiannol. Mae hyn oherwydd bod Credyd Cynhwysol yn fudd-dal i’r cartref, felly bydd angen i chi wneud cais ar y cyd gyda’ch partner. 

Byddwn yn casglu’r un wybodaeth am amgylchiadau eich partner, a gymerir o’u cais Credyd Cynhwysol. Os yw’ch partner yn hawlio unrhyw fudd-daliadau, bydd hyn hefyd yn cael ei wirio yn erbyn y data presennol. 

Os nad ydych yn byw gyda’ch partner

Os ydych chi a’ch partner yn byw ar wahân ac yn hawlio credydau treth fel cwpl, byddwch yn cael eich trin fel 2 gartref ar wahân ar Gredyd Cynhwysol. O dan yr amgylchiadau hyn, ni fyddech chi na’ch partner yn gymwys i gael yr elfen drosiannol. Oherwydd eich bod wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo, bydd gennych dal hawl i’r gwahanol reolau cymhwysedd.

Os ydych yn gyfrifol am blentyn

Gallech gael swm ychwanegol, yr ‘elfen plentyn’, ar gyfer eich plant os ydynt yn byw gyda chi. Byddech yn cael yr elfen plentyn tan 31 Awst ar ôl eu:

  • pen-blwydd yn 16 oed

  • pen-blwydd yn 19 oed, os ydynt mewn addysg sydd ddim yn addysg uwch neu hyfforddiant llawn amser– er enghraifft, maent yn astudio ar gyfer TGAU, Lefel A, BTEC, Scottish Highers a SVQs, neu NVQs hyd at lefel 3

Os ydych yn derbyn Credydau Treth Plant ar hyn o bryd, ond nad yw’ch plentyn yn gymwys i gael elfen plentyn Credyd Cynhwysol, ni fydd yr elfen drosiannol yn cwmpasu’r gwahaniaeth hwnnw mewn hawl.

Symud o’r hen fathau o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)

Mae dau fath o hen ESA:

  • ESA yn seiliedig ar incwm sy’n destun prawf modd

  • ESA yn seiliedig ar gyfraniadau sydd ddim yn destun prawf modd

Os ydych chi neu’ch partner yn cael ESA yn seiliedig ar incwm, bydd hyn yn cael ei gynnwys wrth gyfrifo’r elfen drosiannol. Mae hyn oherwydd bod Credyd Cynhwysol hefyd yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar eich incwm.

Os oeddech hefyd yn cael ESA yn seiliedig ar gyfraniadau, yn ogystal â, neu fel rhan o’ch cais am ESA yn seiliedig ar incwm, byddwch yn dechrau cael ESA Dull Newydd yn lle hynny. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth i ddechrau cael ESA Dull Newydd. Bydd y rhan ESA Dull Newydd o’ch cais yn cael ei drosglwyddo’n awtomatig.

Bydd y swm a gewch gan ESA Dull Newydd yn cael ei ddidynnu o’ch swm Credyd Cynhwysol.

Symud o gredydau treth

Rydym yn gofyn i CThEF am wybodaeth am eich cais credydau treth. Defnyddir y wybodaeth hon wrth gyfrifo elfennau trosiannol. Mae gwybodaeth CThEF yn cynnwys manylion fel eich incwm a hysbyswyd yn flaenorol. 

Mae CThEF yn cyfrifo credydau treth gan ddefnyddio eich incwm blynyddol. Nid ydynt yn defnyddio incwm gwirioneddol y flwyddyn gyfredol oherwydd nad yw hyn yn hysbys ymlaen llaw. 

Felly, bydd eich dyfarniad Credyd Cynhwysol dangosol, gan gynnwys cyfrifiad yr elfen drosiannol, naill ai’n seiliedig ar eich:

  • incwm o’r flwyddyn flaenorol

  • amcangyfrif incwm: yr hyn a ddywedoch wrth CThEF bod eich incwm yn y flwyddyn bresennol yn debygol o fod

Rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau i CThEF cyn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Os ydych yn gymwys i gael costau tai

Os nad oeddech yn cael Budd-dal Tai yn flaenorol, cyfrifir yr elfen drosiannol (a’r dyfarniad Credyd Cynhwysol dangosol) heb elfen o dai.

Fodd bynnag, gellir cynnwys costau tai o’ch cyfnod asesu cyntaf os nodir angen tai yn eich cais Credyd Cynhwysol. Nid yw hyn yn newid mewn amgylchiadau, felly ni fydd yn achosi i’r elfen drosiannol ostwng.  Darganfyddwch fwy am daliadau diogelwch trosiannol.

Cymorth

Llinell Gymorth Hysbysiad Trosglwyddo Credyd Cynhwysol

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Ffôn: 0800 169 0328

Mae rhifau ffôn 0800 yn rhad ac am ddim i’w ffonio o ffonau symudol a llinellau daear.

Os na allwch siarad neu glywed dros y ffôn

Defnyddiwch ein gwasanaeth Relay UK i wneud galwad am ddim, a gefnogir gan destun i’r Llinell Gymorth Hysbysiad Trosglwyddo Credyd Cynhwysol. Deialwch 18001 ac yna 0800 169 0328.

Os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Defnyddiwch ein gwasanaeth ‘video relay’ i wneud galwad wedi’i ddehongli gan BSL i’r Llinell Gymorth Hysbysiad Trosglwyddo.

Os ydych ar gyfrifiadur, ewch i’r gwasanaeth ‘video relay’.

  1. dewiswch Company to contact: ‘DWP (DA Languages)’
  2. dewiswch Department: ‘Universal Credit - if you have a Migration Notice letter’.

Os ydych ar ffôn symudol neu dabled, defnyddiwch yr ap InterpretersLive!.

O’r ap:

  1. dewiswch ‘Directory’, chwiliwch am ‘Universal Credit’
  2. dewiswch ‘Universal Credit - I have a Migration Notice letter’
  3. dewiswch ‘Call Now’, dewiswch Company to contact: ‘DWP (DA Languages)’
  4. dewiswch Department: ‘Universal Credit - if you have a Migration Notice letter’
  5. dewiswch ‘Connect Now’.

Os ydych angen help, edrychwch ar fideo YouTube.

Help i Hawlio

Os ydych angen help i wneud eich cais gallwch gael cymorth am ddim gan y gwasanaeth Help i Hawlio gan Cyngor ar Bopeth:

Cymorth a chefnogaeth ariannol arall

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, gallech fod yn gymwys i gael budd-daliadau neu gymorth ariannol eraill. Dylech wirio beth allwch ei gael.

Efallai y byddwch yn gallu cael cymorth gwahanol yn yr Alban.

Os ydych mewn trafferthion ariannol, gallwch gael help a chyngor gan y llywodraeth, cynghorau lleol, a sefydliadau eraill, fel advicelocal.uk.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 25 September 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 October 2024 + show all updates
  1. Added details of the Migration Notice Helpline video relay service for British Sign Language users.

  2. Clarified how the transitional element is calculated for claimants who are moving from Employment and Support Allowance (ESA).

  3. Added translation

  4. Removed section on SDP (Severe Disability Premium) as we look at the total amount of claimants’ legacy benefit award when working out their Universal Credit and transitional element. And clarified guidance on the Universal Credit ‘child element’, Child Tax Credit and the transitional element, for those responsible for a child.

  5. First published.

Sign up for emails or print this page