Sut i wneud cais am ad-daliad ar gyfer TAW a thollau mewnforio os ydych wedi eu gordalu (C285)
Dysgwch pa wasanaeth i’w ddefnyddio ar gyfer datganiadau mewnforio a wneir trwy’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau (CDS) neu ar gyfer datganiadau mewnforio a wneir trwy System y Tollau ar gyfer Trin Nwyddau a Gaiff eu Mewnforio a’u Hallforio (CHIEF).
Gallwch hawlio ad-daliad os ydych wedi gordalu TAW a thollau mewnforio.
Mae’n bosibl y gallwch ddefnyddio’n gwasanaeth ar-lein, neu wneud cais gan ddefnyddio ffurflen C285. Yn gyntaf, bydd yn rhaid i chi wirio trwy ba wasanaeth y cafodd y datganiad ei wneud, naill ai:
- CHIEF — mae’n bosibl y gallwch ddefnyddio’n gwasanaeth ar-lein
- Gwasanaeth Datganiadau Tollau — gwnewch gais trwy ddefnyddio ffurflen C285
Os ydych yn ansicr, gallwch ofyn i’ch asiant neu’ch cynrychiolydd gadarnhau trwy ba wasanaeth y cafodd y datganiad ei wneud.
Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y byddwch hefyd yn gallu hawlio ad-daliad os ydych wedi gordalu tollau ecséis.
Os ydych o’r farn fod gennych hawl i ad-daliad o doll dramor yn dilyn adolygiad gan yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach, bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio ffurflen C285. Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i wneud hyn.
Os ydych yn fusnes sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW, mae’n rhaid i chi beidio â defnyddio ffurflen C285 i hawlio ad-daliad ar gyfer TAW a ordalwyd — rhaid gwneud unrhyw addasiad ar eich Ffurflen TAW. Mae addasiadau i Ffurflenni TAW yn destun i reolau TAW arferol.
Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, mae’n rhaid i chi barhau i ddefnyddio ffurflen C285 i hawlio ad-daliad.
Pwy all wneud cais
Gallwch hawlio os ydych yn un o’r canlynol:
- mewnforiwr neu gynrychiolydd y mewnforiwr
- asiant
- trefnydd anfon nwyddau
- unigolyn preifat
Pryd i wneud cais
Mae’r terfyn amser ar gyfer cyflwyno hawliad am ad-daliad ynghylch gordaliad tollau a TAW fel a ganlyn:
- 3 blynedd am ordaliadau
- 1 flwyddyn am fewnforion wedi’u gwrthod
- 3 mis am gofnod tollau annilys
Gwiriwch y ddeddfwriaeth am eithriadau.
Dylech wneud cais o dan y ddeddfwriaeth Cod Tollau’r Undeb (UCC) (yn Saesneg) os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir amdanoch:
- gwnaethoch fewnforio’r nwyddau cyn 1 Ionawr 2021
- rydych yn mewnforio nwyddau i mewn i Ogledd Iwerddon
Dylech wneud cais o dan y Rheoliadau Tollau (Tollau Mewnforio) (Ymadael â’r UE) 2018 (yn Saesneg) os ydych wedi mewnforio nwyddau i mewn i Brydain Fawr (Cymru, yr Alban, Lloegr) cyn neu ar ôl 1 Ionawr 2021.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Er mwyn hawlio ad-daliad, bydd angen y canlynol arnoch:
- ffurflen E2 — y ffurflen am gofnod wedi’i dderbyn a ddaeth i law ar gyfer nwyddau sy’n cael eu mewnforio i’r DU, ar gyfer hawliadau CHIEF yn unig
- ffurflen C88 — y brif ffurflen tollau a ddefnyddir ar gyfer datgan nwyddau i’r tollau wrth fasnachu’n rhyngwladol, ar gyfer hawliadau CHIEF yn unig
- y cyfeirnod symud (MRN) — ar gyfer hawliadau y Gwasanaeth Datganiadau Tollau
- anfoneb fasnachol am y nwyddau sy’n cael eu mewnforio
- rhestr bacio
- y dogfennau cludiant — y bil teithrestr awyr neu’r bil llwytho
- swm y TAW neu dollau mewnforio a dalwyd i CThEF
- y swm y dylid bod wedi’i dalu i CThEF
- eich manylion cyswllt a’ch cyfeiriad
Mae’n bosibl y gofynnir i chi uwchlwytho dogfennaeth ychwanegol yn dibynnu ar fath eich hawliad.
Gwneud cais ar ein gwasanaeth ar-lein ar gyfer CHIEF
Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein i gyflwyno’ch hawliad (yn Saesneg) os gwnaethoch eich datganiad ar CHIEF.
Sicrhewch fod yr holl ddogfennau a ffeiliau angenrheidiol yn barod gennych i’w huwchlwytho.
Hawlio ar ffurflen C285
Os gwnaethoch eich datganiad ar y Gwasanaeth Datganiadau Tollau
Defnyddiwch ffurflen C285 ar gyfer datganiadau a wneir trwy’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau.
Os gwnaethoch eich datganiad ar CHIEF
Os ydych yn dewis peidio â defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, gallwch dal i ddefnyddio ffurflen C285 ar gyfer CHIEF ar gyfer datganiadau a wneir ar CHIEF.
Ar gyfer y ddwy ffurflen, bydd angen i chi wneud y canlynol:
-
Casglu’r holl wybodaeth sydd gennych cyn i chi ddechrau arni. Byddwch yn llenwi’r ffurflen ar-lein ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd.
-
Llenwch ffurflen C285 ar gyfer y Gwasanaeth Datganiadau Tollau neu ffurflen C285 ar gyfer CHIEF.
-
Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post i CThEF, gan gynnwys unrhyw ddogfennau ategol perthnasol — defnyddiwch y cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.
Mae’n bosibl nad yw’r ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol — megis darllenydd sgrin. Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni Cyllid a Thollau EF (yn Saesneg).
Os cafodd y datganiad ei wneud gan asiant neu gynrychiolydd
Gallwch ofyn i’ch asiant neu’ch cynrychiolydd gadarnhau pa wasanaeth a ddefnyddiwyd i wneud y datganiad.
Os ydych yn gwmni cludo parseli’n gyflym (FPO), bydd angen i chi wirio’r arweiniad ar ‘Talu TAW ar fewnforion o’r tu allan i’r DU i Brydain Fawr, ac o’r tu allan i’r UE i Ogledd Iwerddon’ (yn Saesneg) cyn defnyddio’r ffurflen hon.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 January 2024 + show all updates
-
Information about what to do if you think you may be entitled to a repayment of customs duty following a review by the Trade Remedies Authority has been added.
-
This guide has been updated to confirm that VAT-registered importers cannot use form C285 to reclaim overpayments of import VAT and the section on overpaid Customs Duty on imports from Cambodia and Myanmar has been removed.
-
Added information on 'Overpaid Customs Duty on imports from Cambodia and Myanmar'.
-
First published.