Sut i ddewis asiant treth
Dysgwch am yr hyn y dylech ei ystyried os hoffech ddefnyddio asiant treth i ryngweithio â CThEF ar eich rhan.
Gallwch benderfynu defnyddio ymgynghorydd treth neu asiant treth i ryngweithio â CThEF ar eich rhan, yn enwedig os oes gennych faterion treth cymhleth.
Os byddwch yn penderfynu bod angen asiant treth arnoch, sicrhewch eich bod yn cymryd gofal wrth fynd ati i ddewis yr asiant treth sy’n iawn i chi. Mae hyn oherwydd mai chi sy’n gyfrifol am eich materion treth eich hun, hyd yn oed os ydych yn defnyddio asiant treth.
Sut i ddewis a oes angen asiant treth arnoch neu beidio
Cyn i chi ddewis asiant treth, dylech ystyried a allwch ddelio â CThEF eich hun. Gallwch wneud hyn drwy’ch cyfrif treth personol neu’ch cyfrif treth busnes.
Gallwch hawlio ad-daliad treth ar GOV.UK. Does dim angen i chi ddefnyddio asiant i wneud hyn ar eich rhan.
Bydd asiant yn codi ffioedd arnoch am hawlio ad-daliad treth ar eich rhan.
Gallwch hefyd gael help drwy wneud y canlynol:
- cysylltu â CThEF os oes gennych unrhyw gwestiynau syml
- trafod eich materion treth ag aelodau o’ch teulu neu’ch ffrindiau os ydynt wedi’u cofrestru fel cynorthwywyr dibynadwy
- cysylltu ag elusennau, megis Tax Help for Older People a TaxAid
- cysylltu â Chyngor ar Bopeth
Yr hyn y mae angen i chi ei ystyried
Os byddwch yn penderfynu defnyddio asiant treth, dylech wneud y canlynol:
- gwirio’i wefan i weld y fath o wasanaethau treth y mae’n eu cynnig
- darllen ei delerau ac amodau er mwyn deall y sefyllfa o ran y canlynol:
- y ffioedd y byddwch yn eu talu
- y contract cyfreithiol y gallech fod yn cytuno i ymrwymo ag ef
- y gwasanaeth yr ydych yn cofrestru amdano
- gwirio’r ffioedd y bydd yr asiant yn eu codi, yn ogystal â sut a phryd y bydd angen i chi dalu’r ffioedd hyn
- ymchwilio i’w enw da a’i waith hanesyddol (er enghraifft, chwilio am ei dudalen Facebook neu ei adolygiadau ar-lein)
- sicrhau bod y profiad cywir ganddo i’ch helpu (er enghraifft, sectorau masnachu neu fusnesau o faint penodol)
- gwirio ei fod yn gallu darparu’r holl wasanaethau y mae eu hangen arnoch (er enghraifft, gwasanaethau y gyflogres, gwaith archwilio neu fuddsoddiadau)
- gofyn os yw wedi’i gofrestru i gael mynediad at wasanaethau CThEF ar-lein er mwyn gwneud eich treth mewn ffordd ddigidol
- cadarnhau ei fod yn ymwybodol o safonau CThEF ar gyfer asiantau, ac yn bodloni’r safonau hyn
- gwirio a yw’ch ymgynghorydd yn meddu ar y cymwysterau proffesiynol perthnasol, neu os yw’n aelod o gorff proffesiynol cyfrifeg neu gorff proffesiynol treth
Dylech wneud yn siŵr eich bod yn cysylltu â chwpl o wahanol asiantau cyn dewis yr un sy’n darparu’r gwasanaethau sy’n addas ar eich cyfer.
Dylech gwrdd â’r person a fydd yn rhyngweithio â CThEF ar eich rhan, a chael gwybod costau ei wasanaethau.
Chi sy’n gyfrifol am y ffigurau a nodwyd ar eich Ffurflen Dreth, hyd yn oed os ydych yn defnyddio asiant. Peidiwch â llofnodi Ffurflen Dreth wag a’i rhoi i’ch asiant treth i’w llenwi – dylech wneud yn siŵr eich bod yn gwirio’ch Ffurflen Dreth cyn ei llofnodi.
Peidiwch byth â rhannu’ch Dynodydd Defnyddiwr na’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth gyda’ch asiant.
Sut mae cyrff proffesiynol ar gyfer asiantau treth yn gweithio
Byddwch yn ymwybodol y gall unrhyw un alw eu hunain yn asiant treth — nid oes rhaid iddo feddu ar gymwysterau penodol nac fod wedi cael hyfforddiant proffesiynol, ac nid yw CThEF yn rheoleiddio asiantau.
Mae nifer o asiantau treth ac ymgynghorwyr treth yn aelodau o gyrff proffesiynol cyfrifeg neu gyrff proffesiynol treth. Mae’r sefydliadau hyn yn darparu cymwysterau perthnasol i’w haelodau, ac yn eu helpu i gadw’n gyfredol drwy hyfforddiant proffesiynol parhaus. Bydd cyrff proffesiynol hefyd yn adolygu ymddygiad eu haelodau, ac yn cymryd camau os ni fydd ymddygiad yr aelodau hyn yn bodloni’r safonau proffesiynol. Mae hefyd yn fwy tebygol y byddai gan aelodau o gyrff proffesiynol yswiriant indemniad proffesiynol — gall yr yswiriant hwn helpu i’ch diogelu os bydd pethau yn mynd o’i le.
Defnyddio asiant treth i gyflwyno hawliadau am ad-daliad TWE neu Dreth Incwm
O 26 Chwefror 2024 ymlaen, os hoffech enwebi asiant i gael ad-daliad ar eich rhan, dylai’r asiant hwnnw ymchwilio i’r hyn y mae angen iddo ei wneud er mwyn cael ad-daliadau TWE neu Dreth Incwm ar ran pobl eraill.
Os gwnaeth asiant gyflwyno hawliad ar eich rhan, ac nad ydych wedi clywed unrhyw beth ynghylch yr hawliad ar ôl 28 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:
- cysylltu â’r asiant i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf, yn hytrach na chysylltu â CThEF
- dewis asiant arall (yn agor tudalen Saesneg) neu gyflwyno’ch hawliad yn uniongyrchol i CThEF
Yr hyn i’w wneud nesaf
Unwaith i chi ddewis asiant, mae’n rhaid i chi ei benodi a’i awdurdodi er mwyn iddo allu delio â CThEF ar eich rhan.
Dysgwch sut i benodi rhywun i ddelio â CThEF ar eich rhan (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 July 2024 + show all updates
-
Added Welsh translation.
-
Information about what to do if you submit your claim by an agent and have not been contacted after 28 days.
-
From 26 February 2024, if you want to nominate an agent to receive a repayment on your behalf, they should find out what they need to do to receive Income Tax or PAYE repayments on behalf of others.
-
Information about tax agents needing an agent services account to submit Income Tax or PAYE repayment claims on behalf of others has been added.
-
First published.