Sut i reoli gwirfoddolwyr eich elusen
Sut i recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr ar gyfer eich elusen, gan gynnwys y broses fetio, talu treuliau, disgrifiadau rôl ac yswiriant.
Yn berthnasol i England and Gymru
Sut i gael hyd i wirfoddolwyr
Gallwch gael gwirfoddolwyr o nifer o ffynonellau gwahanol, er enghraifft:
- ar lafar
- argymhelliad personol
- hysbysu yn y wasg leol neu genedlaethol
Mae gwefannau lle y gallwch chi hysbysebu rolau gwirfoddolwyr yn cynnwys Volunteering England, Reach a TimeBank.
Mae canllawiau gan KnowHowNonProfit ar ble i gael hyd i wirfoddolwyr a’r broses recriwtio gwirfoddolwyr.
Gwiriadau cofnodion troseddol
Os bydd eich gwirfoddolwyr yn gweithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed , yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i chi gael gwiriad gan y gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS, y Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) ar eu cyfer. Hyd yn oed os na fydd eich gwirfoddolwyr yn dod i gysylltiad â buddiolwyr agored i niwed mae’r Comisiwn Elusennau yn argymell yn gryf eich bod chi’n cael gwiriad DBS beth bynnag.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn chwilio cofnodion yr heddlu i adnabod pobl nad ydynt yn addas ar gyfer rhai mathau o waith, yn enwedig gwaith gyda phlant ac oedolion agored i niwed.
Mae gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd am ddim i wirfoddolwyr.
Statws cyfreithiol gwirfoddolwyr
Gall eich elusen wynebu problemau cyfreithiol os nad ydych yn gwahaniaethu’n glir rhwng ei staff cyflogedig a’i wirfoddolwyr. Gall gwirfoddolwyr fynnu bod yr un hawliau ganddynt â gweithwyr, gan gynnwys hawlio diswyddo annheg er enghraifft.
Gall disgrifiad rôl ysgrifenedig ar gyfer eich gwirfoddolwyr helpu i egluro beth yw’r ffiniau a’r disgwyliadau. Mae’n bwysig peidio â drysu rhwng y disgrifiad rôl a chytundeb cyflogaeth neu ddisgrifiad swydd. Er enghraifft ni all fynnu bod gwirfoddolwyr yn gweithio oriau penodol.
Treuliau i wirfoddolwyr
Nid yw gwirfoddolwyr yn cael eu talu am eu hamser ond dylent gael eu talu am unrhyw dreuliau parod. Gallai’r treuliau hyn gynnwys:
- teithio
- tâl post a chostau ffôn os ydynt yn gweithio o gartref
- offer hanfodol, megis dillad amddiffynnol
Dylai gwirfoddolwyr ddarparu derbynebion ar gyfer unrhyw dreuliau.
Os yw gwirfoddolwr yn cael unrhyw fath o wobr neu dâl heblaw treuliau, gallant ystyried hyn yn gyflog a gallant gael eu dosbarthu fel gweithiwr. Mae hyn yn rhoi rhai hawliau cyflogaeth iddynt.
Yswiriant ar gyfer gwirfoddolwyr
Gwnewch yn siŵr bod yswiriant eich elusen yn cynnwys eich gwirfoddolwyr. Hyd yn oed os nad yw’ch elusen yn cyflogi staff, gallwch benderfynu prynu yswiriant atebolrwydd cyflogwyr i wirfoddolwyr beth bynnag.
Gwiriwch a yw’ch polisi yswiriant yn:
- cynnwys gwirfoddolwyr
- cwmpasu’r gweithgareddau y bydd gwirfoddolwyr yn eu gwneud
- datgan unrhyw derfynau oedran i wirfoddolwyr